Monday, November 03, 2014

Mwy o newyddion drwg i Lafur

Gyda newyddion trychinebus i Lafur yn dod o'r Alban ac o'r polau 'cenedlaethol' mae'n ddiddorol nodi i Alwyn Humphreys - ymgeisydd Llafur ym Meirion Dwyfor benderfynu gadael y Blaid Lafur ac ymuno a Phlaid Cymru.  Dewiswyd Alwyn gan Lafur Arfon hefyd i ymladd etholiad Cynulliad 2011, ond penderfynodd beidio sefyll trostynt yn y diwedd.  Er bod Alwyn yn byw yn Rhosllanerchrugog, Wrecsam ar hyn o bryd cafodd ei eni a'i fagu yn Nyffryn Nantlle, Arfon.

Yn ol Alwyn y rheswm ei fod wedi gadael y blaid adain Dde, unoliaethol ydi ei fod bellach o'r farn mai dim ond Plaid Cymru sy'n amddiffyn gwerthoedd traddodiadol y Blaid Lafur - sefyll tros hawliau pobl gyffredin a gofalu am y llai ffodus mewn cymdeithas.  Mae o'r farn bod y Blaid Lafur yn fwyfwy gefnogol o bolisiau Toriaidd. Amen i hynny. 




Alwyn ar y chwith ac ymgeisydd Plaid Cymru yn Ne Clwyd, Mabon ap Gwynfor ar y dde.

13 comments:

Anonymous said...

Ia wir, 'Welcome'...............

Anonymous said...

a chroeso uniaith saesneg yn y canol
Y Blaid yn 'sefyll cornel Cymru' hefyd

Anonymous said...

'..... dim ond Plaid Cymru sy'n amddiffyn gwerthoedd traddodiadol y Blaid Lafur......'
(Dyna'r eglurhad am y diffyg Cymraeg)

Anonymous said...

Ond mae gin Llafur cyn lleied o barch at y Gymraeg maen nhw yn cael boi uniaith Saesneg i sefyll yn Arfon! Anhygoel.

Anonymous said...

Hefyd , mond 2% gyfrannodd Ms Leanne Wood trwy gyfrwng y Gymraeg yn y senedd llynedd !!! Trychinebus a chywilyddus yn wir a hithau yn arweinydd "the party of Wales".

Anonymous said...

Mae Alun Pugh wedi dysgu Cymraeg !! A mae yn siarad mwy o Gymraeg na'r Leanne Wood 2% 'na.

Cai Larsen said...

Wel, mae 2% yn uwch na 22 o'r 30 aelod Llafur - rhai ohonynt yn fwy rhugl eu Cymraeg na LW.

Oni bai am aelodau Plaid Cymru ychydig iawn o Gymraeg fyddai'n cael ei ddefnyddio yn y Cynulliad Cenedlaethol.

7:00 pm

Anonymous said...

Wel os ydach chi yn honni bod plaid cymru yn warchodiaid yr iaith mi faswn wedi disgwyl mwy na 2% gan eich arweinydd.

Cai Larsen said...

Diolch am y cyfaddefiad nad ydi Llafur yn ystyried eu hunain yn warcheidiaid yr iaith - er bod cymaint a hynny yn amlwg mewn gwirionedd wrth gwrs.

Anonymous said...

Peidiwch ag osgoi y ffaith mai 2% mae eich arweinydd yn gyfrannu trwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghaerdydd !! Mae Alun Pugh wedi dysgu Cymraeg a fydd o ddim hyd yn oed yn medru cyfrannu yn Gymraeg yn San Stefffan. Mae'r diffyg defnydd o'r iaith yn amlwg iawn ar ei ffesbwc a'i thrydar (LW) . Tydi Llafur ddim yn honni dim dros yr iaith , yn wahanol i Plaid Cymru . Y blaid gauodd ysgolion bach Gwynedd dan gynnig Sian Gwenllian a Liz Saville - a'r ddwy rwan yn disgwyl i bobol bledleisio drostynt. O yr eironi . A dyma ni rwan yn rhoi "welcome" i'r dyn Alwyn 'ma. Inyff sed ys dywedodd Ifas y Tryc slawer dydd yn dol !

Anonymous said...

Mae gen i ofn y ffeindi di lawer mwy o Gymraeg ar gyfri trydar LW na un AP - er bod y naill yn sefyll yn y Rhondda a'r llall yn arfon.

Anonymous said...

Ond y pwynt yw nad ydi Plaid Lafur yn honni eu bod yn gwarchod y iaith nagdyn. Plaid Cymru sydd yn honni hynny ynde. Peth rhyfadd iawn i neud a'r arweinydd yn cyfrannu mond 2% yn y senedd. A pwy ddarllennodd ei ffesbwc yn deud "i spoke IN WELSH today at the rally" yn cyfeirio ar y rali CIG ym Mhwllheli. Pa iaith arall fysa ni yn ddisgwyl iddi siarad ynddo.......od iawn fysa cyfrannu mewn Zwahili neu unrhyw iaith arall mewn rali CIG ynde. Doh !

Anonymous said...

Dipyn o party hopper ydio , cradur. Deud wbath na efo Plaid Cymru mae o'n landio ddwaetha.