Saturday, March 01, 2014

Leighton yn anwybyddu'r Kremlin ar y Tywi tra'n myllio am y Kremlin ar y Cleddau

Mae'n debyg y dylid llongyfarch Leighton Andrews ar y gamp o roi ei ddwy erthygl ddiwethaf yn Golwg bron yn llwyr i gamweinyddiad Cyngor Penfro parthed rhoi taliadau anghyfreithlon i uwch swyddog,  tra'n llwyddo i beidio dweud yr un gair am Sir Gaerfyrddin sydd o dan y chwyddwydr am yr un peth.

Mae'n wir i Leighton ffocysu yn llwyr ar un agwedd gweddol gul ar y sgandal ym Mhenfro - ymgais i ddefnyddio Cwnsler y Frenhines a gyflogir gan y Cyngor i gau cegau cynghorwyr mewn cyfarfod llawn o'r cyngor i drafod y taliadau.  Mae'r sgandal yn llawer ehangach wrth gwrs - ac mae'n ehangach yn Sir Gaerfyrddin nag yw yn Sir Benfro.  Mae'r cyngor yno wedi bod yn defnyddio arian cyhoeddus i gefnogi achos llys gan y prif weithredwr yn erbyn blogiwr sydd wedi bod yn feirniadol o'r cyngor a'i brif weithredwr.  Ni wnaed defnydd o Gwnsler y Frenhines i gau cegau cynghorwyr, ond mae'r cyngor wedi bod yn priodoli beirniadaeth o'i weithgareddau anghyfreithlon i gymhelliad gwleidyddol y sawl sy'n beirniadu.

Roedd ymddangosiad Cwnsler y Frenhines o Lundain ( ar gost y cyngor) yng nghyfarfod llawn Cyngor Caerfyrddin echdoe i bwrpas ymosod ar adroddiad yr Archwiliwr Cyffredinol yn rhy hwyr i Leighton wneud sylw arno yn Golwg wrth gwrs - ond mae yna rhywbeth yn dweud wrthyf na fydd yna son am Sir Gaerfyrddin  yn ei erthygl yr wythnos nesaf chwaith.  Mae Cyngor Caerfyrddin yn cael ei arwain gan y Blaid Lafur wrth gwrs tra bod Cyngor Penfro yn cael ei arwain gan gynghorwyr annibynnol.

Rwan, dydi'r naill gyngor na'r llall efo record arbennig o dda, ac mae lle i ddadlau bod pethau yn gyffredinol hyd yn oed yn waeth yn Sir Benfro nag ydynt yn Sir Gaerfyrddin.  Ond mae'n debyg bod hanes Sir Gaerfyrddin o ran diffyg  trylowyder yn waeth nag yw yn unman arall yng Nghymru.  Os ydych eisiau darllen am hwnnw does yna'r unman yn well i fynd iddo na'r blog Cneifiwr

No comments: