Thursday, July 10, 2014

Gwilym Owen rhif 194

Cynghorwyr Plaid Cymru yng Ngwynedd ydi targed Gwil unwaith eto'r wythnos yma yn ei golofn gwynfanus yn Golwg.  Mae'n ymddangos bod rhai o blant  ysgolion uwchradd Bangor yn gadael tir yr ysgol i gael eu cinio yn ystod yr awr ginio ac yn mynd i siopa lleol a bwyta bwydydd sy'n llai na maethlon.  Yn naturiol ddigon bai cynghorwyr Plaid Cymru ydi hyn yn ol Gwilym.

Petai yna wobrau am geisio sgorio pwyntiau pleidiol wleidyddol idiotaidd a phlentynaidd mi fyddai Gwilym Owen yn ymgeisydd go gryf i ennill pencampwriaeth Ewrop.  Wedi dweud hynny mae'r ffaith bod y golofn yn datblygu i fod mor ogleisiol o hunan barodiol yn dechrau ei gwneud yn drysor bach cenedlaethol - mewn rhyw ffordd wyrdroedig.

1 comment:

Anonymous said...

Ydi 'Gwilym Owen' yn berson go iawn? Ynteu rhywfath o joc Dada-aidd sydd wedi mynd ymlaen ychydig yn rhy hir?
Mond gofyn...