Thursday, October 03, 2013

Mwy o adrodd dethol gan Gwilym Owen ar addysg yng Ngwynedd

Fel rhywun sydd yn gweithio ym maes addysg mae'n debyg y dyliwn groesawu'r ffaith bod Gwilym Owen yn dangos diddordeb yn y pwnc hwnnw.  Ond os ydi fy nghof yn gywir braidd yn gyfyng ydi ei ddiddordeb - does ganddo ond diddordeb mewn addysg yng Ngwynedd, a does ganddo ond diddordeb mewn unrhyw beth negyddol y gall ddod o hyd iddo yn narpariaeth Gwynedd.

Mae ei ymdrech yn Golwg heddiw yn glasur o'i fath.  Yn wahanol i'r arfer mae yna ychydig o ymchwil y tro hwn - mae wedi cael ei ddwylo ar adroddiad Estyn ar y gwasanaeth yng Ngwynedd, wedi dweud pwt am y canfyddiadau ac wedi mynd ati i restru pob sylw negyddol mae'n gallu dod o hyd iddo, tra'n anwybyddu pob sylw cadarnhaol.

 Mae gan Gwil hanes o riportio dethol ac anonest  tra'n ymdrin ag addysg yng Ngwynedd  Bydd darllenwyr cyson Gwilym (neu Flogmenai)  yn cofio iddo honni bod canran uchel o blant Gwynedd yn mynd i'r sector uwchradd yn anllythrennog ar sail y ffaith nad ydi pawb yn cyrraedd lefel 4 mewn llythrennedd (yn union fel yn achos pob AALl arall yn y DU), ac mai 27% yn unig o blant Gwynedd sy'n siarad y Gymraeg efo'i gilydd ar sail holiadur oedd wedi ei gasglu i raddau helaeth ym Mro Dysyni - ardal mwyaf Seisnig a gwledig Gwynedd. Y gwir ganfyddiad oedd mai dyna'r ganran oedd yn defnyddio'r iaith yn ddi eithriad -  roedd 71% o hyd yn oed y sampl Seisnig yma yn defnyddio peth Cymraeg efo'i gilydd.

Er mwyn darparu cyd destun teg - yn wahanol i'r hyn a gewch yn Golwg - mae'r adroddiad yn barnu mai digonol ydi perfformiad yr AALl yng Ngwynedd.  Mae'r beirniadaethau a restrwyd gan Gwil yn yr adroddiad, ond mae yna ganmol hefyd - yn ogystal ag i ambell i ragoriaeth - ym maes datblygu'r Gymraeg er enghraifft.

Mae yna gyd destun ehangach hefyd - mae llawer o'r awdurdodau eraill sydd wedi eu harolygu yn y gorffennol agos wedi methu eu harolygiadau - mae Mynwy, Ynys Mon, Penfro, Merthyr, Blaenau Gwent a Thorfaen wedi eu gosod mewn categori 'mesurau arbennig'  - yn wahanol i Wynedd.  Ond dydi hynny ddim o unrhyw ddiddordeb i Gwil wrth gwrs.

2 comments:

Anonymous said...

Diddorol nodi canlyniadau 'The Real School Guide' yn y Western Mail ddydd Sadwrn: o'r ugain ysgol eilradd gyda'r sgor uchaf yng Nghymru, roedd pedair yng Ngwynedd. Abertawe a Sir Fflint ddaeth nesaf gyda thair ysgol yr un.

Dai said...

Pam wyt ti'n traferthu gyda'r twat?

Peidiwch bwydo'r trolls.