Thursday, December 12, 2013

Pol Cymreig diweddaraf YouGov

Cyn bod polau piniwn Cymreig mor brin, mae'n well i mi wneud sylw neu ddau am y pol piniwn YouGov a ryddhawyd ddoe.  Tri phwynt brysiog cyn cychwyn fodd bynnag - yn gyntaf dwi'n croesawu'r pol - does yna ddim digon yn cael eu cynnal yng Nghymru, yn ail mae YouGov ymysg y cwmniau polio gorau yn y DU ac yn drydydd dwi'n derbyn nad yw'n arfer da i wfftio polau nad ydym yn eu hoffi.

Serch hynny mae yna broblem efo polio Cymreig.  Ar lefel y DU - lle ceir polio mynych iawn - mae polio yn gywir.  Gall cwmniau polio addasu eu methedoleg os ydi eu canfyddiadau yn hollol wahanol i ganfyddiadau cwmniau eraill neu os ydynt yn cael eu profi'n anghywir gan etholiadau.  Gan nad oes llawer o bolio Cymreig, does yna ddim yr un cyfle i addasu methodoleg - a gallai hyn arwain yn hawdd at ddiffyg cywirdeb.  

Mi wnawn ni ddechrau efo San Steffan.  Canfyddiad YouGov oedd: 





Llafur 46% (+10%)

Toriaid 21% (-5%)

Lib Dems 8% (-12%)

Plaid Cymru 12% (+1%)
UKIP 10% (+8%)
Others 4% (0)

Y peth cyntaf i'w ddweud ydi bod y ffigyrau ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol yn  gredadwy - yng nghyd destun y bleidlais Llafur a Thoriaidd o leiaf.  Maent yn cyd fynd yn dda a'r hyn y byddai rhywun yn ei ddisgwyl o'r polau Prydeinig.  Yn ystod y degawdau diweddaraf mae Llafur yn y DU yn tan berfformio'r hyn maent yn ei wneud yng Nghymru o rhwng 5% a 15%.  Mae pol diweddaraf Prydeinig YouGov yn rhoi Llafur ar 38%.  yn yr un modd mae'r Toriaid yn tan berfformio yng Nghymru o gymharu a'r DU yn yr amrediad cyfyng iawn o 10% i 13%.  33% oedd sgor y Toriaid yn y pol YouGov Prydeinig diweddaraf.  Mae'r canfyddiad ar gyfer y Lib Dems yn edrych ychydig yn uchel, 3% i 5.5% ydi'r amrediad arferol, ac mae'r pol YouGov Prydeinig diweddaraf  yn eu rhoi ar 10%.


Mi edrychwn ni nesaf ar ganfyddiadau YouGov parthed y Cynulliad (etholaethau):

Llafur  43% (+1%) 
Toriaid 19% (-6%) 
Plaid Cymru 20% (+1%) 
Lib Dems 9% (-2%)
 UKIP 7% (+7%)

Mae'r ffigyrau yma yn gredadwy hefyd.  Oni bai am UKIP a'r Toriaid mae'r symudiadau oll oddi mewn i'r margin for error.  Mae yna amrediad o gywirdeb i pob pol - ac mae hwnnw'n 6% (+\_ 3%) mewn pol o fil mewn un YouGov.  Mae'r gogwydd oddi wrth y Toriaid at UKIP yn cael ei adlewyrchu yn y polau Prydeinig.  Yn 2011 pan gafwyd yr etholiadau Cynulliad diwethaf roedd y symudiad oddi wrth y Lib Dems tuag at Lafur eisoes wedi digwydd, ond nid oedd llawer o'r symudiad oddi wrth y Toriaid at UKIP wedi mynd rhagddo eto.  

Cynulliad Rhanbarthau:


Llafur 40% (+3%)
Tori 19% (-3.5%)
Plaid Cymru 15% (-3%)
UKIP 10% (+5%)
Lib Dems 9% (+1%)

Ar wahan i'r cwymp cymharol fach yng nghanran y Toriaid, does yna ddim problem anferth yma chwaith - mae pleidlais y Blaid yn is na'r disgwyl, ond byddai argyhoeddi pleidleiswyr bod rhoi ail bleidlais i Lafur yn wastraff yn rhan o naratif yr etholiad.

Mae'r canfyddiadau Ewrop yn fwy anodd i'w credu fodd bynnag.

Llafur 41% (20%)
Toriaid 20% (21%)
Lib Dems 8% (11%)
Plaid Cymru 13% (18.5%)
UKIP 13% (13


Rwan y peth cyntaf sy'n taro dyn ydi canran UKIP - dydi o heb symud modfedd bron ers 
2009  - er bod y blaid honno yn cael tair neu bedair gwaith cymaint o bleidleisiau yn y polau San Steffan arferol.  Ar ben hynny maent wedi llwyddo i berfformio yn dda iawn yn ddiweddar mewn etholiadau cyngor ac is etholiadau San Steffan. Ydi hi o ddifri yn gredadwy eu bod wedi symud ymlaen ym mhob maes ag eithrio'r un maent yn arfer gwneud orau ynddo  - etholiadau Ewrop?

