Sunday, December 14, 2014

Y gyfundrefn etholiadol leiaf democrataidd yr ochr yma i Ogledd Corea?

  • Os oes yna unrhyw beth yn dangos anhegwch sylfaenol ein system etholiadol, dosbarthiad aelodau seneddol Cymru ydi hwnnw.  
Yn ol pol YouGov i ITV a Chanolfan Llywodraethiant Cymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar mae pleidlais Llafur yng Nghymru yn parhau i gwympo'n gyson - maent ar 36% ar hyn o bryd - rhywbeth digon tebyg i'w perfformiad yn 2010.  Ac eto mae'r un pol yn awgrymu y byddant yn ennill 70% o'r seddi - dwywaith cymaint a mae eu pleidlais yn awgrymu y dylent ei gael.  

Ychwaneger at hynny'r ffaith bod yr etholaethau Cymreig yn isel eu poblogaeth o gymharu a gweddill y DU ac mae'n weddol amlwg bod mae ychydig o bleidleisiau yng Nghymru yn cyfieithu i lawer o seddi i'r Blaid Lafur.  

I edrych ar bethau mewn ffordd ychydig yn wahanol cafodd Llafur 19,239 o bleidleisiau am pob sedd a gafodd yng Nghymru yn 2010.  Cafodd y Toriaid 33,325 o bleidleisiau am pob sedd a gawsant yn Lloegr.  Cymaint ag oedd y gwahaniaeth hwnnw dydi o'n ddim wrth y gymhareb Lib Dem yn Lloegr - 141,306 pleidlais am pob sedd.  Yr anhegwch sydd yn rhan o'r gyfundrefn etholiadol ydi'r rheswm pam bod Llafur mor gefnogol iddi wrth gwrs.

Ta waeth, stori arall ydi honno.  Yr hyn sy'n fwy perthnasol ydi'r cysylltiad rhwng natur tirwedd etholiadol Cymru a'i statws oddi mewn i'r DU.  Mae Cymru yn ffynhonnell hawdd o seddi San Steffan i Lafur sy'n gallu cael eu hennill heb wneud fawr o ymdrech a heb rhyw ormod o bleidleisiau chwaith.  O ganlyniad mae'r wlad yn cael ei chymryd yn ganiataol gan Lafur, a does dim rhaid gwneud llawer iawn o ymdrech i gadw'r seddi.  Dyma i raddau helaeth pam bod y driniaeth gyllidol mae Cymru yn ei derbyn cymaint salach na'r hyn a gynigir i'r Alban a Gogledd Iwerddon.  


  • Llafur 36% (-2%)
  • Toriaid 23% (0)
  • UKIP 18% (+1%)
  • Plaid Cymru 11% (0)
  • Lib Dems 5% (-1%)
  • Gwyrdd 5% (0)
  • Arall 2% (+1)


  • Llafur 28 (70% o'r seddi)
  • Toriaid 8 (20% o'r seddi)
  • UKIP 0 (0% o'r seddi)
  • Plaid Cymru 3 (7.5% o'r seddi)
  • Lib Dems 1 (2.5% o'r seddi)
  • Gwyrdd 0 (0% o'r seddi)

1 comment:

Gwyn Jones said...

"off topic"
Rhywun arall wed sylwi bod y trw blw socialist,Jim Murphy, yn edrych yn debyg iawn i'r trw blw socialist arall diweddar o Gymru, George Thomas?
Tybiaf bod gwleidyddiaeth y ddau yn debycach fyth.

Gwyn Jones