Tuesday, July 01, 2014

Pam na chafodd Alun Davies y sac?

Mae'r ffaith bod Alun Davies yn cael aros yng nghabinet Carwyn Jones er iddo dorri cod ymarfer gweinidogion llywodraeth Cymru yn codi cwestiwn diddorol - pam?

Mae'n weddol amlwg nad ydi caniatau i weinidog dorri'r cod mewn ffordd eithaf difrifol, gyda dim mwy o gosb na gorfod sefyll i fyny am funud yn y Cynulliad i ymddiheuro, yn gosod cynsail cadarn ar gyfer y dyfodol.  Does gan yr un gweinidog fawr o gymhelliad i gadw oddi mewn i ganllawiau'r cod, pan mae'r gosb am fethu a gwneud hynny mor bitw.

Ar ben hynny, dydi hi ddim yn gyfrinach fawr nad ydi'r berthynas rhwng Alun Davies a Carwyn Jones wedi bod mor rhwydd ag y gallai fod tros y misoedd diwethaf am resymau sy'n ddim oll i'w gwneud efo trac rasio ym Mlaenau Gwent.  Byddai rhywun wedi meddwl y gallai ei safle yn fwy bregus na safle unrhyw weinidog arall oherwydd hynny - ond ddim o gwbl - mae'n dal wrth ei ddesg.

I gael ateb i'r cwestiwn 'does dim rhaid i ni edrych fawr pellach na meinciau cefn Llafur yn y Cynulliad.  Ar wahan i'r un neu ddau nad yw'n bosibl rhoi swydd cabinet iddynt am resymau sy'n ddim oll i'w wneud a'u gallu (Keith Davies a Leighton Andrews er enghraifft) does yna neb efo'r sgiliau anghenrheidiol i ymgymryd a chyfrifoldeb gweinidog.  Adlewyrchiad o dlodi Llafur o ran adnoddau dynol yn y Cynulliad ydi goroesiad gwleidyddol Alun Davies.

7 comments:

Twm said...

Yr brif rheswm yw diffyg dewis.

Mae Leighton yn barod ar y feinciau cefn, bydde Alun Davies yna hefyd yn neud bywyd yn anodd.

Yn ogystal pwy diawl sy'n gallu dod o'r feinciau cefn i fod yn weinidog? Janice Gregory yn barod yn y gabinet!

Pan ti'n cymryd allan y llywydd a'r ex-weinidogion mae feindio 13 gweinidog allan o 27 AC yn un o brif problemau Carwyn Jones.

Cai Larsen said...

Yn union

Anonymous said...

Rwyt ti'n cymysgu dau bwynt yn fan hyn ac yn ceisio dweud eu bod ynghlwm pan nad ydyn nhw. Ti'n gwbl iawn i ddweud nad yw'r meinciau cefn yn gwegian a thalent ac y byddai penodi olynydd i Davies efallai yn her (er rwy'n siwr y byddai Mick Antoniw yn gallu bod yn weinidog quasi-tebol) ond dyw dweud bod rhyw berygl o wrthryfel jest ddim yn realistig. Rwyt yn cyfeirio at Andrews ar y pwynt yma gan awgrymu y byddai ef a Davies yn gallu cydweithio i wneud rhyw ddrygioni - pryd oedd y tro diwethaf i Andrews siarad yn erbyn polisi'r llywodraeth neu bledleisio yn eu herbyn? Hynny yw, heblaw am pan oedd e yn weinidog?

Cai Larsen said...

Dwi'n meddwl dy fod wedi darllen rhywbeth i mewn i'r blogiad nad oedd i fod yno Anon 3.00 - efallai mai fi oedd yn aneglur.

Un pwynt sydd i'r blogiad - dylai AD fod mewn sefyllfa bregus iawn, ond dydi o ddim. Y rheswm am hynny ydi diffyg talent ar y meinciau cefn, a'r ffaith bod y sawl sydd a'r gallu methu cael eu dewis.

Fel ti'n dweud fydd yna ddim gwrthryfel, dydi tatws ddim yn gwrthryfela yn aml.

Gareth said...

Dwi'n clywed bod dau reswm iddo beidio cael ei ddiswyddo, a mae'r ddau yn barod wedi eu crybwyll fan hyn. Hynny yw, bod diffyg opsiynau a bod CJ yn poeni am AD yn fwy ar y meinciau cefn nag yw e amdano fel Gweinidog.
Mae'n debyg nad ydy'r ail reswm yn ansylweddol. Mae'n amlwg bod CJ yn gweld AD fel bygythiad i'w swydd ei hun yn y pendraw. "cadwch eich gelynion yn agos"...

Dai said...

Os yw Alun Davies yn fygythiad I Carwyn Jones yn ei swyddd yna mae pethau'n waeth o fewn Llafur nag oeddwn i'n meddwl

twm said...

Newyddion diddorol iawn o Aberconwy gyda Mike Priestly yn fynd o'r Libs i Llafur.

Yn 2011 wnaeth y Libs gostwng 4.2% dros cymru ond codi 4.9% yn Aberconwy. Hyd yn oed os oeddent jyst wedi wneud union mor da a 2007 byddent wedi colli sedd rhestr.

Heb law fod na rhyw fath o miracle dwi'n credu mae Aled Roberts wedi colli sedd o wythnos ma.