Ac ydi hi'n debygol nad ydi cefnogaeth y Toriaid yng Nghymru wedi symud fawr ddim 
chwaith er i'w perfformiad yn y polau (San Steffan ) Prydeinig syrthio'n sylweddol rhwng 
09 a rwan (cwymp yn yr amrediad 6% i 11%)?  Ar ben hynny fel rydym wedi trafod 
mewn blogiad diweddar  bu cwymp sylweddol iawn yn y bleidlais Doriaidd ar hyd a lled Cymru mewn is etholiadau.

Ydi hi'n debygol bod Plaid Cymru yn dal ei thir yn y Cynulliad a San Steffan ond yn colli chwarter ei phleidlais ar lefel Ewrop?

Y gwahaniaeth mawr rhwng etholiad Ewrop ac un San Steffan ydi bod y gyfradd pleidleisio'n llawer is yn y cyntaf - 30.5% yn 2009 o gymharu a'r 64.9% a gafwyn yn etholiadad San Steffan 2010.  Mae lle i feddwl bod hyn yn cael mwy o effaith ar y ganran Llafur nag un neb arall.  Er enghraifft cafwyd pol piniwn YouGov (lefel Prydeinig) ar fwriadau pleidleisio Ewrop ym mis Ionawr 2009 - rhai misoedd cyn yr etholiad Ewrop.  Y canfyddiadau oedd:

Toriaid- 35%
Llafur - 29%
Lib Dems 15%
UKIP - 7%

Y canlyniad ar y diwrnod oedd:
Toriaid - 28%
Llafur 15.7%
Lib Dems 13.7%
UKIP - 16.5%

Hynny ydi roedd canran Llafur hanner yr hyn oedd wedi ei ddarogan yn y pol YouGov tra bod canran UKIP ddwywaith yr hyn gafodd ei ddarogan chwe mis cyn yr etholiad. Un 
rheswm am hyn yn fy marn i ydi bod cefnogwyr Llafur yn llai tebygol na chefnogwyr 
pawb arall i bleidleisio mewn etholiad Ewrop, a'r ail ydi bod cefnogwyr UKIP yn fwy 
tebygol na neb arall i wneud hynny - dyna eu cyfle i fwrw pleidlais yn erbyn Ewrop.  
Petai pleidleisio yn orfodol byddai ffigyrau YouGov yn debygol o fod yn nes ati.  Ond 
gan bod grwpiau gyda gwahanol safbwyntiau gwleidyddol efo tueddiadau tra gwahanol o ran mynd allan i bleidleisio, mae cyfradd pleidleisio isel iawn yn gallu cynhyrchu canlyniadau rhyfedd iawn.

I edrych ar y Blaid yn benodol am ennyd mae yna batrwm pendant o ran lefelau ei chefnogaeth - bydd ei pherfformiad gorau mewn etholiadau Cynulliad, wedyn mewn etholiadau cyngor, wedyn mewn etholiadau Ewrop, a bydd ei pherfformiad salaf ar lefel San Steffan.  Mae'r gwahaniaeth yng nghefnogaeth y Blaid yn etholiadau San Steffan o gymharu ag etholiad Ewrop dilynol yn amrywio o 3.1% yn 2004 i 19.7% yn 1999 - gyda gwell perfformiad yn yr etholaeth Ewrop pob tro.  Byddai'r gwahaniaeth o 1% a geir yn y pol YouGov ymhell, bell oddi wrth cymedr y gwahaniaeth.  

Rwan, dydi patrymau hanesyddol ddim yn santaidd - mae pob patrwm yn newid, ond 
maent yn rhoi fframawith i ni sy'n ein cynorthwyo i ddeall perfformiadau cymharol mewn etholiadau.  Mae canfyddiad y pol hwn am etholiad Ewrop ymhell y tu allan i'r fframwaith hwnnw.  Dwi'n meddwl bod y canfyddiad yng nghyd destun etholiad Ewrop yn wallus, ac mai un rheswm am hynny ydi bod YouGov yn cyfri pawb tra mai llai na thraean sy'n pleidleisio. Mae methodoleg y rhan fwyaf o gwmniau eraill yn cymryd tebygrwydd i bleidleisio i ystyriaeth, ond dydi methodoleg YouGov ddim yn gwneud hynny.  Er bod y canfyddiadau Cynulliad yn fwy credadwy, mae'n bosibl bod methedoleg YouGov yn cuddio rhywbeth yno hefyd - mae cyfraddau pleidleisio etholiadau'r Cynulliad yn uwch na rhai etholiadau Ewrop - ond maent yn is na rhai etholiadau San Steffan.

*Diolch i'r Athro Roger Scully am fod a'r amynedd i ateb cwestiynau gennyf ynglyn a methedoleg YouGov.

1 comment:

Dyfed said...

Sylwadau diddorol ond hynod ddigalon. Os ydi pob tabl ar wahan i un Ewrop yn agos i'w lle yna fe ddylem fod yn bur bryderus ynghylch ein datblygiad fel plaid. Dyw'r dacteg o geisio symud i'r chwith ddim yn ymddangos fel petai'n llwyddo.

Ac os ydi tabl Ewrop yn gywir mi fyddai colli'r sedd yn drychineb wleidyddol inni. Mae Jill yn aelod effeithiol. Trueni fyddai ei cholli hi fel llais ar y lefel hon.