Thursday, June 26, 2014

Patrymau mudo Caerdydd

Yn sgil Cynllun Datblygu newydd Caerdydd mi ges i rhyw gip bach ar ddogfen sydd  wedi ei pharatoi gan Gyngor y Ddinas i bwrpas paratoi ar gyfer y cynllun - Cardiff Population & Housholds Forcast.  Mae yna gyfoeth o wybodaeth yn yr adroddiad - a dwi wedi dwyn tair delwedd o nifer o rai diddorol.  Mae'r tabl cyntaf yn dangos rhywbeth oedd yn anisgwyl i mi - sef bod mwy o bobl yn symud o Gaerdydd i'r awdurdodau cyfagos na sy'n symud y ffordd arall - er bod poblogaeth Caerdydd yn tyfu'n gyflym wrth gwrs - 35,000 (11.4%) rhwng 2001 a 2011.  Prisiau tai is sy'n gyfrifol am yn RCT, Caerffili, Casnewydd a Phen y Bont yn ol pob tebyg, a phobl gyfoethog yn symud allan sy'n gyfrifol am yr allfudo i Fro Morgannwg.  Mae'n bosibl y bydd y cynllun datblygu newydd yn newid y patrwm yma.

Patrwm arall amlwg iawn ydi bod y twf ym mhoblogaeth y ddinas wedi ei ganoli ar dde'r ddinas - Grangetown, Butetown, Cathays ac Adamsdown.  Mae hyn yn adlewyrchu'r ffaith bod llawer o'r twf ym mhoblogaeth y brif ddinas yn deillio o fewnfudo o wledydd y tu allan i'r DU.  Dyma'r rheswm pam na chafwyd fawr o gynnydd yn y ganran sy'n siarad Cymraeg yng Nghaerdydd - er bod y niferoedd sy'n siarad y Gymraeg yn cynyddu, roedd y niferoedd o bobl sydd wedi eu geni mewn gwledydd y tu allan i Gymru yn tyfu yn gynt.  Mae hyn wedi arwain at newid eithaf sylweddol ym mhroffil ethnig y ddinas - patrwm sy 'n debygol o gael ei atgyfnerthu gan y datblygiadau tai sylweddol sydd ar y gweill yn sgil derbyn y Cynllun Datblygu.




No comments: