Friday, November 15, 2013

Trydydd enw ar gyfer enwebiaeth Meirion Dwyfor

Gwynfor Owen y tro hwn - cyn gynghorydd ac aelod cyfredol o Bwyllgor Gwaith y Blaid.  Wele ei neges trydar yn cyhoeddi ei ymgeisyddiaeth  isod:

@GwynforO: Gwynfor Owen A.S.? Swnio yn dda?. Wedi cytuno i roi fy enw ymlaen i Plaid Cymru Dwyfor Meirionydd am enwebiad i ymladd sedd San Steffan 2015.

7 comments:

Anonymous said...

Cytuno ! Gwr bonheddig bob amser. Rhedeg busnes ei hun. Hogyn yn dallt pobol. O leia ddim dyn dwad ydio. Blynyddoedd o brofiad o wleidydda. Well na'r Saville any day.

Anonymous said...

Rwy'n cymryd mai ellyllod (gair Cymraeg am trolls?) sydd ar waith yn y sylwadau uchod? Llais Gwynedd yn dal i wichian, falle? Ta waeth, da cael amrywiaeth o enwau i ddewis rhyngddynt a gobeithio am fwy er mwyn cael trafodaeth wleidyddol go iawn. Dim lle am feirniadaeth personol o gyd-Bleidwyr mewn trafodaeth o'r fath...

Anonymous said...

Pob Lwc i Gwynfor ! Y gorau ( o bell) yn y ras hyd yn hyn.

Anonymous said...

Cytuno! Pob lwc i Gwyn. Ymgeisydd rhagorol.

Anonymous said...

Ia , hei lwc i ti Gwynfor ! Mi fysa ti yn Aelod Seneddol gwerth chweil.

Anonymous said...

Gwych ! Go for it Gwynfor.

Anonymous said...

Os baswn i'n gorfod dewis rhwng Gwynfor a Mandela, Gwynfor fydda hi!!!!