Wednesday, December 04, 2013

Y broblem efo gadael i Lafur redeg y gyfundrefn addysg

Roedd un o'r  cyfeillion anhysbys yn holiyn nhudalen sylwadau'r blogiad diwethaf pam bod Vaughan Roderick yn dweud bod y gwrth bleidiau yn cytuno efo cyfeiriad newidiadau'r llywodraeth i'r gyfundrefn addysg, ond yn amau mai'r Blaid Lafur oedd y blaid i'w gwireddu.  Roedd am wybod beth oedd gan Vaughan mewn golwg.  Y gwir ydi nad ydw i'n gwybod - ond mae gen i farn am y ffordd mae Llafur wedi rhedeg y gwasanaeth addysg yng Nghymru a'r cysylltiad rhwng hynny a methiant addysgol yng Nghymru.

Mae'n debyg mai'r hyn y ceir cytundeb ynglyn a fo gan y gwrth bleidiau ydi cyflwyniad diweddar Fframweithiau Llythrennedd a Rhifedd  gan y llywodraeth.  Os mai codi safonau llythrennedd a rhifedd ydi blaenoriaeth y llywodraeth mae'n synhwyrol cynllunio ar gyfer hynny - a chynllun i ffocysu'r cwricwlwm ar lythrennedd a rhifedd ydi'r fframweithiau mewn gwirionedd.  Fel sy'n arferol efo blaengareddau Llywodraeth Cymru mae'r ffordd mae'r fframweithiau wedi eu cyflwyno yn rhy frysiog, heb eu hystyried yn fanwl ac yn afresymegol mewn rhai ffyrdd - ond stori arall ydi honno.

Ond mae newidiadau cymharol ddiweddar ehangach o lawer na hynny.  Er enghraifft rhoir pwyslais bellach ar dracio disgyblion unigol yn fanwl iawn - a gwneud hynny trwy gydol eu gyrfa ysgol.  Profir plant yn flynyddol a gwneir defnydd o ddeilliannau'r profion hynny i gymharu plant ar hyd a lled y wlad efo'i gilydd.  Rhoir pwyslais ar grwpio plant i wahanol gategoriau a thracio cynnydd y grwpiau hynny.  Mae ysgolion ar hyd a lled yr wlad hefyd yn cael eu grwpio ac yn cael eu cymharu efo ysgolion eraill yn yr un grwp.  Mae ysgolion hefyd yn cael eu bandio er mwyn eu cymharu a'i gilydd.  Disgwylir i ysgolion fod a strwythurau rheolaethol mewn lle i reoli perfformiad y sawl sy'n gweithio ynddyntl..  Anogir awdurdodau lleol, llywodraethwyr a chonsortia lleol i herio ysgolion i bwrpas sicrhau bod safonau cyflawniad yn dda a bod y strwythurau rheolaethol mewn lle i sicrhau gwelliant.  Ceir mwy o atebolrwydd - a mwy o lefelau atebolrwydd ag a gafwyd erioed o'r blaen.

Ydi hyn oll yn debygol o wella safonau llythrennedd a rhifedd?  Wel o gael amser mae'n debyg y gwnant - ond mae'r newidiadau yn gymhleth, maent wedi eu cyflwyno yn gyflym iawn ac mae agweddau arnynt yn rhedeg yn groes i rhai o flaengareddau eraill  y llywodraeth.  Yn y tymor byr maent yn achosi peth anhrefn oddi mewn i'r gyfundrefn - a gallai hynny'n hawdd yrru safonau i lawr am gyfnod.

Ond yr hyn sydd heb ei wneud ydi ystyried yn llawn beth yn union mae'r llywodraeth  eisiau gan y gyfundrefn addysg.  Mae llywodraeth Cymru wedi defnyddio'r gyfundrefn  i wthio eu agenda tegwch cymdeithasol ers 1999.   O ganlyniad bydd ysgolion yn cael eu hunain yn gyfrifol am glybiau cyn ac ar ol ysgol, yn hybu iechyd ac arddull byw cynaladwy, yn gweithredu i hybu gwahanol chwaraeon, yn cydlynnu cynlluniau gwella sgiliau rhiantu, yn sicrhau bod plant yn glanhau eu dannedd, yn gweithredu ar ran adrannau gwasanaethau cymdeithasol ac awdurdodau iechyd, yn paratoi prydau i'r henoed ac ati ac ati.  Ychwaneger at hyn y ffaith bod mwy a mwy o gyfrifoldebau sy'n ymwneud a chynnal adeiladau, rheoli cyllid a delio a materion personel wedi cael eu datganoli i ysgolion unigol ac mae'n weddol amlwg bod ffocws ysgolion wedi newid..

