Tuesday, May 27, 2014

Etholiad Ewrop

Reit - dwi wedi cael munud neu ddau i ddweud pwt am etholiadau Ewrop.

Y peth cyntaf i'w ddweud ydi bod y canlyniad yn un da - roedd yn gryn gamp i amddiffyn y sedd yn yr amgylchiadau sydd ohonynt.  Yn fras roedd y Blaid yn ymladd yn erbyn y diffyg sylw cyfryngol arferol ynghyd a dau rym gwleidyddol mawr - y naill ai yn ffenomenon Ewrop gyfan a'r llall yn rhywbeth penodol Gymreig.

Mae'r Dde gwrth Ewropeaidd wedi sgubo ar draws Ewrop (ceir arwyddion o hynny hyd yn oed yma yn yr Iwerddon - ond mwy am hynny mewn blogiad arall) ac roedd y Blaid Lafur mewn sefyllfa i ad hawlio miloedd lawer o bleidleisiau a gollwyd ganddynt yn 2009.  Gallai sedd y Blaid fod wedi ei sgubo i ffwrdd gan y ddau rym yna, ond ddigwyddodd hynny ddim.  Un o'r prif resymau am hynny ydi i'r etholiad gael ei hymladd yn unol a strategaeth briodol i'r etholiad honno.

Mewn etholiad lle mae'r gyfradd bleidleisio yn isel mae'n bwysig iawn i blaid fel Plaid Cymru gael ei phleidlais graidd allan i bleidleisio.  Dydi hi prin yn bosibl ennill carfanau newydd o bleidleiswyr mewn etholiad lle na chaiff nemor ddim sylw cyfryngol, a lle'r ydym y tu hwnt i'r naratif cyfryngol - mae'n rhaid gwneud y mwyaf o'r hyn sydd eisoes ar gael.  Byddai'n dda petai pethau'n wahanol - ond dydyn nhw ddim.  Mae'n rhaid ymladd etholiad sydd o'n blaenau ac nid etholiad yr hoffem ei chael o'n blaenau.  Does yna ddim gwell ffordd o golli etholiad na gwneud hynny.

Felly roedd y strategaeth greiddiol - oedd yn foel a di addurn - hefyd yn hynod effeithiol.  Cafwyd cydnabyddiaeth cynnar o'r posibilrwydd cryf y gallai'r sedd gael ei cholli, tynnwyd sylw at y posibilrwydd y byddai gan UKIP lais ar lefel Ewrop tra nad oedd gan y Blaid un, tynnwyd sylw at y ffaith bod UKIP yn ei hanfod yn anghymreig a chanolbwyntwyd ar gael y bleidlais graidd allan yn ystod yr ymgyrch.  Y ffordd fwyaf effeithiol o annog y bobl hynny i ddod allan oedd edliw enw UKIP.  Roedd gallu dweud wrth y bobl hynny sy'n dweud  'Iawn, Plaid Cymru ydan ni'n fotio yma pob tro'  - 'Cofiwch wneud yn siwr bod pawb yn fotio, mae perygl go iawn i'r sedd' yn erfyn hynod bwerus ar stepan y drws.  Mae'n werth nodi hefyd bod ymosod ar UKIP yn addas oherwydd bod tystiolaeth polio yn dangos yn glir bod cydadran o'n pleidlais ni hefyd ar gael i UKIP.  Dydi hyn ddim yn wir am y Toriaid.

Rwan dwi'n cydnabod bod ambell i gwestiwn i'w ofyn - pam nad oedd y strategaeth yn fwy llwyddiannus? Pam bod rhan o'n pleidlais graidd ni heb bleidleisio? Pam bod rhai o'n pleidleisiau wedi eu colli i  UKIP?  Ond dydw i ddim yn meddwl bod cwestiwn i'w godi ynglyn a llwyddiant y strategaeth.  Roedd yn llwyddiant.

 Roedd y polau wedi awgrymu yn gyson am fisoedd y byddai'r sedd yn cael ei cholli yn eithaf cyfforddus - roedd hyn yn rhannol oherwydd problem efo methodoleg YouGov - ond tua 2% yn unig o dan gyfrifo pleidlais y Blaid mae hynny'n ei awgrymu.  Roedd pleidlais y Blaid ar y diwrnod tua 5% yn uwch nag oedd pol gan YouGov ychydig wythnosau ynghynt yn ei awgrymu.  Llwyddodd y strategaeth i sicrhau bod nifer cymharol fechan o bobl i drafferthu dod allan i bleidleisio - efallai 15,000 o bobl.  Roedd hynny'n ddigon a chadwyd y sedd.

Dylid barnu llwyddiant strategaeth yn unol ag un maen prawf - a lwyddodd i wireddu ei amcan?  Gwnaeth hynny, felly roedd y strategaeth yn llwyddiant.  Roedd yna elfen o lwc wrth gwrs - petai Llafur wedi rhedeg ymgyrch fwy effeithiol ac wedi cael ei phleidlais graidd allan yn y Cymoedd byddai ganddi ymhell tros 30% o'r bleidlais a byddem wedi colli beth bynnag - ond roedd hynny y tu allan i'n rheolaeth ni yn llwyr.  Gwnaethom yr hyn oedd yn bosibl efo'r hyn yr oeddem yn gallu ei reoli.

Mae nifer wedi beirniadu'r ffordd aeth y Blaid ati i ymladd yr etholiad yma gan awgrymu pob math o strategaethau eraill - ymosod ar y Toriaid (fel petai pleidleiswyr Toriaidd yn cymryd eu gorchmynion gan y Blaid), honni ein bod yn debygol o ennill dwy sedd (fel petai hynny ddim yn ein gwneud yn destun gwawd a digrifwch cyffredinol), canu clodydd yr Undeb Ewropeaidd i'r cymylau ac ati.  Byddai'r strategaethau hynny i gyd wedi colli'r sedd i ni.

Felly o safbwynt yr ymgyrch roedd yn llwyddiant - ond mae cwestiynau ehangach yn codi.  Y pwysicaf o'r rhain ydi 'Pam nad ydi'r Blaid wedi llwyddo i apelio at bobl sydd wedi dadrithio efo Llafur - yn arbennig felly yn y Cymoedd?'  Bydd rhaid i'r ateb i'r cwestiwn hwnnw fod wrth wraidd ein strategaeth ar gyfer etholiadau'r Cynulliad 2016.  Bydd rhaid i'r strategaeth bryd hynny (a'r flwyddyn nesaf) yn wahanol i'r un ar gyfer etholiad Ewrop 2014.  Mae'n rhaid creu strategaeth ar gyfer yr etholiad sydd o'ch blaen - nid yr un y byddwn yn ddymuno ei chael o'n blaen.
(Ymddiheuriadau am wallau iaith ac ati - mae'r uchod wddi ei sgwennu'n frysiog iawn tros frecwast mewn gwely a brecwast).

10 comments:

william dolben said...

Hylo Cai,

Ti'n gofyn "Pam bod rhai o'n pleidleisiau wedi eu colli i UKIP?"
ond wyt yn siwr fod pleidleiswyr PC wedi troi'u côt? Ai aros adre wnaethant?

famma yn Sbaen er gwaetha'r dirwasgiad mae pobl yn dal i leicio Ewrop. Y cwestiwn i'r blaid Lafur a PC ydi: Ydi'r EU yn docsic bellach? Annodd sôn am annibynniaeth yn Ewrop erbyn hyn

Rwy'n gryf dros Ewrop a mae gennyf resymau economaidd celyd hefyd. Bûm yn talu morgais o 1998 tan 2013 a mae cyfradd llôg yr Ewrozone yn is o dipin nag eiddo'r DU. Rwy wedi cynilo miloedd ar filoedd trwy dalu llôg o ryw 2% bob blwyddyn diolch i'r Ewro. Pam na fuasai'r EU yn rhoi hynny ar boster neu hysbyseb?

Anonymous said...

Ellith rywun gadarnhau felly.............
Pledleisiau Plaid Cymru

1999 - 185,235
2004 - 159,888
2009 - 126,702
2014 - 111,864

Nifer lleiaf ers pledlieiso ar gyfer etholiadau Ewrop gafwyd eleni , ia ?

Just meddwl.

Anonymous said...

Anon 2.30

mi wnes di anghofio nodi fod pledleisia PC i lawr 3.3% y tro yma.
A dim fy mod i yn cefnogi Plaid Llafur Cymru ynde, ond mae eu pledleisia nhw i fyny 7.9%. Dwi'n nodi hynny am fod Blogmenai wastad yn licio lladd ar Plaid Llafur.
Mond deud ynde.

Cai Larsen said...

Dwi'n meddwl. Od y darn yn ei gwneud yn eithaf clir bod heriau penod yn wyne u'r Blaid y tro hwn - ymchwydd UKIP. Llafur yn halio pleidleisiau yn ol - ond mae'n wir nodi bod heriau hir dymor yn wyne u'r Blaid a rhaid mynd i'r afael efo hynny. Mae pob plaid draddodiadol yn wynebu heriau tebyg.

William - mae rhan o. bleidlais y blaid - yn arbennig yng Nghymoedd y De yn bleidlais brotest - felly mae UkIP yn gallu cystalu amdani o dan rhai amgylchiadau.

Hefyd mae'n werth nodi bod cynrychiolaeth Ewrop gan y Blaid yn ddatblygiad cymharol ddiweddar - mae'n mynd yn ol i 99.

Anonymous said...

Mae'n biti na fuasai'r Blaid wedi gweld pa ffordd oedd y gwynt yn chwythu ar Ewrop ers blynyddoedd (Mae'n amlwg ers degawd fod pobl wedi colli ffydd yn y syniad o Ewrop ffederal). Ni chofiaf unrhyw farn ewro-amheus yn cael ei awgrymu ers ganol y 70au. Un llais a fu'n dawel ers y canlyniadau yw'r 'Arglwydd' . Bu'n wrthwynebus yn y 70au, ond trodd yn ladmerydd hurt dros y prosiect 'Annibyniaeth o fewn Ewrop'. A fu slogan mwy hunan-laddiol erioed ?. Ydi, mae Ewrop yn 'toxic', a nid dim ond pleidleiswyr UKIP sy'n gwrthwynebu'r ffasiwn fonolith.

Anonymous said...

Ia, ond dim ond sut ydach chi yn edrach ar betha' mae votes Plaid Cymru yn mynd i lawr yn dydi ? Yn gyson ac yn sylweddol maent wedi gostwng. Dros 3% ers cychwyn fotio Ewrop. Ffaith ydi honno ynte. ffaith hefyd ydi bod votes Llafur wedi codi bron i 8%. Mi fyswn i yn betio fy ngheiniog ola' hefyd y bydd Alun Pugh yn agos iawn ati yn etholiada San Steffan. Er bod gan Hywel werthoedd sosialadd cadarn bydd hon yn frwydyr galed iddo. Pobol ddim yn anghofio cau ysgolion bach ag ati. Llawer o gamgymeriadau wedi eu gwneud. Gwleidyddion cadarn fel Hywel yn mynd i wynebu colledion. Biti.

Cai Larsen said...

Un pwynt brysiog am y defnydd o'r ffigyrau uchod - maent yn camarwain - mewn ffordd.

Petaem yn cynnwys ffigyrau pob etholiad yn hytrach na rhai Ewrop yn unig byddai'r darlun yn fwy cymysg o lawer. Fyddai yna ddim patrwm o ddirywiad parhaus.

Mae yna gyd destun i pob un o'r ffigyrau Ewrop sy'n eu chwyddo. Roedd 99 yn fuan ar ol landslide y Blaid yn y Cynulliad a chyn y Welsh Mirror, roedd 2004 yr un diwrnod ag etholiadau lleol - rhywbeth sydd pob amser yn llusgo cyfraddau pleidleisio i fyny, roedd yna bleidleisiau Llafur hawdd i'w cael gan Lafur yn 99 ac roedd Llafur yn eu hawlio'n ol ac UKIP yn dwyn pleidleisiau gan bawb ddydd Iau.

Cai Larsen said...

Un pwynt brysiog am y defnydd o'r ffigyrau uchod - maent yn camarwain - mewn ffordd.

Petaem yn cynnwys ffigyrau pob etholiad yn hytrach na rhai Ewrop yn unig byddai'r darlun yn fwy cymysg o lawer. Fyddai yna ddim patrwm o ddirywiad parhaus.

Mae yna gyd destun i pob un o'r ffigyrau Ewrop sy'n eu chwyddo. Roedd 99 yn fuan ar ol landslide y Blaid yn y Cynulliad a chyn y Welsh Mirror, roedd 2004 yr un diwrnod ag etholiadau lleol - rhywbeth sydd pob amser yn llusgo cyfraddau pleidleisio i fyny, roedd yna bleidleisiau Llafur hawdd i'w cael gan Lafur yn 99 ac roedd Llafur yn eu hawlio'n ol ac UKIP yn dwyn pleidleisiau gan bawb ddydd Iau.

Guto Bebb said...

Cai,

Yn gyntaf braf nodi bod y ddau ohonom wedi darogan yn gywir noswyl yr etholiad beth fyddai y canlyniad o ran ASE, sef un i bawb.

Serch hynny, nid dyna oedd dy ddarogan cyn yr etholiad - yr oeddet yn gyson ddarogon colli y sedd Geidwadol. Dan yr amgylchiadau onid rhesymol fyddai cydnabod fod pleidlais PC yn wael ac yn waeth na'r pol piniwn olaf gan You Gov aeth a dy fryd.

O ddewis dwy sedd Lafur neu dwy sedd UKIP gwell gennyf o lawer weld ail ethol Jill Evans ond tydi denu llai o bledleisiau na unrhyw ymgyrch Ewrop PC ers 1984 fawr o lwyddiant.

Ta waeth, joia dy wylie.

Guto

ON - fe fydde dy flog gymaint gwell pe na byddet mor unllygeidiog!

Anonymous said...

Anon 6:49 Wyt ti wedi edrych ar y canlyniadau sirol? Hy cafodd Llafur gweir yng Ngwynedd.