Friday, November 01, 2013

Cors Culloden a goroesiad y Gymraeg

Cors Culloden sydd yn y llun - y man lle trechwyd byddin Charles Stewart yn Ebrill 1746 gan fyddin llywodraeth Lloegr.  Roedd llawer o'r sawl a ymladdodd efo Charles yn Ucheldirwyr oedd yn siarad Gaeleg.  O ganlyniad syrthiodd llawer o lid y llywodraeth ar yr ardaloedd hynny lle siaradai pobl Gaeleg.  Un o'r ffyrdd yr amlygwyd y llid hwnnw oedd trwy 'glirio'r' Ucheldiroedd.  Cyn 1746 roedd tua chwarter poblogaeth yr Alban yn siarad Gaeleg - roedd y ganran yn is na 6% erbyn degawd olaf Oes Fictoria.  Erbyn hyn mae'r iaith ar ei gliniau fel iaith gymunedol hyd yn oed yn ei chyn gadarnleoedd yn Ynysoedd y Gorllewin.

Dydi pethau ddim cyn waethed ar y Wyddeleg fel iaith gymunedol, ond mae'n llawer, llawer gwanach na'r Gymraeg.  Torwyd cydlynedd cymdeithasol Gorllewin Iwerddon yn waeth hyd yn oed gan y Newyn Mawr o 1847 ymlaen.  Bu farw tua miliwn o bobl a bu rhaid i filiwn arall adael yr wlad o ganlyniad i hynny.  Cwympodd y nifer a'r ganran oedd yn siarad y Wyddeleg yn gyflym ac yn barhaus wedi hynny.

A dyna o bosibl y gwahaniaeth rhwng Cymru a'r gwledydd Celtaidd eraill yn y DU mewn perthynas a'r iaith frodorol - na chafwyd trawma tebyg yn Nghymru ac ni amharwyd ar ei strwythurau cymdeithasol yn yr un ffordd.  

3 comments:

Liz Saville said...

Diddorol hefyd ystyried y rol a chwaraeodd yr SPCK a'r holl awydd protestanaidd i ledaenu'r efengyl mewn cyhoeddiadau. Daeth y Gymraeg yn iaith ysgrifenedig ar raddfa boblogaidd ar yr un adeg y collwyd miloedd o siaradwyr Gwyddeleg.

Cai Larsen said...

Ia - mae'n bosibl bod y Gymraeg yn magu statws lled 'swyddogol' mewn rhai agweddau ar fywyd yn Oes Fictoria - er nad oedd cydnabyddiaeth i'r Gymraeg mewn cylchoedd llywodraethol / gweinyddiaeth swyddogol ac ati wrth gwrs.

Hogyn o Rachub said...

Ma crefydd yn eitha pwysig yn yr holl beth. Roedd y Gwyddelod, a nifer o siaradwyr yr Aeleg, yn Gatholigion ac i raddau hefyd felly'n grŵp a ddrwgddybiai'r llywodraeth yn fawr, a'i ystyried yn fygythiad, ymhell i'r 19eg ganrif. Roedd y Cymry'n Brotestaniaid pybyr ers hir o dro bryd hynny.

At hynny, mae'r Beibl yn bwysig yma, ond nid jyst am ei fod ar gael yn y Gymraeg. Mae darllen o'r Beibl yn rhan bwysig o Brotestaniaeth, llawer mwy na Phabyddiaeth. Roedd y ffaith bod y Cymry'n darllen eu llyfr pwysicaf yn gyson yn rhywbeth mawr o blaid yr iaith - petai siaradwyr ieithoedd Celtaidd eraill - yn benodol Gaeleg, Gwyddeleg a Llydaweg - â'r traddodiad hwnnw, debyg y Gallai'r tair iaith fos kewn sefyllda gryfach heddiw.