Rwan does gen i ddim problem efo'r un o'r gofynion uchod fel y cyfryw - os ydi'r llywodraeth eisiau defnyddio'r gwasanaeth ysgolion i bwrpas hybu ei gwahanol flaengareddau cymdeithasol, mae hynny'n iawn.  Ond yr hyn sydd ddim yn iawn ydi ymddwyn fel petai'n bosibl defnyddio ysgolion fel asiantaethau aml bwrpas heb i hynny effeithio ar eu pwrpas creiddiol.  Dydi hi ddim yn bosibl symud ffocws ysgolion oddi wrth y busnes o addysgu plant  tra'n cynnal a chodi safonau ar yr un pryd.  Dydi hi ddim yn rhesymol disgwyl i neb na dim wneud pob un o ddeg joban mor effeithiol ag y byddant yn gwneud dwy joban.  Os ydi pwrpas sefydliad yn cael ei ehangu a'i  ymestyn, yna mae'n sefyll i reswm y bydd y ffocws creiddiol yn cael ei lastwreiddio  - fel yna mae pethau.

Gyda llaw cafwyd cyfnod o ddeg mlynedd (hyd at 2009) pan roedd yn ymddangos bod y gyfundrefn addysg yn marchogaeth y ddau geffyl - gwella safonau addysgol a gwthio agenda cymdeithasol y llywodraeth.  Roedd canlyniadau profion ac arholiadau yn gwella, roedd arolygiadau ESTYN yn gadarnhaol yn amlach na pheidio - roedd yna ganfyddiad bod pethau'n mynd i'r cyfeiriad cywir.  Wedyn daeth profion Pisa (oedd yn dangos bod safonau yn syrthio a bod Cymru yn tan berfformio o gymharu a gwledydd tebyg) a newidiodd pob dim tros nos.  Dechreuodd ESTYN fod yn llawer, llawer mwy beirniadol o ysgolion ac awdurdodau addysg, a dechreuodd y llywodraeth osod eu strwythurau newydd mewn lle.  Cynllwyn cyfforddus oedd yn siwtio pawb oedd y 'llwyddiant'.

A dyna ni'n dod yn ol at y broblem efo Llafur a'r gwasanaeth addysg.  Mae yn natur Llafur Cymru i fod eisiau defnyddio'r gwasanaeth addysg i fynd i'r afael efo anghyfartaledd a thlodi - mae gwneud hynny yn sicrhau na fydd y gyfundrefn addysg yng Nghymru yn perfformio i'w photensial.  Ar ben hynny dydi defnyddio'r gyfundrefn addysg i ddelio efo tlodi ddim yn ffordd effeithiol o ddelio efo tlodi..  Y ffordd o wneud hynny ydi trwy greu swyddi o ansawdd, a'r ffordd orau o wneud hynny yn ei dro ydi defnyddio'r system trethiant i annog buddsoddiad - ond fel rydym wedi nodi sawl gwaith dydi Llafur ddim eisiau cael eu dwylo ar y gyfundrefn drethiant.  Felly maent yn defnyddio'r gyfundrefn addysg i ddelio efo problem nad yw wedi ei chynllunio i'w datrys.  Canlyniad hyn ydi methiant i fynd i'r afael efo tlodi a system addysg aneffeithiol.










2 comments:

Anonymous said...

Diddorol iawn. Oes yna awgrym, felly, fod Llywodraeth Cymru yn llunio polisiau addysg sy'n ddigon teilwng ar gyfer Merthyr Tydfil a Blaenau Gwent ond sy'n gwbl amhriodol ar gyfer rhannau helaeth o'r wlad.

Cai Larsen said...

Ceir amddifadedd yn y rhan fwyaf o'r wlad - ond mae mwy ym Merthyr a Blaenau Gwent wrth gwrs.