Tuesday, March 04, 2014

Y Bib yn dechrau poeni am fewnfudo

Mae'n ddiddorol bod y BBC wedi cynnal stori trwy'r dydd ar y nifer cynyddol o bobl na anwyd yn y DU sydd bellach yn byw yng Nghymru.  Gogwydd y Bib ar y stori ydi bod y cynnydd canrannol wedi bod yn uchel.  Mae hynny yn gwbl wir wrth gwrs - ond y rheswm ydi bod y nifer cychwynol yn hynod o isel.  Yr hyn sydd ddim yn cael cymaint o sylw ydi bod y niferoedd a'r ganran bresenol yn parhau i fod yn isel wrth safonau gwledydd tebyg.  Y canrannau ar gyfer y DU ydi:

Lloegr - 13.8%
Yr Alban - 7%
Gogledd Iwerddon - 6.6%
Cymru 5.5%

Neu o edrych yn ehangach:

UDA - 14.3%
Yr Almaen - 11.9%
Ffrainc - 11.6%
Canada - 20.7%
Rwsia  - 7.7%
Awstralia - 27.7%
Swisdir - 28.9%
Awstria - 15.7%
Norwy - 13.8%

Lle mae canrannau Cymru yn anarferol o uchel fodd bynnag ydi yng nghyd destun y bobl a anwyd yn Lloegr ond sy'n byw yng Nghymru - bron i 21%.  Tua 9% ydi'r ffigwr ar gyfer yr Alban a 3.5% ydi'r ffigwr ar gyfer Gogledd Iwerddon.

Rwan, dydw i ddim yn gwneud sylw y naill ffordd na'r llall ynglyn a mewnfudo o Loegr, nag o'r tu hwnt i'r DU.  Ond mae'n ddiddorol bod y Bib yn ystyried ei bod yn werth gwneud stori o gwmpas set o ystadegau sy'n dangos math o fewnlifiad sydd wrth safonau rhyngwladol yn isel iawn, tra'n anwybyddu set arall o ddata sy'n awgrymu bod math arall o fewnlifiad - mewnlifiad mewnol yn y DU - yn cael effaith anarferol o sylweddol yng  Nghymru.  Ychydig iawn o sylw mae'r math yma o symud poblogaeth yn ei gael gan y Bib - a'r rhan fwyaf o'r cyfryngau Cymreig eraill.

Mae'r rheswm pam yn ddiddorol.  Hyd yn ddiweddar doedd hi ddim yn barchus i drafod mewnfudo o unrhyw fath.  Mae'r cyfryngau print Adain Dde yn Lloegr wedi newid hynny. Mae mewnfudo o'r tu allan i'r DU yn fater prif lif gwleidyddiaeth Prydeinig bellach.  Felly mae BBC Cymru yn gwbl hapus yn ymdrin a hynny - er ei fod yn fater bychan yng Nghymru mewn gwirionedd.  Ond dydi'r Bib ddim yn gyfforddus yn ymdrin a symudiadau poblogaeth o fewn y DU ac effaith hynny ar Gymru oherwydd nad yw'r agwedd yna ar fewnfudo wedi cael ei barchuso gan bapurau tabloid Llundain. 

Tystiolaeth os bu erioed o'r feddylfryd Brydeinig sy'n rhan canolog o wead y Bib yng Nghymru.


2 comments:

Anonymous said...

Swn i'n dadle nid yn unig am fod yr agwedd yna ar fewnfudo heb gael ei barchuso gan y tabloids, ond hefyd am nad ydyn nhw'n ei ystyried yn fewnfudo o gwbl - am bod y meddylfryd yn gweld y ffin wleidyddol yn anarwyddocaol, a bod gan unigolion yr hawl i symud o fewn marchnad rydd sy di diffinio gan ffiniau'r Deyrnas Unedig. O'r safbwynt hwnnw, mae cyfraddau mewnfudo o Loegr i Gymru yn non-issue (i'r rhai sy'n byw o fewn y meddylfryd). Yr un yw'r meddylfryd ynghylch iaith, a 'hawl' siaradwyr uniaith Saesnegi gyfathrebu drw gyfrwng y Saesneg yn unrhyw le o fewn ffiniau'r DU.

Simon Brooks said...

Ymhellach, mae tynnu sylw at fewnfudo o Ewrop yn normaleiddio mewnfudo o Loegr. Mae'r mewnfudwyr o Ewrop yn cael eu diffinio yn erbyn y brodorion, a'r brodorion yn yr achos hwn ydi'r Prydeinwyr. Mae gan y drafodaeth am fudwyr Ewrop ddau fantais felly i Unoliaethwyr; porthi hunaniaeth Seisnig-Brydeinig yn erbyn gelyn allanol tybiedig, a diffinio cymunedau Cymraeg a Chymreig ein gwlad ar sail yr hunaniaeth Seisnig-Brydeinig senoffobaidd (ac anghymreig) hon.