Thursday, March 20, 2014

Y diweddaraf gan Gwilym Owen

Ei ragfarn yn erbyn Cyngor Gwynedd sy'n cael sylw yng ngholofn Gwilym Owen heddiw.  Bydd y sawl sy'n darllen y golofn gwynfanus yn rheolaidd yn cofio colofn ryfeddol o unochrog Gwilym ychydig fisoedd yn ol pan aeth ati i drafod adroddiad ESTYN ar y Gwasanaeth Addysg yng Ngwynedd trwy restru pob beirniadaeth yn yr adroddiad tra'n anwybyddu pob canmoliaeth.

Cysylltu tri datblygiad sydd mewn gwirionedd yn gwbl ddi gyswllt er mwyn creu camargraff o argyfwng mae Gwil y tro hwn - ymddeoliad prif weithredwr y cyngor, Harri Thomas, penderfyniad y deilydd portffolio addysg, Sian Gwenllian i sefyll i lawr er mwyn canolbwyntio ar etholiad y Cynulliad yn 2016 a'r drafodaeth ynglyn chynllunio a thai yng Ngwynedd ydi'r trydydd.  Mi gymerwn y tri phwynt ar wahan,

Mae Harri Thomas wedi cyrraedd oed ymddeol.  Mae pobl yn ymddeol pan maent yn cael eu hunain yn gymwys i wneud hynny.  Mae pobl yn ymddeol pob dydd.  Gwneir cryn dipyn ganddo o gyflog prif weithredwr Gwynedd gan Gwil - £108,000.  Rwan mae'r cyflog yn uchel, ond yr hyn nad ydi Gwil yn trafferthu i'w ddweud ydi mai dyma'r ail gyflog isaf a delir i brif weithredwr cyngor yng Nghymru, ac mae ymysg yr isaf ym Mhrydain.  Mae cyflog prif weithredwr y cyngor lleiaf yng Nghymru, Blaenau Gwent fymryn bach yn is.  Mae wedi cynhyrfu hefyd gan gymal yn yr hysbyseb i gael olynydd i Harri Thomas ' - yn arwain y gweithlu drwy gyfnod o newid sylweddol'.  'Sylw llawn dirgelwch' meddai Gwil.  Duw a wyr pam mae'n dod o hyd i ddirgelwch yma - mae pob cyngor yn y DU yn mynd trwy gyfnod o newid sylweddol sydd wedi eu gorfodi ar gynghorau wedi i Lafur yrru'r economi i'r diawl ac wedi i'r Toriaid gymryd mantais o'r sefyllfa i dorri gwariant cyhoeddus i'r bon.

Mae'n mynd ati wedyn i gwyno bod Sian Gwenllian yn rhoi'r gorau i'r portffolio addysg.  Mae'n ymddangos ei fod o'r farn y dylai fod wedi aros i fynd i'r afael efo'r cyni ariannol.  Mae'n anodd braidd gweld yn union beth o fusnes Gwil ydi penderfyniad Sian Gwenllian.  Mi fydd yna rhywun arall yn cymryd ei lle ar y cabinet, ac mae delio efo'r argyfwng cyllidol yn gyfrifoldeb ar pob un o gynghorwyr Gwynedd - Sian Gwenllian yn gynwysiedig.

Mae yna dri o gynghorwyr Llafur Caerdydd wedi ymddiswyddo tros y misoedd diwethaf ac mae'r arweinydd wedi cael ei newid.  Am rhyw reswm 'dydi Gwil ddim yn gweld hynny yn argyfwng.  Mae hefyd yn gwbl dawel am y digwyddiadau rhyfeddol yn Sir Gaerfyrddin lle mae'r prif weithredwr (uchel iawn ei gyflog) wedi ei atal rhag mynd i'w waith tra bod heddlu o Loegr yn edrych i mewn i benderfyniadau ynglyn a'i gyflog a wnaed gan gabinet y cyngor.  Ond wedyn cynghorau sy'n cael eu harwain gan Lafur ydi rhai Caerfyrddin a Chaerdydd wrth gwrs.

Ac yn drydydd mae'n mynd trwy'i bethau am yr anghydfod ynglyn a hawl cynllunio a chodi tai (dydi Cyngor Gwynedd ddim yn bwriadu codi tai, fel mae Gwil yn honni wrth gwrs, does gan gynghorau ddim hawl i wneud hynny.  Mae'r ddadl yn ymwneud a hawl cynllunio).  Rwan mae yna ddadl cwbl briodol i'w chael ynglyn a'r cwestiwn o beth yn union ydi'r galw lleol yng Ngwynedd. Ond does a wnelo'r ddadl honno ddim oll  efo ymddeoliad Harri Thomas na phenderfyniad Sian Gwenllian i adael cabinet Cyngor Gwynedd.

Rydym wedi nodi eisoes bod gan Gwil ddiddordeb mewn addysg, ond diddordeb dethol iawn.  Mae'n ymddiddori mewn unrhyw beth negyddol y gall ddod o hyd iddo mewn addysg mewn un sir yng Nghymru.  Yn yr un ffordd mae ganddo ddiddordeb dethol iawn mewn llywodraeth leol - unrhyw beth negyddol y gall ddod o hyd iddo am un sir a hynny'n unig.

No comments: