Sunday, September 21, 2014

Llif o aelodau newydd i'r SNP

Un o ganlyniadau anisgwyl refferendwm ddydd Iau ydi cynnydd anferth yn aelodaeth yr SNP ers dydd Gwener.  Mae'n debyg y bydd y cynnydd hwnnw yn cyrraedd 10,000 tros yr oriau nesaf - gan fynd a chyfanswm aelodaeth y blaid o 25,000 i 35,000.  Yng nghyd destun gwleidyddiaeth gyfoes mae'r ffigwr hwn yn anferth.  

Petai plaid unoliaethol efo'r un gyfradd o aelodaeth tros y DU, byddai ganddi 420,000 o aelodau.  Dydi pob plaid unoliaethol efo'i gilydd ddim yn cyrraedd y cyfanswm yma.  Amcangyfrifir mai 187,000 o aelodau sydd gan y Blaid Lafur (gyda chanran uchel ohonynt yn byw yn Ne Ddwyrain Lloegr), 134,000 o aelodau sydd gan y Toriaid, 37,000 sydd gan UKIP a 44,000 aelod sydd gan y Lib Dems.  

Dwy o'r pleidiau unoliaethol fydd yn talu am yr hyn ddigwyddodd ddydd Iau - y Blaid Lafur a'r Lib Dems.  Bydd Llafur yn colli seddi yn yr Alban y flwyddyn nesaf, a byddant yn cael eu hunain ymhell y tu ol i'r SNP yn etholiad Holyrood yn 2016.  Ond bydd pethau'n waeth ar y Lib Dems.  Rhywbeth sydd heb gael llawer o sylw yn y cyfryngau ydi bod canran uwch o bleidleiswyr Lib Dem wedi fotio Ia na phleidleiswyr Llafur.  Bydd y Lib Dems yn cael eu sgubo o dir mawr yr Alban y flwyddyn nesaf.

Gyda llaw, mae'r Gwyrddion a'r SSP wedi ennill niferoedd sylweddol o aelodau tros y dyddiau diwethaf - ac mae yna hyd yn oed son i'r Blaid ennill rhai aelodau newydd hefyd.




3 comments:

Anonymous said...

Byddai'n ddiddorol gwybod is yw'r Blaid wed I ennill unrhyw aelodau newydd ERS y Taff ax, is Felly, faint?

Beth, gyda llaw, yw aelodaeth y Blair?

Anonymous said...

bellach mae 15,000 o aelodau NEWYDD gan yr SNP.

Mae mor ddigalon nad oes dim o hyn i'w weld yng Nghymru.

Anonymous said...

Wel, i gael hynny rhaid cael a cholli refferendwm, ac i gael hynny rhaid mwyaf rhif o genedlaetholwyr yn y Gynulliad ...
Hmm ... beth am y SNP sefyll yn yr ardaloedd digymraeg yn erbyn y Blaid Llafur?