Tuesday, March 25, 2014

Carwyn Jones yn colli cyfle i hybu'r iaith

Felly mae Carwyn Jones o'r farn mai busnes i'r cynghorau ydi asesu'r galw am addysg Gymraeg a gweithredu ar hynny.  Mewn geiriau eraill caiff y cynghorau hynny sydd wedi methu ag ymateb i'r galw am addysg Gymraeg yn hanesyddol - rhai Llafur yn amlach na pheidio - rwydd hynt i wneud hynny yn y dyfodol.  Mae hyn yn siomedig iawn.

Rwan beth am fod yn onest am funud bach?   Mae yna fwy o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn llawer o feysydd na sydd yna alw amdano fo - ffurflenni, llinellau ffon, peiriannau codi pres ac ati.  Un maes lle mae'r galw yn llawer, llawer uwch na'r ddarpariaeth ydi ym maes addysg Gymraeg.  Yn ol rhai amcangyfrifon byddai 50% o rieni Cymru yn dewis addysg Gymraeg petai addysg felly ar gael yn weddol hawl.  Mae'r rhan fwyaf o awdurdodau lleol wedi methu ymateb i'r galw hwnnw.  Mae'n debyg mai llai na hanner y sawl sydd eisiau addysg Gymraeg i'w plant sy'n ei gael.

Does yna ddim un cam a fyddai'n gwneud mwy o les i'r iaith na gorfodi awdurdodau lleol i asesu'r galw am addysg Gymraeg ac ymateb yn llawn i hynny.  Mae yna oblygiadau hynod boenus i gynghorau lleol sydd methu ag ymateb i dargedau ailgylchu.  Does yna ddim oblygiadau poenus i awdurdodau sy'n methu asesu ac ymateb i'r galw am addysg Gymraeg.  Ceir ffordd hawdd o newid y sefyllfa - gofyn i ESTYN edrych ar pa mor effeithiol mae awdurdodau yn mynd i'r afael ag ymateb i'r galw am addysg Gymraeg pan maent yn arolygu, a rhoi awdurdodau sy'n methu a gwneud hyn mewn mesurau arbennig.  Gallaf addo y byddai hyn yn trawsnewid y sefyllfa tros nos.

Gallai Carwyn Jones wneud hyn yn ddigon hawdd - ond peidiwch a dal eich gwynt - beth bynnag am y geiriau gwyn fydd y Gymraeg byth yn ddigon o flaenoriaeth i lywodraeth Lafur yng Nghaerdydd i fynd ati i droi'r drol efo cynghorau Llafur ar hyd a lled y wlad.

Mater o flaenoriaethau ydi hyn yn y bon - a dydi'r Gymraeg ddim yn flaenoriaeth uchel i'r Blaid Lafur Gymreig.


5 comments:

Anonymous said...

Bendant. Yn y bôn, mae cynghorau yn cynllunio eu darpariaeth o addysg Gymraeg ar sail y rhifau o bobl sy'n mynnu ar addysg cyfrwng Gymraeg er gwaethaf anfanteision. Dyna eu mesur nhw o'r galw.Dim rhagamcaniad, neu gynllunio i arwain y galw, a dim ots os mae plant yn gorfod derbyn anfantais na fydd byth yn dderbyniol i disgyblion addysg cyfrwng Saesneg (e.e. gorfod teithio'n wirion o bell). Maen nhw'n ystyried anfanteision fel hyn yn dderbyniol oherwydd eu syniad bod nhw ond yn ganlyniad o'n dewis ni i fynd am yr opsiwn eithafol o addysg Gymraeg. Yn wir mae hwn yn syniad ffug: wrth gwrs nid oes dewis o gwbl, oherwydd yn amlwg addysg Gymraeg yw'r unig opsiwn derbyniol i Gymry. Dylai bod yn ddewis hollol brif ffrwd, gyda hawl i'r un fanteision a plant sy'n mynd i'r ysgolion Saesneg.Mae'r diffyg llwyr o arweiniad yn y cynllunio yn anwybyddu a tanseilio'r targed o gynyddu'r rhifau yn addysg gyfrwng Gymraeg er mwyn i'r iaith ffynu.

Anonymous said...

Cytuno cant y cant. Mae rhai o'r problemau sydd yn wynebu'r iaith yn anodd iawn i'w datrys (ond nid amhosib!). Fodd bynnag mae rhai pethau hawdd y gall Carwyn eu gwneud. Cofiwch fod Estyn hefyd yn arolygu'r gwasanaethau ieuenctid yn Nghymru, felly basai'n ddigon hawdd mynnu bod y darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn ddigonol yn y maes hwnnw hefyd.
Ac mae llawer iawn mwy o bethau tebyg h.y. gwasanaethau sydd yn cael eu darparu gan awdurdodau lleol.

Anonymous said...

Wyt ti'n gwybod bod Carwyn Jones yn rhoi araith gyhoeddus ym Mrifysgol Bangor nos yfory Cai?

Dwi'm yn gwybod a gynhelir sesiwn cwestiwn ac ateb, ond pwnc ardderchog i'w godi ag ef byddai hyn, mae'n siwr.

Main Arts Lecture Theatre (Prif Adeilad y Brifysgol), 7pm.

Phil Davies

Cai Larsen said...

Fydda i methu bod yno yn anffodus Phil - ond croeso i unrhyw un arall godi'r mater.

Anonymous said...

Yn ol arolwg diweddar gan Cymdeithas yr Iaith ddim ond 2% o gyfraniadau trwy'r iaith Gymraeg wnaeth Leanne Wood. Gwarthus ! Mi ddefnyddiodd Carwyn Jones fwy o'i iaith na Leanne Wood. Mae'r peth yn gywilyddus. Dafydd El ar y top efo wbath fel 98% . .......be mae hynny yn ddeud wrthym ni ??????