Saturday, November 02, 2013

Ffynnon Glytiau, yr Eglwys a'r SNP

Coed o gwmpas 'ffynnon glytiau' ger pentref Munlochy ar yr Ynys Ddu yng Ngogledd yr Alban ydi'r isod.  Yr arfer sy'n gysylltiedig a'r ffynhonnau hyn ydi socian dilledyn yn nwr ffynnon santaidd, hongian y dilledyn i sychu a gweddio am wellhad o rhyw afiechyd neu'i gilydd.    Mae yna filoedd lawer o ddarnau o ddillad yn crogi oddi wrth ganghenau'r coed o gwmpas ffynnon Munlochy.

Ymddengys bod yr arfer yn mynd yn ol i gyfnod cyn Gristnogol, ac mae wedi parhau hyd at oes sydd bellach yn un ol Gristnogol.  Yr hyn sy'n ddiddorol ydi i'r Eglwys gyfaddawdu yn gynnar efo arferion fel hyn - gweddio i rhyw dduw Celtaidd neu'i gilydd oedd pobl ers talwm, gweddio i Sant Boniface maen nhw heddiw.  Mae'r Eglwys wedi mabwysiadu hen arfer a'i addasu - yn union fel y gwnaeth efo llawer o'n gwyliau crefyddol.  

Mae bod yn hyblyg ynglyn a rhai egwyddorion er mwyn cyrraedd amcan sy'n bwysicach na'r egwyddorion hynny yn dechneg wleidyddol gyfoes wrth gwrs - a rydym wedi gweld hynny yn y ffordd mae'r SNP wedi lleoli eu hunain ar gyfer yr ymgyrch annibyniaeth - cadw'r cysylltiad efo'r teulu brenhinol a'r Gymanwlad, cadw sterling, cadw'r cysylltiad efo NATO er bod y corff hwnnw yn fodlon gwneud defnydd o arfau niwclear.  Mae'r cwbl o'r safbwyntiau uchod yn amhoblogaidd efo elfennau ffwndementalaidd oddi fewn i'r SNP, ond maent yn sicrhau bod pleidlais tros annibyniaeth yn bleidlais tros rhywbeth sydd ddim yn rhy radicalaidd.  Mae pleidlais 'Ia' yn fwy tebygol o lawer o dan amgylchiadau felly.

Mae'n rhyfedd fel mae cymaint yn newid tros amser - ond bod dulliau dwyn perswad ar bobl yn  ddigyfnewid.  Mae hanes yn newid, ond mae'r ddynoliaeth yn aros yr un peth.


No comments: