Monday, February 10, 2014

Etholiadau Ewrop 2009 - etholaeth wrth etholaeth

Diolch i @election_data am ddarparu'r daenlen isod.  Mae'n dangos pleidlais a chanran pleidleisiau'r prif bleidiau gwleidyddol ym mhob etholaeth.  Ceir ambell i 'ganlyniad' digon anisgwyl.



3 comments:

Anonymous said...

I arbed pobl rhag gorfod turio drwy'r data...

- Plaid Cymru ar y blaen ym mhob etholaeth a enillwyd ganddynt yn Etholiad Cynulliad 2007 (y llefydd arferol + Llanelli & Aberconwy; Aberconwy o 0.05% dros y Toriaid).
- Toriaid ar y blaen ym mhob etholaeth a ennillwyd ganddynt yn etholiad cynulliad 2007, yn ogystal a holl etholaethau Powys a gogledd-dwyrain Cymru.
- Rhydfrydwyr ar y blaen yng Nghanol Caerdydd yn unig.
- Llaf. pobman arall.

Simon Brooks said...

Nodaf fod y bleidlais i'r BNP ar ei isaf yn yr ardaloedd Cymraeg (y canrannau isaf trwy 'Loegr a Chymru' os cofiaf yn iawn). Ac eto onid dyma'r union ardaloedd yr aeth nifer yn y sefydliad Prydeinig ati ychydig flynyddoedd ynghynt i honni eu bod yn gadarnleoedd ffasgaeth. Rhyfedd o fyd.

Anonymous said...

Edrych ar bleidlais UKIP a BNP gyda'n gilydd. Yn well na Phlaid Cymru yn llawer etholaeth. Nid Saeson yn unig chwaith, yn enwedig yn y Cymoedd. Dyma tystiolaeth fod y Blaid yn methu ateb pryderon y werin yn yr ardaloedd hyn.

Bydd UKIP ar lein i yn ennill dros 30 y cant, mae arnaf ofn.