Saturday, March 22, 2014

Ydi pethau'n symud i gyfeiriad yr ymgyrch 'Ia' yn yr Alban?

Mae'n ymddangos bod y gogwydd tuag at yr ymgyrch 'Ia' yn parhau yn yr Alban.  Un peth a allai wthio pethau ymhellach i gyfeiriad yr ymgyrch honno fyddai canfyddiad ymysg pobl dosbarth gweithiol bod y Toriaid yn debygol o ennill etholiad cyffredinol Prydain yn 2015.  Mae'r polau heno yn awgrymu bod y bwlch rhwng y Toriaid a Llafur yn cau.  Efallai mai symudiad dros dro yn sgil y gyllideb ydi hyn wrth gwrs - ond cyllideb 2012 oedd yn gyfrifol am roi'r oruwchafiaeth i Lafur - goruwchafiaeth sydd wedi parhau am ddwy flynedd.

Gallai'r ychydig fisoedd nesaf fod yn hynod ddiddorol.




1 comment:

William Dolben said...

Dyma fi ar ei hôl hi fel arfer
Y cynnydd yng ngehfnogaeth y Torïaid sydd tu ôl i'r codiad hwn yn y bleidlais dros annibynniaeth. Os ydi'r Albanwyr yn credu y cânt lywodraeth geidwadol yn groes i'w dymuniad nhw, annibynniaeth a ddewisant. Cadarnhawyd hyn mewn pôl y llynedd