Wednesday, June 04, 2014

Araith amgen y Blaid


Mae'n arfer bellach i'r Blaid gyhoeddi Araith y Frenhines Amgen ar ddiwrnod Araith y Frenhines yn San Steffan.  Yn wahanol i'r fersiwn San Steffan mae fersiwn y Blaid yn un sy'n berthnasol i Gymru a sydd wedi ei gwreiddio yng ngwerthoedd craidd y Blaid.  Wele'r 'araith' isod.
Mesur (Ariannu Teg) Diwygio Barnett
Byddai’r mesur hanfodol bwysig hwn yn diwygio fformiwla ariannu’r DU sydd, yn ôl ymchwil Comisiwn annibynnol Holtham, yn gweld Cymru ar ei cholled o tua £300-400m y flwyddyn. Mae Plaid Cymru eisiau gweld fformiwla sy’n seiliedig ar anghenion, nid poblogaeth cenedl. Mae’r Arglwydd Barnett ei hun wedi cydnabod fod y fformiwla bellach yn ddi-werth.
Mesur Isadeiledd
Bwriad y Mesur Isadeiledd yw i fuddsoddi mewn prosiectau isadeiledd Cymreig er mwyn trawsnewid ein rhwydwaith trafnidiaeth (e.e. Metro De Cymru, trydaneiddio prif lein Gogledd Cymru a lein y Cymoedd, adeiladu trydedd pont dros y Fenai, a gwella cysylltiadau ffordd rhwng y Gogledd a’r De) a sicrhau fod Cymru’n cael cyfran deg o wariant ar brosiectau Lloegr-yn-unig megis CrossRail a HS2.
Mesur Tegwch Economaidd
Dyma fesur fyddai’n taclo anghyfartaledd unigol a daearyddol drwy fabwysiadu’r model Almaenaidd o flaenoriaethu ardaloedd difreintiedig ar gyfer buddsoddiad er mwyn ail-gydbwyso’r economi a sicrhau ffyniant ledled y wlad. Yng Nghymru mae rhai o gymunedau tlotaf Ewrop gyfan – byddai’r mesur hwn yn gam tuag at roi terfyn ar y statws hwn.
Mesur Hawliau Gweithwyr
Mae’r Mesur Hawliau Gweithwyr yn cynnig polisiau i amddiffyn a grymuso gweithwyr megis sefydlu comisiwn i archwilio cyflog byw, rhoi terfyn ar gytundebau dim-oriau gorfodol, apwyntio gweithwyr i bwyllgorau gosod cyflogau, ac atal cyflogwyr rhag anfanteisio’r gweithlu cartref drwy dalu llai na’r isasfwm cyflog i weithwyr tramor.
Mesur Adnoddau Naturiol Cymru
Pwrpas y mesur hwn yw i drosglwyddo grym dros adnoddau naturiol Cymru (Ystadau’r Goron) o San Steffan i Gymru fel mai pobl Cymru sy’n elwa fwyaf o’r defnydd o’r adnoddau hyn. Byddai’r mesur yn gwarchod yr adnoddau hyn rhag cael eu hymelwa e.e. defnyddio dŵr Cymru ar gyfer prosiectau ffracio yn Lloegr, fel mae Llywodraeth y DU wedi ei awgrymu.
Mesur Darpariaeth y Gymraeg
Byddai Mesur Darpariaeth y Gymraeg yn llunio deddf newydd yn gorfodi cwmniau preifat ar gytundebau llywodraeth i gydymffurfio â’r Ddeddf Iaith a chanllawiau Comisiynydd yr Iaith, hyd yn oed os ydi eu pencadlys yn Lloegr neu eu bod yn gweithredu o Loegr.
Mesur Twristiaeth a Lletygarwch
Mae’r mesur hwn yn cynnig toriad TAW i’r diwydiant twristiaeth a fyddai’n rhoi’r hwb angenrheidiol i fusnesau, yn enwedig o ystyried fod y tywydd garw diweddar wedi effeithio’n fawr ar y sector.
Mesur Hawliau Dioddefwyr
Diben y mesur hwn yw i roi hawliau i ddioddefwyr trosedd fel nad ydynt yn teimlo eu bod yn cael eu hymylu gan y system gyfiawnder. Daw hyn ar ôl i nifer o ffigyrau cyhoeddus, gan gynnwys y cyn-Gyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus, Keir Stamer, alw am ail-ystyried y ffordd y caiff dioddefwyr eu trin gam y system gyfiawnder. Byddai hyfforddiant ar y mesur hwn yn orfodol i bob gweithiwr proffesiynol ym maes cyfiawnder troseddol.
Mesur Trais yn y Cartref
Byddai’r Mesur Trais yn y Cartref yn gwneud pob agwedd o drais yn y cartref yn drosedd drwy roi statws statudol i ddiffiniad y llywodraeth o drais yn y cartref, sy’n cydnabod ymddygiad o reoli a gorfodi yn ogystal â thrais corfforol. Byddai hyfforddiant yn angenrheidiol ar gyfer ymarferwyr fel bod ymchwiliadau i honiadau o drais yn y cartref yn flaenoriaeth, yn ogystal â sicrhau fod asesiadau risg yn cael eu cwblhau’n briodol.
Mesur Heddlu a Chyfiawnder Cymreig
Pwrpas y mesur hwn yw creu awdurdodaeth Gymreig arwahan, drwy ddiwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006 i gynnwys gweinyddu cyfiawnder. Byddai’r mesur yn cynnwys darpariaeth i sefydlu gwasanaeth erlyn annibynnol yng Nghymru, ac i Gymru reoli gweinyddiaeth y llysoedd. Byddai darpariaeth bellach mewn grym i ddatganoli Gwasanaeth Erlyn y Goron; cyfrifoldebau dros y gwasanaeth prawf, carchardai a’r heddlu; a system cymorth gyfreithiol arwahan, ynghyd â darpariaethau eraill yn dilyn pasio Deddf Llywodraeth Cymru newydd. 

No comments: