Tuesday, July 29, 2014

A thair sedd sydd o ddiddordeb i'r Blaid

Reit mi wnawn ni ddechrau efo Arfon.  Mae'n siwr y dyliwn i ddatgan diddordeb yma - dwi'n eistedd ar bwyllgorymgyrch Hywel Williams ar hyn o bryd.



Mae Arfon yn etholaeth newydd - daeth i fodolaeth (ar lefel San Steffan) yn 2010 ac fe'i henillwyd mewn gornest eithaf agos gan Blaid Cymru.  Petai'r etholaeth wedi bodol cyn hynny mae'n debyg y byddai Llafur wedi ennill yn 2005, 2001 ac o bosibl yn 1997.  Gellir rhannu'r etholaeth yn bedwar - Caernarfon, Bangor, Dyffryn Ogwen a Gwyrfai.  Roedd Gwyrfai a Chaernarfon yn hen etholaeth Caernarfon, tra bod Dyffryn Ogwen a Bangor yng Nghonwy.  Ar lefel San Steffan mae'r Blaid yn dominyddu yn wleidyddol yng Ngwyrfai, mae'n gryfach na'r un blaid arall yn Nyffryn Ogwen a Chaernarfon, ond mae Llafur ymhell o flaen neb arall ym Mangor.  Ar pob lefel arall (Ewrop, lleol, a Chynulliad) mae'r Blaid yn gyfforddus ar y blaen ym mhob rhan o'r etholaeth.  

Yn ol Ladbrokes mae'r Blaid a Llafur ar 5/6 yr un - sy'n golygu bod yr etholaeth yn 'rhy agos i'w galw' - a defnyddio termenoleg y cwmni.  'Dwi'n anghytuno - 'dwi'n meddwl y bydd y Blaid yn ennill - er fy mod yn derbyn bod y bleidlais yn debygol o fod yn agos - byddwn yn disgwyl mwyafrif o 5% i 10% i'r Blaid.  Y rheswm sylfaenol am fy optimistiaeth ydi tan berfformiad Llafur yn yr etholaeth ers 2010.  Cawsant etholiadau lleol gwael iawn, etholiadau Ewrop gwael iawn a syrthiodd eu pleidlais yn yr etholiad Cynulliad - yn gwbl groes i'r patrwm cenedlaethol.  Mae proffeil Hywel yn lleol yn llawer uwch nag un yr ymgeisydd Llafur.  

Mae'r sedd wrth gwrs wedi ei thargedu gan Lafur - ac maent yn taflu adnoddau i geisio ei hennill.  Maen nhw'n siwr o wella'n sylweddol ar eu perfformiadau gwan yn 2011,  2012 a 2014 - yn bennaf oherwydd bod mwy o'u cefnogwyr yn dod allan i bleidleisio mewn etholiadau cyffredinol - ond dwi ddim yn meddwl y byddant yn cipio'r sedd.  Does yna ddim dwi wedi ei weld mewn ffigyrau canfasio na pholio preifat sy'n rhoi unrhyw le i gredu bod unrhyw fomentwm o gwbl y tu ol i ymgyrch Llafur.   Mae'r 5/6 ar y Blaid yn bris da - a 'dwi wedi manteisio ar y pris hwnnw.  

Mae yna bethau sy'n gyffredin rhwng Arfon ac Ynys Mon - niferoedd uchel o siaradwyr Cymraeg, tref fawr Saesneg o ran iaith (Caergybi a Bangor), pocedi o dlodi sylweddol, canolfannau o gefnogaeth hanesyddol i'r Blaid (perfedd dir Mon a phentrefi mawr Gwyrfai).  Ond ceir gwahaniaethau arwyddocaol hefyd - mae Arfon yn llawer mwy trefol gyda lwmp da o'i phoblogaeth yn byw mewn pentrefi ol ddiwydiannol.  Dydi'r diwydiant amaethyddol ddim yn bwysig yn Arfon.  O ganlyniad mae ceidwadiaeth gwleidyddol yn gryfach ym Mon nag ydyw yn Arfon. 




Mae Ladbrokes yn ystyried Llafur yn fferfrynnau gweddol glir.  Y rheswm tebygol am hyn ydi bod y sawl sy'n betio yn edrych ar yr etholaeth trwy brism polau 'cenedlaethol'.  O edrych ar bethau felly mae'n rhesymol disgwyl y bydd pleidlais Llafur yn cynyddu.  Ond mae gan Gogledd Orllewin Cymru yn gyffredinol ac Ynys Mon yn benodol hen hanes o fynd eu ffordd eu hunain mewn etholiadau.  Roedd etholiad Cynulliad 2011 yn siomedig i Lafur, roedd etholiadau cyngor 2013 yn siomedig iawn,  felly hefyd is etholiad Ynys Mon y flwyddyn honno ac etholiad Ewrop eleni.  Dydi'r llong  ddim yn un hapus - bu cecru mewnol - yn arbennig felly ym mherfedd - dir Llafur ar Ynys Cybi.  Mae eu cynghorydd mwyaf poblogaidd wedi gadael.  Ar ben hynny does yna'r un sedd wedi ei chanfasio mor drylwyr gan y Blaid mewn blynyddoedd diweddar - gan roi dealltwriaeth glir iawn iddi o leoliad ei chefnogaeth.

Dydi hyn ddim yn golygu bod y Blaid yn ffefryn i ennill - mae etholiadau San Steffan yn haws na'r gweddill i Lafur ac yn anos i'r Blaid, mae gan Albert Owen bleidlais bersonol, ac mae Ynys Mon yn enwog o amharod i gael gwared o ddeilydd sedd.  Ond o gynnal ymgyrch frwdfrydig a phwrpasol tros yr hydref - ymgyrch sy'n cynnal naratif sy'n apelio at gyfran dda o'r ddwy draen o'r sawl a bleidleisiodd yn 2010 na bleidleisiodd tros Albert Owen - does yna ddim rheswm pam na all y Blaid fod yn gystadleuol iawn.  Dwi ddim yn meddwl bod y sawl sydd wedi rhoi pres ar Lafur ar 1/4 wedi cymryd hanes etholiadol ol 2010 i ystyriaeth, a dwi ddim yn meddwl bod yna gyfiawnhad tros y prisiau yna.  Mi fedrwch chi gael 3/1 ar y Blaid gan Ladbrokes gyda llaw.  

A daw hyn a ni at Geredigion.  Fel rydym wedi son eisoes, mae'r sawl sy'n betio efo Ladbrokes yn ystyried y Blaid yn fwy tebygol o ennill Ceredigion nag Ynys Mon.  Dydi hanes etholiadol ol 2010 heb fod mor ddrwg i'r Lib Dems yng Ngheredigion nag oedd i Lafur yn Ynys Mon.  Cawsant etholiad Cynulliad da, a 'doedd eu hymdrech leol yn 2012 ddim mor siomedig ag un Llafur yn Ynys Mon y flwyddyn ganlynol - ond roedd eu canlyniad yn etholiad Ewrop yn arbennig o sal.  Ac wrth gwrs roedd eu mwyafrif yn 2010 yn sylweddol iawn.  Mae Mark Williams hefyd yn ymddangos i fod yn boblogaidd yn lleol.  

Adlewyrchiad o'r ffigyrau polio ehangach ydi ffigyrau Ladbrokes unwaith eto.  

Serch hynny mae yna arwyddion da i'r Blaid - hanes cymharol ddiweddar o fod ag Aelod Seneddol, ymgeisydd adnabyddus sydd a'r gallu i apelio y tu hwnt i gefnogwyr naturiol y Blaid, peirianwaith lleol, gwynt etholiadol sylweddol yn erbyn eu prif wrthwynebwyr.  Mae gogwydd o bron i 11% yn un sylweddol - ond mae'r polio cyfredol yn awgrymu y bydd llawer o etholaethau yn gweld symudiadau cyn gryfed a hynny - os nad cryfach yn erbyn y Lib Dems y flwyddyn nesaf.  Mae'r brifysgol hefyd yn ffactor yma wrth gwrs - ac mae'n debygol y bydd hynny'n effeithio yn negyddol ar y Lib Dems.

Fel yn achos Ynys Mon gallai ymgyrch effeithiol tros gyfnod a naratif sy'n apelio at garfannau ehangach na chefnogwyr traddodiadol y Blaid wneud hon yn etholaeth gystadleuol iawn.  Dydi'r 7/4 mae Ladbrokes yn ei gynnig ar y Blaid ddim mor atyniadol a 4/1 Ynys Mon  - ond mae'n fet sydd werth ei hystyried.  







2 comments:

Alwyn ap Huw said...

Pam bod dy glipluniau o'r canlyniadau wedi eu tynnu o Wikipedia Saesneg; pan fo rhyw greadur wedi bod wrthi'n ddiwyd yn sicrhau bod gwybodaeth gyffelyb ar gael ar y Wicipidia Cymraeg?

http://cy.wikipedia.org/wiki/Arfon_(etholaeth_seneddol)#Canlyniadau_Etholiad_2010

http://cy.wikipedia.org/wiki/Ynys_M%C3%B4n_(etholaeth_seneddol)#Canlyniadau_Etholiad_2010

http://cy.wikipedia.org/wiki/Ceredigion_(etholaeth_seneddol)#Etholiadau_yn_y_2010au

Cai Larsen said...

Diolch - heb ei weld