Friday, May 16, 2014

Darogan canlyniadau etholiadau Ewrop

Gan i Iain Dale - blogiwr enwog o Dori wneud ymgais i ddarogan canlyniadau etholiadau Ewrop ym mhob etholaeth yn y DU, dwi am wneud ymgais i wneud yr un peth.  Mae'n uffernol o anodd dod i gasgliadau ystyrlon y tro hwn oherwydd bod y polau ar hyd y lle - ac felly mae'n amhosibl cael sail data effeithiol.  Serch hynny dwi wedi dewis is set  un pol - y sawl sydd wedi dweud eu bod yn 100% sicr o bleidleisio yn y pol Ewrop ComRes diweddaraf - fel sail i fy narogan ar gyfer pob etholaeth Seisnig.  Mae hyn yn rhoi pleidlais uwch o lawer i UKIP na mae'r rhan fwyaf o ffyrdd o fynd ati yn ei awgrymu -  ac un is i Lafur.  Ond dwi'n credu ei bod yn hanfodol cymryd tebygrwydd i bleidleisio i ystyriaeth mewn etholiad lle bydd llai na thraean yn pleidleisio.  Fy ngwybodaeth (neu ddiffyg gwybodaeth) dwi wedi ei ddefnyddio wrth ddarogan y canlyniadau yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.  Canlyniad 2009 sy'n dod gyntaf pob tro, wedyn darogan Iain Dale ac wedyn fy un i.  

Gogledd Iwerddon
Dwi'n eithaf siwr bod ID yn anghywir am hon.  Mae'r dull pleidleisio yma'n wahanol i'r hyn a geir yng ngweddill y DU - STV yn hytrach na D'Hont.  Mae hyn yn ei gwneud yn haws o lawer i'w darogan - yn achos Gogledd Iwerddon o leiaf.  Mae'r ddwy sedd gyntaf yn gwbl ddiogel - bydd SF yn cael y gyntaf tra bydd y DUP yn cael yr ail.  Dwi'n disgwyl i'r UUP gadw eu sedd a dod yn drydydd.  Mi fydd y drydydd sedd yn mynd naill ai i'r SDLP neu i SF yn y dyfodol - ond rydym rhyw ddegawd yn rhy fuan am fwyafrif cenedlaetholgar ar y gofrestr pleidleisio.  Mae'n bosibl i'r TUV - plaid unoliaethol sy'n gwrthwynebu Cytundeb Dydd Gwener y Groglith gael y drydydd sedd, ond posibilrwydd bach ydi hwnnw.  Mae yna rhai yn honni bod arestio Adams gan y PSNI yn debygol o annog mwy o genedlaetholwyr i bleidleisio, a byddai hynny'n rhoi gobaith i'r SDLP.  Ond yn fy marn bach i bydd yr anghydfod baneri ym Melffast yn llusgo mwy o unoliaethwyr allan hefyd.
2009
UUP 1
DUP 1
Sinn Fein 1

2014 (ID)
Sinn Fein 1
DUP 1
SDLP 1


2014 (CL)
Sinn Fein 1
DUP 1
UUP 1
Swydd Efrog a Glannau'r Humber

Dwi'n cytuno efo ID ar hon - y BNP a'r Lib Dems yn colli eu seddi ac UKIP a Llafur yn eu cymryd.
Con 2
Lab 1
LibDem 1
UKIP 1

BNP 1

2014 (ID)
Con 2
Lab 2
UKIP 2


2014 (CL)
Con 2
Lab 2
UKIP 2

Yr Alban

Mae ID yn gywir i ddarogan y bydd yr SNP yn cymryd trydydd sedd, ond dydw i ddim mor siwr y bydd y Toriaid yn cael un.  Dwi'n gwybod nad ydi UKIP yn boblogaidd yn ol y gwybodysion yn yr Alban, ond mae'r gwynt yn eu hwyliau, a gallant yn hawdd ddod o flaen y Toriaid, er ei bod yn debygol o fod yn agos. Mae yna beth tystiolaeth polio sy'n awgrymu hynny hefyd. Mae fy mhres i ar UKIP - ond heb lawer iawn o hyder.
2009
SNP 2
Llaf  2

LibDem 1
Tori 1
2014 (ID)
SNP 3
Llaf 2
Tori 1


2014 (CL)
SNP 3
Llaf  2

UKIP 1

Gogledd Ddwyrain Lloegr

Mae ID yn honni bod hon yn hawdd ac y bydd UKIP, Llafur a'r Toriaid yn cael um yr un.  Dwi'n meddwl ei fod yn anghywir ac y bydd UKIP a Llafur yn cael mwy na dwywaith pleidlais y Toriaid - sy'n golygu y bydd pa bynnag un ohonynt ddaw'n gyntaf yn cael dwy sedd.  Llafur sy'n debygol o wneud hynny.
2009
Tori 1
Llaf 1
LibDem 1


2014 (ID)

Llaf 1
Tori 1
UKIP 1

2014 (CL)
Llaf 2
UKIP 1
Gogledd Orllewin Lloegr

Dwi'n meddwl bod ID yn gywir ar hon.  Dim byd i'r Lib Dems a'r BNP.  Y Toriaid yn colli un, UKIP yn ennill 2 a Llafur yn ennill un.
2009
Tori 3
Llaf 2
UKIP 1
LibDem 1
BNP 1
2014 (ID)
Tori 2
Llaf 3
UKIP 3



2014 (CL)

Tori 2
Llaf 3
UKIP 3

Dwyrain y  Midlands

Mae hon yn un anodd iawn.  Dwi'n cytuno y bydd y Lib Dems yn colli sedd i UKIP, ond cael a chael fydd hi os bydd y Toriaid yn colli eu sedd nhw i Lafur.  Gallai hynny ddigwydd yn hawdd iawn, ond dwi am fynd efo ID ar hon - y Toriaid i aros ar 2 a Llafur i aros ar 1.
2009
Tori 2
UKIP 1
Llaf 1
LibDem 1

2014 (ID)
Tori 2
Llaf 1
UKIP 2


2014 (CL) 
Tori 2
Llaf 1
UKIP 2

Gorllewin y Midlands:

Mae hon yn un eithaf syml.  Mae UKIP yn debygol o fod yn gyfforddus o flaen Llafur a'r Toriaid felly nhw fydd yn cael sedd ychwanegol.  Mae'r Toriaid yn debygol o ddod y tu ol i Lafur a bydd y Lib Dems yn perfformio'n sal iawn.  
2009
Con 3
UKIP 2
Lab 1
LibDem 1

2014 (ID)
Con 2
Lab 2
UKIP 3



2014 (CL)

Tori 2
Lab 2
UKIP 3

De Orllewin Lloegr

Bydd UKIP yn dod ymhell o flaen pawb arall yma, ac maent yn debygol iawn o gael tair sedd.  Dwi ddim yn cytuno y bydd y Lib Dems yn cael sedd, mae'n fwy tebygol o fynd i Lafur - er bydd yn agos.  
2009
Tori 3
UKIP 2
LibDem 1

2014 (ID)
LibDem 1
Tori 2
UKIP 3



2014 (CL)

Llafur 1
Tori 2
UKIP 3

Llundain

Dwi'n cytuno efo ID yma - er y bydd pethau yn agos iawn rhwng y Gwyrddion a'r Lib Dems am y sedd olaf.
2009
Tori 3
UKIP 1
Llaf 2
LibDem 1
Gwyrdd 1

2014 (ID) 
UKIP 2
Tori 2
Llaf 3
Gwyrdd 1



2014 (CL) 


UKIP 2
Tori 2
Llaf 3
Gwyrdd 1


De Ddwyrain Lloegr

Mae'r fathemateg yu dyn iawn yma am y sedd olaf, ond mae'n ddigon posibl bod ID yn gywir ac y bydd y Lib Dems yn colli'r ddwy sedd.  Os ydynt yn ei chadw bydd naill ai ar draul Llafur neu'r Gwyrddion.  Os bydd y Lib Dems yn cadw sedd yma y bydd hynny'n digwydd.  

2009
Tori 4
UKIP 2
Llaf 1
LibDem 2
Gwyrdd 1

2014 (ID)
UKIP 4
Tori 3
Llaf 2
Gwyrdd 1



2014 (CL)

UKIP 4
Tori 3
Llaf 2
Gwyrdd 1

East Anglia

Dwi'n tueddu i gytuno efo ID ar hon - er y gallai'r sedd olaf lawn mor hawdd fynd i'r Toriaid neu Lafur.


2009
Tori 3
UKIP 2
Llaf 1
LibDem 1
2014 (ID)
UKIP 3
Tori 2
Llaf 1
Gwyrdd 1


2014 (CL)

UKIP 3
Tori 2
Llaf 1
Gwyrdd 1


Cymru

Dwi wedi dweud o'r cychwyn y bydd Llafur yn cael dwy sedd yng Nghymru, ond dydw i ddim mor siwr erbyn hyn.  Fyddai ddim yn syndod mawr i mi petaent yn methu cyrraedd 30%.  Mae polau YouGov yn awgrymu mai sedd y Blaid sydd mewn perygl gyda'r diweddaraf yn awgrymu lefel o 11% - ni fyddai hyn yn ddigon o gefnogaeth i gadw'r sedd.  Dwi'n eithaf siwr bod hyn yn rhy isel - byddai'n awgrymu mwy o gwymp yng nghefnogaeth y Blaid yng Nghymru nag yng nghefnogaeth y Lib Dems a'r Toriaid tros Brydain.  Fedra i ddim meddwl am unrhyw naratif fyddai'n egluro hynny.  Dwi'n disgwyl i'r Blaid gael o leiaf 15% o'r bleidlais. Byddai llai na hynny yn gryn siom i mi.  Bydd pleidlais UKIP yn cynyddu - fel ym mhob man arall - a byddant yn cadw eu sedd.  Dwi'n gweld y Toriaid yn syrthio o'r safle cyntaf i'r pedwaredd ac yn ol pob tebyg yn colli'r sedd.  Mae'r canfyddiad yma yn rhannol wedi ei seilio ar fethiant parhaus y Toriaid i gael eu pleidlais allan mewn cyfres hir o is etholiadau yng Nghymru tros gyfnod o ddwy flynedd.  
2009
Llaf 1
Tori 1
Plaid Cymru 1
UKIP 1

2014 (ID)
Llaf 1
Plaid 1
Tori 1
UKIP 1


2014 (CL)

Llaf 2
Plaid 1
Tori 0
UKIP 1


O edrych yn ol tros yr uchod dwi'n synnu o sylwi nad ydw i'n rhoi unrhyw sedd i'r Lib Dems - hyd yn oed yn Ne Ddwyrain Lloegr lle mae ganddynt ddwy ar hyn o bryd.  Petawn yn gywir byddai ganddynt lai o gynrychiolaeth yn Ewrop na Llafur, UKIP, y Toriaid, y Gwyrddion, Plaid Cymru, SNP, SF, DUP a UUP.  Fel rwyf wedi nodi o'r blaen mae'r fathemateg am y sedd olaf yn aml yn hynod o dyn - ac mae mor debygol iddynt gael 3 sedd nag yw iddynt gael dim un.  Byddwn yn rhyfeddu petaent yn cael mwy na hynny.  




7 comments:

Ioan said...

Mi wnes i ddreifio o Gaerffili nol i Ynys Mon pnawn 'ma, ac er bod y Toriaid yn enill yn hawdd yn Powys (efo UKIP) yn ail, pan es i drwy Meirionydd, roedd yn amlwg y bydd Mr Urdd yn enill dwy sedd.

;-)

Cai Larsen said...

Dydi posteri ddim yn pleidleisio Ioan.

Anonymous said...

A tydi Mr urdd ddim yn sefyll...

Alwyn ap Huw said...

Rwy'n gwybod dim am weddill Ewrop, ond rwy'n anghytuno efo dy ddarogan di am Gymru, yr unig wahaniaeth bydd y Ceidwadwyr yn cyfnewid a Llafur ar frig y rhestr. Bydd PC yn dal ei drydydd safle ac IWCIP yn dal y bedwaredd.

Cai Larsen said...

Cawn weld Alwyn - mae anghytuno ynglyn a phethau fel hyn yn rhan o hwyl etholiad.

Anonymous said...

Dwi'n credu mai un arwyddocâd pwysig sydd gan y nifer o bosteri a welir o gwmpas y lle, a hynny yw y perthynas o achosiaeth rhwng:

Y nifer o posteri < brwdfrydedd yr aelodau/cefnogwyr i ymgyrchu > nifer o drafodaethau a geir wyneb yn wyneb > brwdfrydedd yr etholwyr i fynd allan i bleidleisio > 'turnout'.

Hynny yw, 'sdim ots reali 'lliw' y posteri, ond os oes llawer ohonyn nhw, bydd y turnout cyffredinol yn uchel a vice versa.

Yn hynny beth, ac o weld y sefyllfa yma ym Môn, bydd y turnout yn isel iawn y tro 'ma a bydd hynny yn fafrio UKIP a'r Blaid ar draul Llafur, Tories a Lib Dems.

Phil Davies

Anonymous said...

O ystyried maint pleidlais UKIP onid syndod yw gweld pleidlais y Ceidwadwyr wedi cynnal cystal.

15% PC yn cyfateb i dy worse case scenario!