Saturday, December 07, 2013

Dwy flynedd uffernol y Toriaid yng Nghymru

Dydi is etholiadau lleol ddim yn derbyn llawer o sylw gan y cyfryngau prif lif yng Nghymru, a dydi'r ddwy is etholiad yng Nghaerdydd ddim yn eithriadau yn hynny o beth.  Yr hyn sy'n debygol o gael llai fyth o sylw ydi perfformiad uffernol y Toriaid 107 (4.8%) yng Nglanyrafon a 86 (4.8%) yn Spoltt).  Mae'r rhan fwyaf o bobl am wn i yn cofio'r ddau berfformiad erchyll yn Ynys Mon ganddynt eleni - yn etholiadau'r Cyngor (6%)  a'r Cynulliad (8%) gan ddod y tu ol i UKIP ar y ddau achlysur.

Yr hyn na fydd cymaint o bobl yn ei gofio ydi'r gyfres hir o is etholiadau lleol  trychinebus maent wedi ei gael ers dechrau 2012:

Bronglais (Cyngor Tref Aberystwyth) - Dim ymgeisydd.
Pillgwenlli (Casnewydd) - 155 (14.2%).
Penyrheol (Caerffili) - 135 (7.5%).
Bryncoch (Penybont) - Dim ymgeisydd.
Deganwy (Conwy) - 437 (38.4%)
Risca (Caerffili) - 36 (3%)
Caerhun (Conwy) - 170 (22.3%) - ond colli'r sedd a phrofi cwymp o 18.3% yn eu pleidlais.
Cei Connah  (Fflint) - 34 (4.8%).
Sandfields (Castell Nedd / Port Talbot) - 49 (3.3%).
Llansamlet (Abertawe) - 236 (12.9%).
Bettws (Pen y Bont) 12 (1.9%).
Buttrills (Bro Morgannwg)  - 90 (7.4%).
Tredegar Newydd (Caerffili) - 24 (3%).
Gwyngill (Ynys Mon) - Dim ymgeisydd.
Llanbedrgoch (Ynys Mon) - Dim ymgeisydd.
Cyfarthfa (Merthyr) - 26 (2.2%).
Bryncrug (Gwynedd) - Dim ymgeisydd.
De Castell Nedd (Cyngor Tref Castell Nedd) - Dim ymgeisydd.
Penprysg (Cyngor tref Peenybont) - Dim ymgeisydd
Burton (Penfro) - 166 (25%).

Dwi wedi cymryd y canlyniadau i gyd oddi yma.

Rwan dwi'n gwybod nad ydi'r Toriaid yn gwneud cyn waethed yn y polau, a dwi'n gwybod nad ydi hi'n syniad da cymharu gwahanol fath o etholiadau'n rhy agos.  Ond mae'n ymddangos bod y Toriaid Cymreig yn cael coblyn o drafferth i gael eu cefnogwyr i fynd allan i bleidleisio mewn etholiadau lle mae'r gyfradd pleidleisio yn weddol isel.  Etholiad felly fydd etholiad Ewrop y flwyddyn nesaf.  Ar hyn o bryd mae'n edrych yn debygol y byddant yn syrthio o fod ar frig y pol yn 2009 i fod yn bedwerydd y tro hwn - ac mae hefyd yn edrych yn debygol y byddant yn colli eu sedd.  

9 comments:

Anonymous said...

Roedd na rhai is-etholiadau eraill sy ddim yn y rhestr, yn cynnwys is-etholiad Deganwy, lle naeth y Toris cipio'r sedd.

http://www.welshelections.org.uk/wales/lby/deganwy.php

ac un Sir Benfro, lle roeddan nhw'n ail:

http://www.welshelections.org.uk/wales/lby/burton.php

Mae na rhai canlyniadau trychinebus ymysg y rhestr, ond dydy'r darlun mawr ddim mor glir a hynny.

Anonymous said...

http://penartharbyd.wordpress.com/2012/11/16/the-count-2/lic

Anonymous said...

http://penartharbyd.wordpress.com/2013/08/12/penarth-and-cardiff-south-conservatives/

Cai Larsen said...

Anon 8.44 - dwi'n ymddiheuro os dwi wedi methu unrhyw is etholiadau - dydi o ddim yn gamgymeriad bwriadol. Mi chwilia i am yr is etholiadau ti'n son amdanynt a'u rhoi ar y rhestr os ydyn nhw wedi digwydd ar ol Ionawr 2012.

Alwyn ap Huw said...

Byddwn yn disgwyl i Lafur ail gipio'r brig yn Etholiadau Ewrop blwyddyn nesaf ac o bosib i fynd yn ôl at gael dau aelod; ond os bydd Llafur yn adennill yr ail sedd bydd hynny ar draul UKIP nid y Torïaid

Cai Larsen said...

Wel y peth ydi hyn Alwyn - os ydi'r polau yn gywir mae y Toriaid gryn dipyn yn is nag oedden nhw yn 09 tra bod UKIP yn uwch. Felly byddem yn disgwyl i bleidlais y naill godi a'r llall syrthio. Doedd y gwahaniaeth rhyngddynt ddim yn enfawr yn 09.

Dai said...

Os bydd i Lafur ennill ail sedd yn 2014 gall fod ar draul Plaid Cymru os bydd UKIP yn goddiweddid y Blaid. Digon posib.

Anonymous said...

Hefo'r Toriaid yn isel yn y polau piniwn. Llafur ar i fyny, Plaid yn gwneud yn arbennig ers is-etholiad Ynys Mon, ag UKIP yn bwyta i mewn i bleidlais yr asgell dde - bydd sawl ymgeisydd Toriaidd yn dioddef yn 2015.

Mae Guto Bebb yn mynd i golli'i sedd mi dybiwn i, ac fe all sedd David Jones yng Nghlwyd hefyd fod yn y fantol, yn enwedig os bydd perfformiad UKIP yn debyg i'r hyn a welwyd yn 2013.

Yn yr un modd, fe fydd yn rhaid i Glyn Davies weithio'n galed i gadw ei afael ar Faldwyn.Mil o fwyafrif sydd ganddo.

Brian Jones said...

Mi roedd canlyniad Betws yn Rhos gogyfer Cyngor Conwy yn ddiweddar yn ddiddorol sef fod y Tori wedi dod olaf gyda unarddeg y cant o'r bleidlais 83 pleidlais yn unig.