Sunday, August 17, 2014

Anhrefn llwyr yn aros Caerdydd

Dwi'n gobeithio fy mod wedi cam ddarllen y stori yma ar Wales Online - ond os ydi hi'n gywir mae'r holl anhrefn sy'n cael ei achosi ar hyn o bryd yng nghanol Caerdydd yn digwydd ar gyfer un noswaith o giniawa gan gynadleddwyr NATO.  Mae'r uwch gynhadledd ei hun yn cael ei chynnal yn y Celtic Manor yng Nghasnewydd wrth gwrs, ond ymddengys bod y cynadleddwyr am fod yn gwledda ym Mharc Bute ar y noson gyntaf.  Ac i ganiatau iddynt wneud hynny mae'r ddinas wedi ei boddi gan blismyn, mae yna uffern o ffens fawr anghynnes wedi ei chodi o amgylch y parc.

Wedi gorffen codi'r anghenfil bydd llawer o'r lonydd yng nghanol y ddinas yn cael eu cau am gyfnod o ugain diwrnod  - manylion yma.  Rwan mae'r traffig yng nghanol y ddinas yn gallu bod yn gwbl hunllefys ar rhai adegau o'r dydd ar yr amser gorau.  Mae pethau am fod yn gan gwaith gwaeth am gyfnod o ugain diwrnod a wnelo - fe ymddengys - un noson o loddesta gan griw bach dethol iawn o dramorwyr.  Duw a wyr beth fydd cost yr holl 'ddiogelwch' heb son am busnes fydd yn cael ei golli yng nghanol y ddinas pan fydd pobl yn aros adref yn hytach na wynebu'r anhrefn traffig a channoedd o blismyn a heddlu cudd fydd efo dim i'w wneud ond gwneud niwsans ohonyn nhw eu hunain.

Os ydi'r digwyddiad anymunol yma'n gorfod cael ei gynnal yng Nghymru, oni fyddai'n well ac yn rhatach bod yr holl wledda yn digwydd yng Nghasnewydd?  Os ydi'r cynadleddwyr eisiau gadael y Celtic Manor mewn gwirionedd, mae yna goblyn o Toby's Carvery da yng Nghasnewydd.  Byddai'n rhad i'w rentu am y noson, yn syml i'w amddiffyn a byddai pawb yn cael llond bol o fwyd am £6.99 yr un - ac mi fyddai trigolion Caerdydd ac ymwelwyr a'r ddinas yn cael llonydd i fynd ymlaen efo'u busnes.




No comments: