Thursday, April 10, 2014

Y system addysg yng Nghymru

Fydda i ddim yn ail redeg blogiadau o'r gorffennol yn aml iawn, ond  yn sgil cyhoeddi adroddiad yr OECD ar y gyfundrefn addysg yng Nghymru dwi am ail gyhoeddi blogiad o ddiwedd y llynedd.  Mae nifer o'r pwyntiau roeddwn yn eu codi bryd hynny yn codi yn adroddiad heddiw - nid fy mod yn honni fy mod yn arbennig o glyfar - mae'r hyn a ddywedwyd gan yr OECD yn gwbl gyfarwydd i bawb sydd yn y byd addysg.  Byddai holi addysgwyr wedi arbed £200,000 i lywodraeth y Cynulliad.

Mae'r blogiad yn codi rhywbeth arall sydd yn niweidiol i'r system addysg ond nad yw'n codi yn yr adroddiad - y ffaith bod llywodraeth Cymru yn disgwyl i ysgolion fod yn asiantaethau aml bwrpas.

Roedd un o'r  cyfeillion anhysbys yn holiyn nhudalen sylwadau'r blogiad diwethaf pam bod Vaughan Roderick yn dweud bod y gwrth bleidiau yn cytuno efo cyfeiriad newidiadau'r llywodraeth i'r gyfundrefn addysg, ond yn amau mai'r Blaid Lafur oedd y blaid i'w gwireddu.  Roedd am wybod beth oedd gan Vaughan mewn golwg.  Y gwir ydi nad ydw i'n gwybod - ond mae gen i farn am y ffordd mae Llafur wedi rhedeg y gwasanaeth addysg yng Nghymru a'r cysylltiad rhwng hynny a methiant addysgol yng Nghymru.

Mae'n debyg mai'r hyn y ceir cytundeb ynglyn a fo gan y gwrth bleidiau ydi cyflwyniad diweddar Fframweithiau Llythrennedd a Rhifedd  gan y llywodraeth.  Os mai codi safonau llythrennedd a rhifedd ydi blaenoriaeth y llywodraeth mae'n synhwyrol cynllunio ar gyfer hynny - a chynllun i ffocysu'r cwricwlwm ar lythrennedd a rhifedd ydi'r fframweithiau mewn gwirionedd.  Fel sy'n arferol efo blaengareddau Llywodraeth Cymru mae'r ffordd mae'r fframweithiau wedi eu cyflwyno yn rhy frysiog, heb eu hystyried yn fanwl ac yn afresymegol mewn rhai ffyrdd - ond stori arall ydi honno.

Ond mae newidiadau cymharol ddiweddar ehangach o lawer na hynny.  Er enghraifft rhoir pwyslais bellach ar dracio disgyblion unigol yn fanwl iawn - a gwneud hynny trwy gydol eu gyrfa ysgol.  Profir plant yn flynyddol a gwneir defnydd o ddeilliannau'r profion hynny i gymharu plant ar hyd a lled y wlad efo'i gilydd.  Rhoir pwyslais ar grwpio plant i wahanol gategoriau a thracio cynnydd y grwpiau hynny.  Mae ysgolion ar hyd a lled yr wlad hefyd yn cael eu grwpio ac yn cael eu cymharu efo ysgolion eraill yn yr un grwp.  Mae ysgolion hefyd yn cael eu bandio er mwyn eu cymharu a'i gilydd.  Disgwylir i ysgolion fod a strwythurau rheolaethol mewn lle i reoli perfformiad y sawl sy'n gweithio ynddyntl..  Anogir awdurdodau lleol, llywodraethwyr a chonsortia lleol i herio ysgolion i bwrpas sicrhau bod safonau cyflawniad yn dda a bod y strwythurau rheolaethol mewn lle i sicrhau gwelliant.  Ceir mwy o atebolrwydd - a mwy o lefelau atebolrwydd ag a gafwyd erioed o'r blaen.

Ydi hyn oll yn debygol o wella safonau llythrennedd a rhifedd?  Wel o gael amser mae'n debyg y gwnant - ond mae'r newidiadau yn gymhleth, maent wedi eu cyflwyno yn gyflym iawn ac mae agweddau arnynt yn rhedeg yn groes i rhai o flaengareddau eraill  y llywodraeth.  Yn y tymor byr maent yn achosi peth anhrefn oddi mewn i'r gyfundrefn - a gallai hynny'n hawdd yrru safonau i lawr am gyfnod.

Ond yr hyn sydd heb ei wneud ydi ystyried yn llawn beth yn union mae'r llywodraeth  eisiau gan y gyfundrefn addysg.  Mae llywodraeth Cymru wedi defnyddio'r gyfundrefn  i wthio eu agenda tegwch cymdeithasol ers 1999.   O ganlyniad bydd ysgolion yn cael eu hunain yn gyfrifol am glybiau cyn ac ar ol ysgol, yn hybu iechyd ac arddull byw cynaladwy, yn gweithredu i hybu gwahanol chwaraeon, yn cydlynnu cynlluniau gwella sgiliau rhiantu, yn sicrhau bod plant yn glanhau eu dannedd, yn gweithredu ar ran adrannau gwasanaethau cymdeithasol ac awdurdodau iechyd, yn paratoi prydau i'r henoed ac ati ac ati.  Ychwaneger at hyn y ffaith bod mwy a mwy o gyfrifoldebau sy'n ymwneud a chynnal adeiladau, rheoli cyllid a delio a materion personel wedi cael eu datganoli i ysgolion unigol ac mae'n weddol amlwg bod ffocws ysgolion wedi newid..

Rwan does gen i ddim problem efo'r un o'r gofynion uchod fel y cyfryw - os ydi'r llywodraeth eisiau defnyddio'r gwasanaeth ysgolion i bwrpas hybu ei gwahanol flaengareddau cymdeithasol, mae hynny'n iawn.  Ond yr hyn sydd ddim yn iawn ydi ymddwyn fel petai'n bosibl defnyddio ysgolion fel asiantaethau aml bwrpas heb i hynny effeithio ar eu pwrpas creiddiol.  Dydi hi ddim yn bosibl symud ffocws ysgolion oddi wrth y busnes o addysgu plant  tra'n cynnal a chodi safonau ar yr un pryd.  Dydi hi ddim yn rhesymol disgwyl i neb na dim wneud pob un o ddeg joban mor effeithiol ag y byddant yn gwneud dwy joban.  Os ydi pwrpas sefydliad yn cael ei ehangu a'i  ymestyn, yna mae'n sefyll i reswm y bydd y ffocws creiddiol yn cael ei lastwreiddio  - fel yna mae pethau.

Gyda llaw cafwyd cyfnod o ddeg mlynedd (hyd at 2009) pan roedd yn ymddangos bod y gyfundrefn addysg yn marchogaeth y ddau geffyl - gwella safonau addysgol a gwthio agenda cymdeithasol y llywodraeth.  Roedd canlyniadau profion ac arholiadau yn gwella, roedd arolygiadau ESTYN yn gadarnhaol yn amlach na pheidio - roedd yna ganfyddiad bod pethau'n mynd i'r cyfeiriad cywir.  Wedyn daeth profion Pisa (oedd yn dangos bod safonau yn syrthio a bod Cymru yn tan berfformio o gymharu a gwledydd tebyg) a newidiodd pob dim tros nos.  Dechreuodd ESTYN fod yn llawer, llawer mwy beirniadol o ysgolion ac awdurdodau addysg, a dechreuodd y llywodraeth osod eu strwythurau newydd mewn lle.  Cynllwyn cyfforddus oedd yn siwtio pawb oedd y 'llwyddiant'.

A dyna ni'n dod yn ol at y broblem efo Llafur a'r gwasanaeth addysg.  Mae yn natur Llafur Cymru i fod eisiau defnyddio'r gwasanaeth addysg i fynd i'r afael efo anghyfartaledd a thlodi - mae gwneud hynny yn sicrhau na fydd y gyfundrefn addysg yng Nghymru yn perfformio i'w photensial.  Ar ben hynny dydi defnyddio'r gyfundrefn addysg i ddelio efo tlodi ddim yn ffordd effeithiol o ddelio efo tlodi..  Y ffordd o wneud hynny ydi trwy greu swyddi o ansawdd, a'r ffordd orau o wneud hynny yn ei dro ydi defnyddio'r system trethiant i annog buddsoddiad - ond fel rydym wedi nodi sawl gwaith dydi Llafur ddim eisiau cael eu dwylo ar y gyfundrefn drethiant.  Felly maent yn defnyddio'r gyfundrefn addysg i ddelio efo problem nad yw wedi ei chynllunio i'w datrys.  Canlyniad hyn ydi methiant i fynd i'r afael efo tlodi a system addysg aneffeithiol.

8 comments:

Anonymous said...

Dyna ni felly. Dyna pam mae cyngor gwynedd yn cau ysgolion. Dyna pam fod ymgeisydd cynulliad Plaid Cymru Arfon wedi dympio portffolio addysg. Dyna pam fod Pennaeth Addysg Gwynedd yn gadael ei swydd ( dim i wneud efo'i ymddygiad) . Dyna pam nad oes pennaeth yn ysgol Dyffryn Nantlle. dyna pam fod pennaeth Ysgol y Gader wedi gadael. Dyna pam fod Brynrefail mewn llanast. ........ia , dyna pam mae addysg yn llanast yng Ngwynedd Cai. Dwi'n dallt rwan. Diolch am fy addysgu ar y mater . Bai y llywodraeth yw y pethau hyn oll. Dalltwch bobol , nid baii yr Awdurdod Lleol yw hyn.

Cai Larsen said...

Wel yn amlwg dydi'r llywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd ddim yn uniongyrchol gyfrifol am ymddeoliadau -ond o ran y gweddill ti'n gwbl gywir. Bai Llafur ydi mwyafrif llethol problemau addysg Gwynedd a gweddill Cymru.

Anonymous said...

Dwi wedi synnu fod dy gyflogwr yn caniatau i chi redeg Blog boliticaidd ,o ia cefnogi nhw efo bob dim wyt ti,dim rhyfadd felly !!

Anonymous said...

Nacdi, ddim yn uniongyrchol gyfrifol am ymddeoliadau ayyb.....Y gwir amdani yw nad yw Plaid Cymru yng Ngwynedd (yr Awdurdod Lleol) wedi bod yn ddigon dewr na chall na chlyfar i herio'r llywodraeth. Mae yr Arweinydd a phawb oddi tano wedi cow towio yn lle mynd ati o ddifri i herio'r statws cwo. Mynd ati i gau ysgolion yn lle cefnogi cymunedau Cymraeg Gwynedd a herio'r llywodraeth ac felly sefyll dros ddinasyddion Gwynedd. Mae yn ffars llwyr wedyn fod y Dirprwy Arweinydd yng nghanol y llanast yn ymddiswyddo er mwyn canolbwyntio ar ei hetholaeth a'i hymgyrch!! Lle Cyngor Gwynedd, yr aelodau etholedig yn arbennig, yw sefyll yn gadarn dros bobol Gwynedd nid cow towio i Lywodraeth Cymru. A tra dwi ar y pwnc Plaid Cymru / Llafur - yn dy flog yn cyfeirio at ddiffygion Carwyn Jones i gefnogi'r Gymraeg mae'n amlwg erbyn hyn fod Carwyn Jones yn gwneud mwy o ddefnydd o'r iaith Gymraeg yn y Senedd nad ydi Leanne Wood. Dwi'n sylwi nad wyt ti wedi mentro 'sgwennu blog am hynny chwaith.
Waeth sut wyt ti yn edrych arni Cai, o safbwynt ni yng Ngwynedd tydi Plaid Cymru ar yr Awdurdod Lleol wedi gneud bygyr ol i bobol Gwynedd. Dim.

Cai Larsen said...

Mae'r cyfraniadau uchod yn nodweddiadol o'r safon disgwrs isel sydd mor nodweddiadol o sut y bydd gwleidyddiaeth yn aml yn cael ei drafod yng Nghymru.

O awgrym Anon 7.35 y dylai Cyngor Gwynedd geisio atal y sawl sydd ar ei rol cyflog rhag mynegi eu barn wleidyddol - mae'r awgrym yn gwbl boncyrs - a gallai arwain at wneud methdalwr o'r Cyngor. Mae nifer fach o swyddi dynodedig (uchel swyddogion gan amlaf) lle na cheir datgan barn wleidyddol, ond byddai ceisio gorfodi'r rheol ar weithwyr Cyngor eraill yn groes i ddeddfwriaeth hawliau dynol Ewropiaidd a byddai'n gadael yr awdurdod yn agored i gannoedd o achosion llys. Duw a wyr beth fyddai Anon 7.35 yn ei ddweud wedyn.

Mae sylwadau Anon 8.54 hyd yn oed yn fwy idiotaidd. Os ydi am ddangos bod Cyngor Gwynedd yn aneffeithiol dylid mynd ati i ddangos hynny trwy gyfeirio at berfformiad y cyngor mewn meysydd penodol a chymharu hynny efo perfformiad cynghorau eraill - dydi rwdlan cyffredinol di gyd destun sy'n mynd i bob man o ddim gwerth o gwbl.

Mae rwdlan am ymddeoliadau yn ddi bwrpas. Mae tynnu sylw at y ffaith bod astudiaeth yn dangos bod Aelod Cynulliad Llafur sy'n rhugl ei Gymraeg yn siarad mwy o Gymraeg yn y Cynulliad nag aelod Plaid Cymru sydd ddim yn rhugl ei Chymraeg ond heb drafferthu son bod yr un astudiaeth yn dangos bod aelodau'r Blaid yn siarad dwywaith cymaint o Gymraeg nag aelodau pob plaid arall efo'i gilydd yn anonest yn ogystal ag idiotaidd.

Anonymous said...

Cai,ynglyn a Anon 7.35,dwyt ti ddim yn gwneud dim sens,sut fuasa hun yn gwneud y Cyngor yn fethdalwr ? Ella na dyna be fasa y gora i ni fel trethdalwyr,a chael Cyngor ffresh yn lle y criw useless sydd yna rawn !!

Anonymous said...

Fi'n credu taw'r pwynt pwysig yw nag yw cyngor gwynedd wedi bod yn fodlon herio'r Llywodrath. Mae 'da Anon 8.54 sylw teg yma. Pam na fydde'r Arweinydd di herio y came ofnadw arweiniodd at gau ysgolion. Dylent fod wedi sefyll yn gadarn yn erbyn hyn. Camgymeriad ffol. Ma fe'n reit hefyd am lawer o uwch swyddi yn mynd yn wag , dyw hyn ddim yn arwydd o gorff iach. Pe bydde hyn yn digwydd i gwmni yn y sector breifat bydde yn crisis management. Yr unig reswm ddath cyngor gwynedd mas yn dda yn arolwg y Llywodrath ar berfformiad oedd am taw adran strategol a gwella enfawr sydd yn ateb pob holiadur a rhoi systeme amsawdd dibwrpas yn eu lle. Ar y cownt olaf 'roedd oddeutu 80 o staff yn yr adran hon. Fi'n credu bod pwyntie Anon yn rai teg . Bydde'n well i ni wynebu realiti y sefyllfa yng Ngwynedd. Dyw pethe ddim yn dda Cai. Bod yn stwbwrn a ffol yw ceisio amddiffyn sioe sydd yn stryglan a sigo. Ag i ychwnaegu ymhellach at y cowdel fi moyn nodi bod adran datblygu economi , anstatudol, mwya o ran staffio yn y gogledd a'r canolbarth, wedi methu denu nawdd i ddatblygu pen draw cei, wedi methu denu jael, wedi methu denu S4c ayyb ayyb ayyb. Mae angen golwg fanwl ar adrannau enfawr ac aneiffeithiol ac anstatudol fel hyn.

Cai Larsen said...

Anon 6.30. Mi wnawn ni bethau yn syml. Petai unrhyw gyngor yn ceisio ymddwyn fel Stalin a gwahardd pobl sydd ar y rol cyflog rhag ymarfer eu hawliau democrataidd byddai hynny yn anghyfreithlon. Byddai'n dilyn felly y byddai achosion llys yn cael eu dwyn yn erbyn y cyngor hwnnw. Mae amddiffyn achos llys yn ddrud. Petai'r cyngor dan sylw yn parhau efo'i hymddygiad anemocrataidd ac anghyfreithlon byddai yna fwy a mwy o achosion, mwy a mwy o gostau a gallai'r cynghorwyr gael eu hunain o flaen eu gwell.

Anon 6.44 sy'n gwneud job sal o swnio fel hwntw - ti'n cyfeirio at ymddeoliadau (nid swyddi gwag) a rhai prosiectau sydd heb ddod i Wynedd. Mae pobl yn ymddeol o pob cyngor, dydi pob prosiect ddim yn mynd i pob cyngor, mae nifer o brif weithredwyr mewn cynghorau eraill yn eistedd yn eu cartrefi tra bod PC Plod yn edrych i mewn i'w gweithgareddau, mae 6 o gynghorau Cymru mewn mesurau arbennig ar hyn o bryd, mae pedwar o gynghorwyr cyngor y brifddinas wedi ymddiswyddo tra bod cyfran dda o'r cabinet wedi cael y sach. Dydi'r Blaid ddim mewn grym yn unrhyw un o'r cynghorau anhrefnus uchod.

Perspectif os gwelwch yn dda.