Monday, October 27, 2014

Gwersi i'w cymryd o ddigwyddiadau diweddar yn yr Alban

Mae'r hyn a ddywedwyd gan Andy Kerr - cyn weinidog cyllid yr Alban - wrth rhaglen Radio Scotland Crossfire ddoe yn dangos yn glir ffyrnigrwydd y rhyfel cartref sy'n difa'r Blaid Lafur yn yr Alban ar hyn o bryd.  Ond mae yna hefyd wers i Gymru: 

If I was a dinosaur I’d be quite offended to be compared to some of these [Scottish Labour] MPs. Dinosaurs left the planet and there was some hope for life afterwards. These people are not going to leave any hope for life in the Scottish Labour Party. [Their] line is to gloss this over and elect someone quickly. But if you don’t sort out the problem of who runs the party in Scotland, we’re not going to get anywhere. My campaign [for the Scottish Labour leadership] was very forceful on the powers of the leader of the Scottish Labour Party – not unsurprisingly, when you put that kind of pitch to MPs, you don’t get elected, and that’s what happened to me. I believe the SNP finance minister got a better deal out of the Labour government than I did. Scottish Labour created the Scottish Parliament and since then has tried to strangle it.

Mi aralleiriaf y ddau ran pwysicaf.  Ymddengys bod gweinidog cyllid SNP yn gallu cael ei ffordd gan lywodraeth Llafur tra nad oedd gweinidog cyllid Llafur yn gallu gwneud hynny.  Y rheswm am hynny ydi bod gweinidog SNP yn chwilio am y fargen orau i'r Alban.  Blaenoriaeth gweinidog Llafur ydi dangos ei ufudd-dod i'r Blaid Lafur Brydeinig.  Dydi llywodraeth San Steffan ddim am roi bargen dda i'r sawl sy'n ufudd - a does yna neb sy'n fwy ufudd na Carwyn Jones a'i weinyddiaeth.  Pa ryfedd bod Cymru ymysg gwledydd tlotaf Ewrop er i ni bleidleisio tros Lafur yn ddi baid ers 1918.

Ac mae yna ail wers.  Mae'n amlwg bellach bod y Blaid Lafur Albanaidd yn cael ei rhedeg o Lundain - a bod y syniad o Blaid Lafur Albanaidd yn rhith mewn gwirionedd.  Mae'n amhosibl dychmygu bod y Blaid Lafur Gymreig yn fwy annibynnol nag ydi un yr Alban - felly rhith ydi hithau hefyd.  Yn wir mae'r gwrthwyneb yn debygol o fod yn wir - mae pob dim rydym yn ei wybod am y Blaid Lafur Gymreig yn awgrymu ei bod yn ystyried bod yn  lleddf ac ufudd yn gryn rinwedd.  Mae'n debyg bod Carwyn Jones yn cael ei fwlio gan y Blaid Lafur yn Llundain yn union fel roedd yr anffodus Jonah Lamont hithau yn cael ei bwlio - ond efallai ei fod wedi ei ddofi i'r fath raddau nad yw'n sylweddoli hynny.  Os mai swyddfa cangen ydi'r Blaid Lafur Albanaidd, is swyddfa cangen ydi'r Blaid Lafur Gymreig.  

Ac mae yna drydydd gwers sy'n dod a'r ddwy arall at ei gilydd.  Gwastraff pleidlais ydi pleidlais i'r Blaid Lafur yng Nghymru - pleidlais tros is gangen o'r Blaid Lafur Brydeinig sydd ddim yn cael unrhyw barch gan hyd yn oed y Blaid Lafur - heb son am y pleidiau eraill.  Yr unig ffordd o ddefnyddio pleidlais yn effeithiol ydi trwy ei bwrw tros blaid sydd yn fodlon sefyll tros Gymru - ac mi'r ydan ni i gyd yn gwybod beth mae hynny'n ei olygu

No comments: