Saturday, January 31, 2015

Ynglyn a bod yn ffeind efo'r Gwyrddion

Gan bod yna cymaint o son wedi bod yn yr hyn sydd ar ol o'r blogosffer am y cytundeb / cynghrair neu beth bynnag rhwng Plaid Cymru a'r Blaid Werdd - mae'n siwr y byddai'n well i mi ddweud gair neu ddau.  Mae blog Jason yn cwmpasu llawer o'r ddadl.

Cyn cychwyn mae'n werth dweud fy mod yn meddwl  bod pobl wedi rhoi dau a dau at ei gilydd a chael pump.  Mae'n wir i arweinyddion y Blaid Werdd. (Brydeinig), Plaid Cymru, a'r SNP gyfarfod a mynegi gwrthwynebiad ar y cyd i bolisiau llymder y prif bleidiau unoliaethol, ac mae'n wir i Dafydd Wigley ddweud rhywbeth ffeind am y Gwyrddion yng Lloegr.  Ond dydi hynny ddim yn strategaeth.  Dau ddigwyddiad, neu ddatganiad ydyn nhw.  Mae'n synhwyrol tynnu sylw at y ffaith nad ydi'r Blaid ar ei phen ei hun yn gwrthwynebu toriadau mewn gwariant cyhoeddus - dyna beth ydi llymder yn y bon - mae hynny'n gwneud y gwrthwynebiad hwnnw yn fwy perthnasol.

Rwan, dwi ddim yn meddwl bod rhaid gwneud mwy na hynny a dweud y gwir - ond mae'n bosibl adeiladu achos tros gydweithredu ffurfiol rhwng y tair plaid - ar y mater yma - ac yn ystod yr ymgyrch etholiadol yma.  

Y peth cyntaf i'w ddweud ydi nad ydi dweud pethau ffeind am bleidiau gwleidyddol eraill o angenrhaid yn beth drwg - er bod rhaid cyfaddef nad ydi caredigrwydd at elynion gwleidyddol yn un o rinweddau'r blog yma.  Mae'n hen draddodiad mewn etholiadau Gwyddelig i wrthwynebwyr gwleidyddol ffyrnig ddechrau dweud pethau ffeind am ei gilydd fel mae etholiad yn dod yn nes.  Y rheswm am hynny ydi bod y drefn etholiadol yno yn golygu y gall pobl roi eu ail, trydydd pleidlais ac ati i bleidiau eraill.  Ymgais i gael ail a thrydydd pleidlais ydi'r caredigrwydd - nid caredigrwydd o waelod calon.

Rwan mae ein trefn etholiadol ni yn wahanol - ond mae caredigrwydd tactegol yn digwydd yma hefyd.  Mi gadwodd y diweddar Wyn Roberts sedd ymylol Conwy am flynyddoedd maith trwy beidio ypsetio neb a bod yn weddol ffeind efo pawb yn ei dro. Gallai aelod presenol Aberconwy ddysgu gwers neu ddwy ganddo yn hynny o beth.  Mae Glyn Davies, Maldwyn yn arbenigwr ar y grefft o'ch argyhoeddi ei fod yn cytuno efo chi (a phawb arall) yn y bon.  

Os oes ymchwydd yn y bleidlais Werdd tros y DU -  ac mae'r polau tros yr ychydig fisoedd diwethaf yn awgrymu hynny - mae'n gwneud synnwyr i geisio apelio at y bleidlais honno.  Mae hyn yn arbennig o wir yn yr achos yma - dydi'r Blaid ddim yn gartref naturiol i'r elfennau Seisnig, dinesig sydd yn tueddu tua'r Blaid Werdd.  Mae yna ffynhonell posibl o bleidleisiau sydd ddim ar gael fel rheol.  

Y broblem strategol - fel mae fy nghyd flogwyr wedi awgrymu - ydi'r Blaid Werdd Gymreig.  Dydi o ddim yn gyfrinach bod yna elfennau lleiafrifol oddi mewn i'r Blaid Werdd Gymreig sy'n gydymdeimladol tuag at y Blaid - ond son am leiafrif ydym ni.  Mae'r blaid yn cael ei rhedeg gan elfennau digon gwrth Gymreig.  

Petai strategaeth yn bodoli i apelio at y pleidleiswyr Gwyrdd newydd y ffordd o wneud hynny fyddai pwysleisio'r hyn sy'n gyffredin yn agweddau Plaid Cymru a'r Gwyrddion tuag at bolisiau economaidd tra'n pwysleisio nad oes gan y Blaid Werdd obaith o wneud dim ohoni yng Nghymru - does ganddyn nhw ddim peirianwaith yn y rhan fwyaf o'r wlad, a does ganddyn nhw ddim ymgeiswyr mewn lle yn y rhan fwyaf o lefydd chwaith.  Ffactorau Prydeinig - nid apel Pippa Bartolotti a'i ffrindiau sy'n gyrru pobl tuag at y Gwyrddion yng Nghymru.  Byddai tynnu sylw at unrhyw wahaniaethau rhwng y Gwyrddion Seisnig a Chymreig yn rhan o strategaeth felly - yn ogystal a chyfeirio at bolau megis yr un BBC a gyhoeddwyd echdoe oedd yn rhoi pleidlais y Gwyrddion ar hanner pleidlais y Blaid.  

Fel y dywedais, does yna ddim strategaeth o gyngrheirio efo'r Gwyrddion - ond petai yna un, fyddai hynny ddim o anghenrhaid yn 'stiwpid' chwadl Jason.

Wednesday, January 28, 2015

Ymhellach i'r Dde na'r Toriaid

Mae'n ddiddorol bod rhai o aelodau'r Blaid Lafur yn Arfon yn ystyried bod cynnwys amod Cymraeg mewn hysbysebion am swyddi cyhoeddus yn y Gymru Gymraeg yn ymylu ar fod yn hiliol tra bod y Blaid Lafur yn 'genedlaethol' yn gosod eu hunain i'r Dde o'r Toriaid ar fater mewnfudiad.

Yn wir ymddengys eu bod eisiau gorfodi pawb sy'n gweithio yn y sector gyhoeddus i ddysgu Saesneg - hyd yn oed gweithwyr gofal rhan amser o is gyfandir India yn Tower Hamlets am wn i.  



Hysbysebion etholiad idiotaidd rhan 1

Gallwn ddisgwyl gwledd o hysbysebion etholiadol idiotaidd tros yr wythnosau nesaf - felly waeth i ni ddechrau casglu 'r rhai gwirinonaf un.  Mi wnawn ni gychwyn efo'r clasur bach yma o @Conservatives.


Mae'n perthyn i hen draddodiad o gymryd bod yr etholwyr yn wan eu meddwl a cheisio eu  dychryn yng ngoleuni'r canfyddiad sarhaus hwnnw.  

Mae hefyd yn nhraddodiad mwy diweddar o ddefnyddio photoshop i greu delwedd nad yw'n bodoli mewn gwirionedd - nid bod y cynnig yma yn dystiolaeth o sgiliau photoshop caboledig a dweud y gwir.

Monday, January 26, 2015

Polau heno

Mae pethau'n dyn iawn o hyd - ond mae'n ymddangos bod pethau yn symud i gyfeiriad y Toriaid - er bod y naill brif blaid fawr unoliaethol a'r llall ymhell, bell oddi wrth fod a'r ffigyrau i gael mwyafrif llwyr.  

Mi fydd Llafur yn gwneud mor a mynydd o'r ffantasi bod posibilrwydd y gallant ennill grym ar eu pen eu hunain.  Fedran nhw ddim gwneud hynny ar hyn o bryd, a does yna ddim lle i feddwl y bydd hynny yn newid tros y can niwrnod nesaf.  Yr unig bosibilrwydd sydd gan Lafur o ddod i rym unwaith eto ydi gyda chefnogaeth pleidiau eraill.  O safbwynt Cymru mae'n bwysig bod ganddi ei llais mewn cytundeb felly - a'r unig ffordd y bydd hynny'n digwydd ydi os bydd yna ddigon o bleidwyr yn cael eu hethol i wneud gwahaniaeth.  

Dydi o ddim ots faint o aelodau seneddol  Llafur caiff eu hethol o Gymru, dydi o ddim am wneud gwahaniaeth i'r mathemateg sylfaenol - does yna ddim digon ohonyn nhw i wneud gwahaniaeth.  Fydd gan Gymru ddim mymryn mwy o ddylanwad os mai 20 aelod seneddol Llafur sy'n cael eu hethol neu 35. 

Mae pleidlais i Lafur yn wastraff pleidlais y tro hwn - mae'n bleidlais fydd yn lleihau dylanwad Cymru.  


Sunday, January 25, 2015

Llafur watch - rhan 5

Rydym eisoes wedi edrych ar ragrith Alun Pugh, darpar ymgeisydd Llafur yn Arfon tuag at gytundebau sero awr yma.  Felly wnawn ni ddim mynd tros hen dir eto ag eithrio i bwrpas nodi bod llawer o gynghorau Llafur a llawer o Aelodau Seneddol Llafur yn cyflogi pobl ar delerau sero awr.

Beth bynnag, fel y gellir gweld o'r trydariad hwn, mae gan Alun Pugh deimladau cryf iawn am gytundebau sero awr - mae'r term 'abuse staff' yn un sy'n diferu o foesoli hunan gyfiawn.  Neu o leiaf mae Alun yn honni bod ganddo deimladau cryf ar y pwnc.


Rwan, mae'r honiad y byddai cytundebau sero awr yn dod yn anghyfreithlon petai'n cael ei ethol yn nonsens llwyr wrth gwrs.  Does gan aelod seneddol mainc gefn unigol ddim yr awdurdod i ddeddfu yn San Steffan - na mewn unrhyw ddeddfwrfa arall.

Ond mae yna ffyrdd y gallai Alun Pugh ddylanwadu ar y defnydd o'r cytundebau yma - a hynny heb gael ei ethol -  os yw'n teimlo mor gryf am y mater,  ac efallai ei fod wedi gwneud ymdrech.  Er enghraifft efallai ei fod wedi ysgrifennu at y 62 aelod seneddol Llafur sy'n cyflogi pobl ar gytundebau sero awr yn gofyn iddynt beidio a gwneud hynny.  Efallai ei fod wedi gofyn i Carwyn Jones ddefnyddio ei ddylanwad efo cynghorwyr Llafur Penybont er mwyn cael un o gyflogwyr sero awr mwyaf Cymru i symud oddi wrth yr arfer.  Neu efallai ei fod wedi siarad mewn rhyw gynhadledd Llafur neu'i gilydd yn condemnio cyngor (Llafur) Doncaster am gyflogi canran rhyfeddol o uchel o'i gweithwyr yn y modd yma.

Ar y llaw arall, efallai nad yw wedi gwneud dim o hyn.  Os felly - ac os ydi protestiadau Alun Pugh wedi ei gyfyngu i Wynedd gallwn gymryd mai gorchest ydi'r consern am weithwyr, ac mai ennill pleidleisiau ydi'r unig reswm mae'n codi'r mater.

Os ydan  eisiau diffinio'r technegau camarwain yma, mae yna ddwy - moesoli hysteraidd - rhywbeth sydd pob amser yn cymylu disgwrs wleidyddol, a beirniadu hynod ddethol heb gyfeirio at gyd destun ehangach.  Mae'r ddwy dechneg yn nodweddu'r Blaid Lafur.

Thursday, January 22, 2015

Goblygiadau'r dadleuon teledu i etholiad 2016



Un o brif broblemau'r Blaid ar pob lefel ydi diffyg sylw cyfryngol.  'Dydi hyn ddim pob amser yn fai ar y cyfryngau fel y cyfryw - y brif broblem ydi bod mwyafrif llethol etholwyr Cymru yn cael eu newyddion gan y cyfryngau Seisnig.  'Dydi hyn ddim yn wir yng Ngogledd Iwerddon - a 'dydi o ddim yn wir yn yr Alban chwaith.

Canlyniad hyn ydi bod gan yr etholwyr yn aml well adnabyddiaeth o'r pleidiau unoliaethol na sydd ganddynt o'r Blaid - ac mae hyn yn wir ar pob lefel - hyd yn oed mewn etholiadau Cynulliad.  Mae'r dadleuon teledu yn gyfle i droi hynny ar ei ben.  Bydd llawer mwy o Gymry yn edrych arnynt na sy'n edrych ar raglenni materion cyfoes Cymreig - a byddant yn gweld Leanne Wood yn cyflwyno achos y Blaid.  Fyddan nhw ddim yn gweld Carwyn Jones.

Bydd goblygiadau i hyn ym mis Mai 2015 - ond bydd goblygiadau hefyd yn etholiadau'r Cynulliad 2016.  Mae'n ddigon posibl y bydd proffeil arweinydd y Blaid yn uwch na phroffeil yr un arweinydd Cymreig arall - bydd mwy o bobl yn gyfarwydd a Leanne Wood na fydd yn gyfarwydd a Carwyn Jones.  Mae hyn yn cynnig cyfle unigryw i'r Blaid - y mwyaf o argraff y bydd yn ei wneud yn y dadleuon, y mwyaf o sylw y caiff gan y cyfryngau prif lif - ac felly yr uchaf ei phroffeil.  'Dydi hyn erioed wedi digwydd o'r blaen.  Mae'n gyfle gwych i osod sylfaen gadarn ar gyfer etholiadau'r Cynulliad 2016.  

Dim pwysau felly Leanne!

Plaid Cymru, yr SNP a'r Gwyrddion i gael cymryd rhan yn y dadleuon teledu?

Bydd yn ddiddorol gweld ymateb y Blaid Lafur os ydi'r adroddiadau y bydd y Blaid Werdd, Plaid Cymru a'r SNP yn cymryd rhan yn nwy o'r tair dadl deledu.  

Un o'r rhesymau pam nad oedd Cameron eisiau cymryd rhan yn y dadleuon o dan y trefniadau gwreiddiol oedd oherwydd nad oedd yn awyddus i gael UKIP yn ymosod arno o'r Dde, tra nad oedd neb i ymosod ar y Blaid Lafur o'r Chwith.  Byddai'r trefniadau newydd yn sicrhau y byddai tri llais yn beirniadu Llafur o'r Chwith.

Yn ychwanegol at hynny - ac yn bwysicach - bydd y dair arweinyddes yn cael cyfle i bortreadu gweledigaeth wahanol o wleidyddiaeth - un sydd yn herio consensws gwleidyddol / cyfryngol y Deyrnas Unedig.  'Dydi'r consensws hwnnw prin byth yn cael ei herio'n gyhoeddus.

Byddai gweledigaeth felly yn un sy'n gwrthod y mantra bod rhaid dawnsio i don sefydliadau ariannol, bod rhaid torri ar wariant cyhoeddus, bod rhaid cynnal yr anghyfartaledd mewn cymdeithas, bod rhaid wrth bolisi tramor ymysodol, bod rhaid gwario cannoedd o filiynau o bunnoedd ar arfau a WMDs.  Byddai'n dangos bod dewis, a byddai hefyd yn dangos yn greulon o glir pam mor debyg ydi Llafur i'r Toriaid mewn gwirionedd.

Os ydi'r adroddiadau yn wir mae gan Miliband cryn broblem i fynd i'r afael a hi.  


Wednesday, January 21, 2015

Llafur watch - rhif 4

Mae'r dechneg o awgrymu bod rhyw sgandal amhenodol ar fin syrthio ar ben gwrthwynebwyr gwleidyddol, ond heb roi unrhyw fanylion nag enwi unrhyw un yn hen ddull o gamarwain.  Yn wir mae yna dipyn o draddodiad o wneud y math yma o beth yng Ngwynedd.  Mae hi'n hen stori, a bydd yn dilyn yr un patrwm pob tro.

Yn ddi eithriad pan fydd awgrymiadau fel hyn yn cael eu gwyntyllu ni fydd y sgandal sydd wedi ei rhagweld byth yn ymddangos - ond ni fydd hynny'n stopio i awgrymiadau tebyg gael eu gwneud eto mewn wythnos neu ddwy - a fydd yna ddim sgandal yn ymddangos bryd hynny chwaith - ac yna bydd y cylch yn cychwyn eto mewn wythnos neu ddwy.  Ac mi fydd yr un peth yn digwydd - ac ati, ac ati, ac ati.


Polau piniwn heddiw

Rhwng pol piniwn STV sy'n awgrymu y bydd Llafur yn colli bron i pob sedd yn yr Alban, a phol dyddiol YouGov sy'n awgrymu bod cefnogaeth Llafur tros y DU yn wanach nag yw wedi bod ers cyn etholiad cyffredinol 2010 mae heddiw wedi bod yn ddiwrnod trychinebus i Lafur.

Serch hynny petai canfyddiadau heddiw yn cael eu hailadrodd fis Mai byddai'n newyddion da i Gymru, yr Alban ac i'r sawl sy'n byw y tu hwnt i Gymru sydd eisiau  tegwch cymdeithasol, ariannu teg i Gymru a'r Alban, datganoli grym yn y DU a defnydd call o'r £100bn mae Llafur a'r Toriaid eisiau ei wario ar WMDs.  Byddai Llafur yn debygol o ffurfio llywodraeth gyda chefnogaeth amodol yr SNP, Plaid Cymru ac o bosibl y Gwyrddion.

A dweud y gwir byddai etholiad a fyddai'n adlewyrchu canlyniad heddiw yn ddigon agos at fod yn berffaith o'r safbwynt hwnnw.



  

Ychwanegiad bach i flogiad ddoe

Diolch i Alun Williams am y dadansoddiad yma o'r gymhareb rhwng y cyflogau isaf ac uchaf ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru.  Fel rydych yn gweld mae'r gymhareb yn tueddu i fod yn isel mewn awdurdodau lle mae Plaid Cymru efo dylanwad ac yn uchel lle mae Llafur efo dylanwad.  Penfro sydd a'r gymhareb waethaf - ond mae'r cyngor hwnnw yn basket case llwyr chwedl y Sais.

I roi hyn ar ei symlaf, mae yna batrwm o wahaniaeth mawr rhwng cyflogau ar y pen a'r gwaelod yn y cynghorau hynny lle mae dylanwad Llafur yn gryf, tra bod y gwahaniaeth yn llai o lawer lle mae gan Blaid Cymru ddylanwad cryf.

Tuesday, January 20, 2015

Llafur watch - Rhan 3

Cam arwain trwy adrodd ffeithiau cywir ond peidio rhoi cyd destun iddynt sydd gennym o dan sylw heddiw.  Alun Pugh wrth gwrs sydd yn gyfrifol am y camarwain efo'r trydariad isod.  Mae'n tynnu sylw at y ffaith nad ydi Cyngor Gwynedd yn talu cyflog byw i bawb, a'r ffaith bod rhai o'r staff yn cael eu cyflogi ar delerau sero awr.  Byddwn yn edrych ar y camarwain sero awr mewn blogiad diweddarach, Edrychwn ar y camarwain cyflog byw yn y blogiad hwn.



I'r sawl sy'n anghyfarwydd a chyflog byw, cyflog o fwy na £7.85 yr awr yw.  Er nad yw'n gyflog uchel, mae'n uwch na'r lleiafswm swyddogol.  Dydi'r rhan fwyaf o gyflogwyr ddim yn cytuno i dalu'r cyflog byw - ond mae yna leiafrif bach yn gwneud hynny.  Bydd y craff ei lygaid yn eich plith yn sylwi nad ydi'r Blaid Lafur Gymreig yn eu plith.




Dydi Cyngor Gwynedd ddim ymhlith y cyflogwyr sy'n cynnig cyflog byw chwaith.  Un cyngor sydd ar y rhestr - Cyngor Caerffili.  Dydw i ddim yn hollol siwr pam nad ydi Cyngor Caerdydd ar y rhestr.  Aeth y cyngor hwnnw ati i ddatgan yn groch eu bod yn gyflogwr cyflog byw.  Efallai mai'r rheswm ydi bod cymaint o swyddi 'r cyngor hwnnw wedi eu contractio allan i'r sector breifat sydd ddim yn talu cyflog byw. Cyngor Llafur ydi Cyngor Caerdydd wrth gwrs.  Mae yna dri chyngor (hyd y gwn i) arall sy'n cynnig mwy na'r isafswm cyflog, a sy'n gweithio tuag at gyrraedd y cyflog byw - Mynwy, Abertawe a Gwynedd.  Gwynedd sydd efo 'r lleiaf o adnoddau ar gael iddi o ddigon.  

Mae yna 11 cyngor sy'n cael eu rhedeg gan Lafur yng Nghymru.  Mae yna dri ohonynt sy'n ymdrechu i gynnig cyflog byw - gydag un wedi cyrraedd y nod.  Mae Mr Pugh yn dewis beirniadu cyngor sydd yn ymgyraedd tuag at gyflog byw, tra'n peidio a chydnabod nad ydi'r rhan fwyaf o gynghorau Llafur hyd yn oed yn gwneud ymgyrch, ac nad ydi'r Blaid Lafur Cymreig yn cael ei gydnabod fel cyflogwr felly chwaith. Dydi o ddim yn son chwaith mai lleiafrif bach iawn o gyflogwyr sy'n cynnig cyflog byw.  Wna i ddim dweud bod y darn yma o anonestrwydd di gywilydd yn peri syndod i mi.  






Monday, January 19, 2015

Labour Watch - Rhan 2

Mwy o ddirmyg tuag at yr etholwyr gan y Blaid Lafur yn Arfon heddiw.  Yr honiad y tro yma yn y Daily Post ydi bod pleidlais yn erbyn Llafur am arwain at lywodraeth Doriaidd / Lib Dem.

Mi roddwn o'r neilltu am funud y ffaith nad ydi'r Blaid am gyd weithredu efo'r Toriaid a bod yr holl bolau yn awgrymu na fydd Llafur na'r Toriaid yn ennill grym ar eu pennau eu hunain y tro hwn.  Dwi wedi gofyn i Mr Pugh sawl gwaith os ydi'n  gallu cyfeirio at unrhyw esiampl mewn hanes etholiadol o'r Toriaid yn  cael eu hethol i San Steffan oherwydd i bobl bleidleisio tros Blaid Cymru, a dydi o heb  ateb.  Y rheswm am hynny ydi nad oes yna achlysur felly erioed wedi bod - ac mae'n ymylu at fod yn ystadegol amhosibl i hynny ddigwydd.  Mae Mr Pugh yn seilio ei ymgyrch ryfeddol o negyddol a sinigaidd ar strategaeth o geisio dychryn pobl i bleidleisio efo bygythiad o rhywbeth sy'n amhosibl o ddigwydd.  

Ond meddyliwch mewn difri am y 'rhesymeg'  idiotaidd  nad oes pwynt pleidleisio yn yr un ffordd y tro hwn na'r tro o 'r blaen a disgwyl canlyniad gwahanol.  Ydi'r dyn o ddifri yn dweud wrth y 36.2% o'r etholwyr a bleidleisiodd tros Lafur yn 2010 bod yna glymblaid Toriaidd / Lib Dem am gael ei hethol eto oni bai eu bod nhw yn newid y ffordd maent yn pleidleisio?  





Llafur Watch - Rhan 1

Yn fy mhrofiad i o leiaf y blaid sy'n fwyaf tebygol o geisio  camarwain etholwyr mewn ymgais i ennill eu pleidleisiau ydi'r Blaid Lafur Gymreig -  ond wedi dweud hynny dydw i ddim yn dod ar draws Lib Dems yn aml iawn.  

Gall y camarwain yma gymryd sawl ffurf - weithiau dywedir gelwydd noeth, dro arall bydd yr hogiau yn mynd ati i wyrdroi'r gwirionedd neu i'w gam ddehongli yn fwriadol, weithiau awgrymir mewn modd cyffredinol iawn rhyw anfadwaith ar ran gwrthwynebwyr gwleidyddol, weithiau bydd rhywbeth yn cael ei gymryd allan o'i gyd destun er mwyn ei wneud yn rhywbeth nad ydyw.  Weithiau defnyddir techneg arall.

Mae'n anodd dweud pam bod y Blaid Lafur Gymreig gyda chymaint o dueddiad i fod eisiau cam arwain etholwyr.  Mae'n bosibl mai canlyniad i hegemoni gwleidyddol hanesyddol y blaid honno yn y wlad ydyw.  Dydyn nhw erioed wedi gorfod gweithio llawer i ennill seddi - efallai eu bod wedi datblygu arfer o daflu celwydd neu ddau i gyfeiriad yr etholwyr, a gadael pethau ar hynny.  Mae ymddygiad o'r fath wrth gwrs yn dangos diffyg parch sylfaenol at yr etholwyr - ond, a bod yn deg efo'r Blaid Lafur Gymreig, efallai bod yr etholwyr i'w beio i raddau am hynny.   Mae ffyddlondeb di gwestiwn tros gyfnod maith o amser i un blaid hynod aneffeithiol yn gwahodd dirmyg gan y blaid honno.

Beth bynnag, bwriadaf edrych o bryd i'w gilydd ar esiamplau o gamarwain Llafuraidd.  Er nad ydi Llafur wedi dominyddu yn hanesyddol yn y Gogledd Orllewin - mae'r diwylliant o amharchu'r etholwyr trwy geisio eu cam arwain yn gryf.  Cymerer helynt diweddar cais cynllunio Dolbebin a sylwadau anffodus braidd y Cynghorydd Eurig Wyn ynglyn a'r mater.  Wna i ddim trafferthu mynd ar ol y manylion - ceir adroddiad digon gwrthrychol yma gan y Daily Post, ac un arall gan y Cynghorydd Dyfrig Jones yma.

Ymddengys i Eurig wneud defnydd o'r term 'llond galeri o fewnfudwyr' mewn ebost i un o wrthwynebwyr y cynllun (a chyd Bleidiwr).  Y galeri wrth gwrs ydi'r galeri i'r cyhoedd yn siambr y Cyngor Sir.   Sylwer sut mae ymgeisydd Llafur Arfon, Alun Pugh yn cyfeirio at y sylw:


Rhywsut, rhywfodd mae wedi gwyrdroi'r sylwadau i honiad bod Eurig Wyn wedi galw Dyffryn Nantlle yn ei gyfanrwydd yn galeri o fewnfudwyr.

Mae ei gyd Lafurwr, y Cyng Sion Jones yn mynd hyd yn oed ymhellach yn ei ymgais i gam arwain etholwyr - mae wedi llwyddo i ddehongli'r sylwadau fel prawf bod Eurig yn disgrifio holl drigolion Gwynedd fel mewnfudwyr:


Byddwn yn dod yn ol at antics chwerthinllyd ein cyfeillion Llafur tros yr wythnosau nesaf.  Os oes rhywun efo esiamplau maent eisiau rhoi cyhoeddusrwydd iddynt, mae fy nghyfeiriad ebost ar ochr y blog.
















Saturday, January 17, 2015

Llafur yn talu am 'ddawnsio efo'r diafol'

Os ydych wedi gwneud eich ffordd trwy'r blogiad diwethaf mi fyddwch yn cofio mai fy nadl oedd bod prif bleidiau San Steffan bellach wedi eu cywasgu i dir gwleidyddol cul iawn, a bod y ddwy brif blaid - Llafur a'r Toriaid yn hynod o agos at ei gilydd yn wleidyddol.

Un o sgil effeithiadau hyn ydi ei bod yn anodd i'r Blaid Lafur a'r Toriaid roi rheswm da i bobl bleidleisio iddynt ar sail polisi.  Yr ateb i 'r broblem yna ydi creu mytholeg sydd wedi ei seilio ar ddrygioni honedig y blaid arall.  Dyma ydi prif ddadl etholiadol Llafur - 'Mae'r Toriaid yn bobl ddrwg, ddrwg ac oni bai eich bod yn fotio i ni, yna byddant yn ennill ac yn mynd ati i fwyta babis a lluchio'r henoed o ben clogwyni'.  Dydi hi fawr o ddadl, ond mae'n un sydd wedi gweithio yn y gorffennol, a bydd yn cael ei defnyddio eto.

Mae yna bris i'w dalu am greu mytholeg fel hyn, ac mae Llafur yn debygol o dalu'r pris hwnnw yn yr Alban ym mis Mai.  Bu Llafur wrthi am flynyddoedd yn creu delwedd o'r Toriaid sy'n eu portreadu fel ymgorfforiad gwleidyddol o ddrygioni ar y Ddaear.  'Dwi'n meddwl bod y blog yma wedi disgrifio'r math yma o wleidydda fel 'Gwleidyddiaeth yr Anterliwt' yn y gorffennol - gwleidyddiaeth sydd wedi ei seilio ar foesoli syml a brwydr barhaus rhwng drygioni a daioni.  

O fod wedi creu cyd destun gwleidyddol 'anterliwtaidd' mae'n weddol amlwg bod ymgyrchu ochr yn ochr a'r Toriaid (ac UKIP) am fisoedd am bardduo Llafur yng ngolwg eu cefnogwyr selocaf.  Mewn ffordd mae Llafur wedi pardduo hi ei hun trwy ddawnsio yn gyhoeddus efo diafol o'i gwneuthuriad ei hun..  Dyna pam eu bod yn debygol o golli pleidleisiau yn eu degau o filoedd ar hyd ardaloedd diwydiannol ac ol ddiwydiannol yr Alban ym mis Mai.  

Thursday, January 15, 2015

Y broblem efo consensws gwleidyddol

Mae'r ffrae ynglyn a'r dadleuon gwleidyddol ar y cyfryngau yn codi materion digon diddorol.  I'r graddau ei bod yn bosibl dilyn rhesymeg y penderfyniad i gyfyngu'r ddadl i un rhwng UKIP, Llafur, y Dib Lems a'r Toriaid, mae'n ymddangos nad ydi Plaid Cymru na'r SNP yn cael cymryd rhan oherwydd nad ydynt yn bleidiau 'cenedlaethol' ac nad ydi'r Gwyrddion oherwydd nad ydynt mor boblogaidd a'r lleill - ym marn OFCOM.  

A gadael o'r neilltu idiotrwydd y rhesymu yma am funud, mae'r penderfyniad yn gwneud anghymwynas a'r etholwyr - ac mae hynny'n cynnwys etholwyr Seisnig.  Fel mae pethau 'n sefyll bydd y cyfryngau yn sicrhau bod y ddadl etholiadol yn cael ei chynnal ar dir cul iawn rhwng pedwar miliwnydd o Dde Ddwyrain Lloegr sydd yn cytuno efo'i gilydd ar bron i bob dim - a sydd a buddiannau ariannol personol digon tebyg.

Mae'r bedair brif blaid Brydeinig yn credu mai'r ateb i broblemau'r DU ydi mwy o lymder, mwy o doriadau mewn gwariant cyhoeddus a llai o ymyraeth gan y wladwriaeth i fynd i'r afael a thlodi ac anghyfartaledd.  Mae hyn yn ymylu ar fod yn gonsensws gwleidyddol a chyfryngol yn Lloegr.

Mae yna berspectif arall - bod y toriadau wedi gwneud y wladwriaeth yn llai abl, ac nid yn fwy abl i ddelio efo'r ddyled genedlaethol strwythurol, ac nad ydi'r ddyled honno mor uchel a hynny o gymharu a safonau hanesyddol a rhyngwladol beth bynnag.  Caiff y dehongliadau amgen eu gwyntyllu ar rhyw ffurf neu'i gilydd mewn llawer o wledydd Ewrop - nid yw'n cael unrhyw le yn y ddisgwrs 'genedlaethol' yn y DU.  Mae hynny oherwydd bod y bedair brif blaid unoliaethol yn agos iawn at ei gilydd o ran polisiau economaidd / cyllidol.

Mae'n ddigon naturiol felly i aelodau seneddol UKIP, Llafur, Toriaidd a Lib Dems drampio trwy lobi'r Ty Cyffredin i bleidleisio tros doriadau enbyd mewn gwariant cyhoeddus fel y gwnaethant ddoe - toriadau sydd am chwalu gwasanaethau cyhoeddus a rhoi degau o filoedd o bobl allan o waith. 

Mae'n ddigon naturiol felly bod y bedair brif blaid unoliaethol yn credu y dylid cyfyngu ar fudd daliadau - er bod anghytundeb ynglyn a'r graddau y dylid gwneud hynny.

Mae yna ychydig mwy o amrywiaeth o ran y prif bleidiau ynglyn a pholisiau tramor.  Mae UKIP, Llafur a'r Toriaid yn tueddu i fod yn frwdfrydig iawn tros ymagweddu'n ymysodol mewn materion tramor a mynd i ryfel ar yr esgus lleiaf.  Mae'r Dib Lems yn fwy amheus am y math yma o beth fel rheol.  Mae'r bedair blaid yn hoff o'r syniad o adnewyddu system WMD Trident, er bod y Dib Lems eisiau tair yn hytrach na phedair llong danfor.  'Dydi'r rhan fwyaf o wledydd ddim yn cymryd yn ganiataol bod ganddynt yr hawl i ymyryd yn filwrol ar hyd a lled y Byd - a dydyn nhw ddim yn ceisio gwneud hynny.  Does gan y rhan fwyaf o wledydd ddim uchelgais i gael gwell WMDs na phawb arall chwaith.

Mae polisi UKIP yn wahanol o ran Ewrop, ond ar wahan i'r cwestiwn o refferendwm mae agwedd y tair blaid unoliaethol arall yn debyg - gorfodi llymder ar draws y cyfandir, osgoi mwy o intigreiddio a pheidio a chyffwrdd yr Ewro efo polyn.  Mae'r Toriaid wedi closio at UKIP ynglyn a'r cwestiwn o refferendwm.

Mae'r Llafur a'r Toriaid wedi closio at agweddau gwrth fewnfudo UKIP i'r graddau bod y ddwy blaid yn gadael eu hunain yn agored i gyhuddiad o senoffobia.  Mae'r Dib Lems wedi addasu eu safbwynt rhyddfrydig rhyw gymaint yn wyneb twf UKIP hefyd.

Y gwir amdani ydi bod consensws gwleidyddol efo hanes sobor o sal o fod yn gywir.  Arweiniodd consensws ynglyn a pholisi economaidd at lanast economaidd 70au'r ganrif ddiwethaf - chwyddiant anferth a swyddi'n cael eu difa yn y cannoedd o filoedd.  Consensws ynglyn a pheidio a rheolaethu 'r banciau , lefelau derbyniol o ddyled, lefelau priodol o wariant cyhoeddus arweiniodd at y llanast rydym ynddo ar hyn o bryd.  Roedd y Toriaid yn derbyn cynlluniau gwariant Llafur yn 2008 - yn union fel mae Llafur yn derbyn cynlluniau'r Toriaid heddiw.  Consensws rhwng y ddwy brif blaid unoliaethol arweiniodd at ryfel trychinebus Irac a'r anhrefn a thywallt gwaed sydd wedi ymestyn tros y Dwyrain Canol yn ers hynny.

Y drwg efo consensws ydi nad yw yn cael ei herio, ac nid oes unrhyw elfen ohono'n cael ei herio yn amlach na pheidio.  O ganlyniad mae pob math o rybish yn cael ei dderbyn fel Efengyl gan y cyfryngau a'r sefydliad gwleidyddol.  Pan mae pob dim yn mynd i'r diawl mae pawb yn rhyfeddu.  Ac yna mae'r un peth yn digwydd eto.

Dydi'r cyfryngau prin byth yn herio'r consensws rhwng y prif bleidiau.  Maen nhw wrth eu boddau efo consensws.  Mae hyn yn arbennig o wir am y BBC - corff sydd yn gweld ei hun fel darlledwr gwladol sydd a dyletswydd i gefnogi safbwyntiau'r consensws Prydeinig.  Gwelwyd hyn ar ei fwyaf amrwd yn ystod refferendwm yr Alban y llynedd.  

Byddai caniatau i'r pleidiau cenedlaetholgar Celtaidd a'r Blaid Werdd gymryd rhan yn y dadleuon yn ehangu ac yn ymestyn y ddisgwrs wleidyddol - a byddai hynny yn llesol i bleidleiswyr yn Lloegr yn ogystal a Chymru a'r Alban.  Ond dyna'r peth diwethaf mae'r sefydliadau gwleidyddol a chyfryngol eisiau ei weld.  

Wednesday, January 14, 2015

Pol diweddaraf Ashcroft

Bydd rhai ohonoch yn gwybod i Michael Ashcroft gyhoeddi un o'i bolau piniwn enfawr heddiw.  Er mai pol ar y Gwasanaeth Iechyd yw mewn gwirionedd, ceir gwybodaeth am fwriadau pleidleisio.  Oherwydd bod y pol mor enfawr mae'r is setiau 'rhanbarthol' yn fwy arwyddocaol nag arfer oherwydd eu bod hwythau yn fawr.

Dwi'n cyhoeddi'r ffigyrau isod ar gyfer Cymru a'r Alban sydd wedi eu cymryd o @UKElection2015 .
Mae yna ddau bwynt i'w cymryd o hyn - yn gyntaf mae'r gefnogaeth rhyfeddol i'r SNP yn parhau - hyd yn oed os ydi'r blogiwr o Dori, Iain Dale yn ein sicrhau nad ydi polau'r Alban yn gywir - mae'n honni bod ei farn ei hun yn gywirach.

Yn ail - os ydi cefnogaeth y Dib Lems yn wir yn 3% yng Nghymru, fyddan nhw ddim yn cael sedd a fyddan nhw ddim yn dod yn agos at gael sedd chwaith.







Tuesday, January 13, 2015

A dyma pwy bleidleisiodd tros y toriadau

Y wers i'w chymryd o bleidlais heddiw yn San Steffan

Yn anffodus dim ond 18 o Aelodau Seneddol bleidleisiodd yn erbyn toriadau gwariant cyhoeddus a chynnydd mewn treth ychwanegol y llywodraeth o £75bn, gyda thri yn unig o'r rheiny yn dod o Gymru. Mae hyn yn gyfystyr a thua £3.5bn yng Nghymru.


 Gyda Chymru yn fwy dibynnol na'r un rhan arall o'r DU ar wariant cyhoeddus byddai rhywun wedi disgwyl ychydig o gicio yn erbyn y tresi gan ASau Cymreig - ond aelodau seneddol Plaid Cymru yn unig bleidleisiodd yn erbyn - dim un Tori, dim un Dib Lem a dim un Llafurwr. Mi fydd y toriadau hyn yn cael effaith sylweddol a negyddol ar fywydau pobl ar hyd a lled y wlad - yn arbennig felly y bobl dlotaf a'r lleiaf abl i edrych ar ol eu hunain.

 Mae yna wers amlwg i'w chymryd ym Mis Mai. Un blaid yn unig sydd am roi Cymru'n gyntaf a gorchmynion y chwipiaid Llundeinig yn ail, a Phlaid Cymru ydi honno.  Y peth gorau allai ddigwydd i Gymru yn etholiad Mis Mai ydi bod gan Blaid Cymru ddylanwad ar y llywodraeth. Un ffordd sydd o sicrhau hynny - trwy bleidleisio i Blaid Cymru.

Rhestraf y sawl bleidleisiodd Na isod.

Abbott, Ms Diane
Clark, Katy
Durkan,Mark
Edwards, Jonathan
Godsiff, Mr Roger
Hosie Stewart
Llwyd,  Mr Elfyn
Long, Naomi
Lucas, Caroline
MacNeil, Mr Angus Brendan
McDonnell, Dr Alasdair
Mitchell, Austin Ritchie,
Ms Margaret Robertson,
Angus Shannon,
Jim Skinner, Mr Dennis
Weir, Mr Mike
Whiteford, Dr Eilidh
Pete Wishart
Hywel Williams

Alun Pugh a'r defnydd cyhoeddus o'r Gymraeg

Mae'n ddiddorol i Alun Pugh - darpar ymgeisydd Llafur yn Arfon - areithio yn erbyn datblygiad diwydiannol ym Mro Pebin, Penygroes bron yn gyfangwbl trwy gyfrwng y Saesneg.  Mae 'n anodd meddwl am gynulleidfa mwy Cymreig na  thrigolion Bro Silyn mewn cyfarfod o Bwyllgor Cynllunio Cyngor Gwynedd.  Ond Saesneg oedd yr iaith a ddefnyddwyd bron yn gyfangwbl.  Os nad yw Mr Pugh yn defnyddio'r Gymraeg yn gyhoeddus  mewn amgylchiadau fel hyn, mae'n anodd dychmygu ym mhle yn union mae'n fodlon gwneud hynny.

Rwan mae dyn yn deall mai dysgwr ydi Mr Pugh, ac nad yw mor gyfforddus yn y Gymraeg nag yw yn y Saesneg.  Ond  petai yn cael ei ethol i gynrychioli etholaeth Gymreiciaf Cymru o ran iaith - mae mwyafrif llethol y wardiau 80%+ yn siarad y Gymraeg oddi mewn ei ffiniau - yna byddai'r ardal yn cael ei chynrychioli am y tro cyntaf erioed gan berson sydd yn anfodlon defnyddio'r Gymraeg yn gyhoeddus.

Does gen i affliw o ddim yn erbyn pobl sy'n dysgu'r Gymraeg - dwi'n ddiolchgar iddynt am gymryd y drafferth.  Ond y Gymraeg ydi iaith gymunedol a chyhoeddus y rhan fwyaf o gymunedau Arfon.  Petai Mr Pugh yn cael ei ethol - nid fy mod yn meddwl y bydd hynny'n digwydd - byddai perygl i pob digwyddiad cymunedol a fynychid ganddo gael ei Seisnigeiddio.  Mae perygl y byddai  ethol Mr Pugh yn arwain at chwystrelliad o Seisnigrwydd i lif gwaed y cymunedau Cymreiciaf yng Nghymru. 

Sunday, January 11, 2015

Guto Bebb a'r 'rheol' 40%

Mae'n ddiddorol i Mr Bebb - AS Aberconwy - ymddangos ar y Newyddion heno i amddiffyn cynlluniau'r Toriaid i beidio a gadael i weithwyr sector gyhoeddus streicio oni bai bod 40% o'r sawl sydd a hawl i bleidleisio yn pleidleisio tros streic.  

Dyma'r union amod y mynnodd Kinnock, Abse ac ati y dylid ei roi ar bleidlais o blaid datganoli yn ol yn 79 mewn ymdrech i danseilio'r broses ddemocrataidd.

Llai na 28% o'r sawl oedd a hawl i bleidleisio yn Aberconwy yn 2010 a bleidleisiodd tros Mr Bebb gyda llaw.


Saturday, January 10, 2015

Defnydd gwych o arian cyhoeddus yn nhre'r sosban

Llongyfarchiadau i aelod seneddol Llanelli, Nia Griffith ar ddefnydd hynod effeithiol o arian cyhoeddus mewn oes lle mae arian cyhoeddus yn brin iawn.  Ymddengys ei bod yn defnyddio'r Post Brenhinol i bwrpas gwahodd ei hetholwyr i noson goffi. 

Duw a wyr beth ydi'r gymhareb llythyrau sy'n cael eu hanfon i'r nifer o bobl sydd yn mynd i'r noson goffi - ond mae yna rhywbeth yn dweud wrthyf bod y cyhoedd yn talu'n ddrud iawn am pob unigolyn sy'n mynd i dreulio ei nos Wener yn slyrpian coffi yng nghwmni Nia.  Joban Deddf Rhyddid Gwybodaeth i rhywun sydd a diddordeb yn y math yna o beth o bosibl.

Beth bynnag - awgrym bach i Nia - mi fyddai mynd o gwmpas strydoedd Llanelli yn gwthio'r llythyrau trwy dyllau llythyrau yn arbed cryn dipyn o bres i'r cyhoedd, a byddai'r cerdded yn llesol i iechyd Nia a'i chyd Lafurwyr yn nhre'r sosban.


Aberconwy, Arfon ac Ynys Mon

Diolch i Ioan am gyfieithu dadansoddiad politicalbetting.com o'r ffordd mae pleidleisiau yn cael eu trosglwyddo rhwng y gwahanol bleidiau i 'ganlyniadau' ar gyfer Aberconwy, Arfon ac Ynys Mon.  Gellir gweld y dadansoddiad yma.


Mi fyddwn i'n hoffi ychwanegu un sylw bach - mae yna gryn dipyn o dystiolaeth bod y patrwm yng Nghymru yn wahanol i'r patrwm yng ngweddill Prydain i'r graddau bod UKIP yn gwneud mwy o niwed i Lafur nag i neb arall.  Petai'r patrwm hwnnw yn cael ei adlewyrchu fis Mai yna byddai Plaid Cymru yn cadw Arfon yn hawdd ac yn cipio Ynys Mon.  

Mae yna sibrydion bod yr aelod senedd Ewrop, Nathan Gill am sefyll tros UKIP yn Ynys Mon.  Os ydi hynny'n wir mae'n ychwanegu at y pwysau ar Lafur - daeth UKIP yn ail yn Ynys Mon yn etholiad Ewrop tra bod Llafur yn drydydd gwael.  Alla i ddim dychmygu bod llong y Blaid Lafur ar yr ynys yn un hapus iawn ar hyn o bryd. 

Aberconwy

Llafur: 7929 (1.97%)
Toriaid: 9054 (-5.61%)
UKIP: 5155 (15.09%)
Plaid Cymru: 5199 (-0.48%)
Lib Dems: 1358 (-14.78%)
Gwyrddion: 1131 (3.77%)

Arfon

Llafur: 7532 (-0.82%)
Toriaid: 3939 (-1.83%)
UKIP: 3660 (11.4%)
Plaid Cymru: 9133 (-0.96%)
Lib Dems: 860 (-10.77%)
Gwyrddion: 951 (3.64%)

Ynys Mon

9752 Llaf
7520 Toriaid
6624 UKIP
8789 Plaid Cymru
608 Dib Lems
971 Gwyrddion
0 Roger Rodgers
163 Christian

1) Swing Lib dems - 2.5% i Ceid, UKIP a Gwyrdd, 8.8% i llafyr (1)
2) Swing Llafur - 1.8% i Gwyrdd, 7.2% i UKIP
3) Pleidlais Rodgers wedi ei ranu rhwng UKIP a Ceid.
4) Swing PC - 0.1% i Gwyrdd, Ceid a Llafur
5) Swing Ceid i UKIP
6) Dwi'n cymeryd y bydd y Gwyrddion yn sefyll..??

Thursday, January 08, 2015

Cameron, yr SNP a'r Blaid Werdd

Felly dydi Cameron ddim am gymryd rhan yn y dadleuon cyhoeddus am nad ydi'r Blaid Werdd yn cael cymryd rhan - ond dim gair am yr SNP.  Cymharwch sefyllfa gyfredol y Blaid Werdd, UKIP a'r SNP.

Mae gan y Blaid Werdd 27,600 o aelodau, un AS ac mae'r marchnadoedd betio yn awgrymu mai un aelod fydd ganddi ar ol mis Mai.
Mae gan UKIP 40,000 o aelodau, dau AS, ac mae'r marchnadoedd betio yn awgrymu mai 9 sedd fydd ganddi ar ol mis Mai.
Mae gan yr SNP 95,000 o aelodau, 6 AS ac mae'r marchnadoedd betio yn awgrymu y bydd ganddi 30 sedd ar ol mis Mai.

Ydi Gwilym Owen eisiau awgrym am adduned flwyddyn newydd?

'Dwi'n sylwi o ddarllen colofn gyntaf Gwilym Owen yn 2015 ei fod am barhau gydag arfer yr holl flynyddoedd eraill mae wedi cynhyrchu'r golofn trwy sbydu ribidires o gwestiynau i pob cyfeiriad.

Ag ystyried nad oes fawr neb erioed wedi trafferthu i ateb y miloedd o gwestiynau mae wedi eu gofyn oni fyddai'n well iddo fentro mynegi barn ei hun yn hytrach na gofyn am sylwadau pobl eraill?  

Dim ond gofyn.

Tuesday, January 06, 2015

Vote Labour get Tory?

Mae 'n ddiddorol bod y wasg prif lif wedi dechrau trafod y syniad o glymblaid rhwng y Blaid Lafur a'r Toriaid yn dilyn etholiad cyffredinol 2015.  Mae'n ddiddorol hefyd nad ydi'r naill blaid na'r llall wedi datgan nad oes posibilrwydd i glymblaid o'r fath.



A dweud y gwir o gymryd cam yn ol ac edrych ar bethau yn wrthrychol mae 'r syniad yn gwneud synnwyr i'r ddwy blaid.  Maent yn honni eu bod yn casau ei gilydd, ond maent mewn gwirionedd yn ddwy blaid geidwadol (c fach) sy'n debyg iawn i'w gilydd.


Byddai arweinyddiaeth y ddwy blaid yn gyfforddus efo'i gilydd oherwydd eu cefndir - addysgwyd Cameron, Miliband, Balls ac Osborne yn Rhydychen.

Mae trwch aelodaeth y ddwy blaid yn byw yn Ne Ddwyrain Lloegr.

Mae'r ddwy blaid yn eilyn addoli'r diweddar Margaret Thatcher.



Mae'r ddwy blaid yn credu mewn torri ar wariant cyhoeddus, ac felly mewn torri gwasanaethau cyhoeddus.

Mae'r ddwy blaid eisiau torri budd daliadau.

Mae'r ddwy blaid eisiau gwario mynyddoedd o bres yn adnewyddu Trident.

Mae'r ddwy blaid yn hoff o ryfeloedd tramor.

Mae gan y ddwy blaid hanes diweddar o gyd ymgyrchu yn erbyn annibyniaeth i'r Alban.

Mae ffocws y ddwy blaid fel ei gilydd ar ddatblygu economi De Ddwyrain Lloegr.

Mae'n debyg mai'r cyfuniad yma ydi'r un mwyaf naturiol mewn gwirionedd - mae Llafur a'r Toriaid yn fwy tebyg i'w gilydd nag ydi'r naill na'r llall i unrhyw blaid wleidyddol arall yn y DU.



Saturday, January 03, 2015

Effaith anisgwyl UKIP yng Nghymru y flwyddyn nesaf

Mae'n ddiddorol nodi bod y cyfryngau Prydeinig wedi dechrau sylwi ar y patrwm polio Cymreig o UKIP yn cymryd sleisen o bleidlais Llafur sydd wedi bod yn amlygu ri hun yn ddiweddar - er bod Iain Dale yn dod i'r casgliadau anghywir o'r canfyddiadau.
Gadewch i ni atgoffa ein hunain o ganfyddiadau pol diweddaraf YouGov / ITV / Canolfan Llywodraethiant Cymru o gymharu a chanlyniadau 2010.

Pol YouGov
Llaf: 36%
Toriaid : 23%
UKIP: 18%
Plaid Cymru: 11%
Dib Lems: 5%
Gwyrddion:5%
Etholiad 2010
Llaf: 36.2%
Toriaid : 26.1%
UKIP: 2.4%
Plaid Cymru: 11.3%
Dib Lems: 21.3%
Y nodweddion amlycaf yma ydi nad oes fawr o newid ym mhleidlais y Blaid a Llafur, 3% o gwymp ym mhleidlais y Toriaid, cwymp anferth o 16% ym mhleidlais y Dib Lems, a chynnydd sylweddol o 15.6% ym mhleidlais UKIP.  
Rwan mae'n edrych ar yr olwg gyntaf bod symudiad uniongyrchol oddi wrth y Lib Dems at UKIP - ond mae yna ddigon o dystiolaeth polio bod rhywbeth arall mwy cymhleth yn digwydd - mae Llafur yn colli pleidleisiau i UKIP  tra bod Llafur yn cael eu digolledu trwy ennill pleidleisiau oddi wrth y Lib Dems.  Petai'r symudiad yn un unffurf y canlyniadau o safbwynt etholaethol fyddai Llafur yn ennill Gogledd Caerdydd a Chanol Caerdydd oddi wrth y Toriaid a'r Lib Dems, byddai'r Toriaid yn ennill Brycheiniog a Maesyfed oddi wrth y Lib Dems ac mae'n bosibl y byddai Plaid Cymru yn cipio Ceredigion oddi wrth y Lib Dems - dibynu sut rydych yn cyfri.
Ond y broblem ydi na fydd y symudiad yn unffurf - bydd gwahaniaethau yn y symudiadau mewn gwahanol rannau o'r wlad.  Mae'n anodd darogan y gwahaniaethau yma - ond mae modd bwrw amcan trwy edrych ar ddau newidyn.  Mae'n rhesymol disgwyl y bydd Llafur yn tan berfformio mewn ardaloedd lle roedd y Lib Dems yn wan yn 2010, a lle mae gan UKIP gefnogaeth sylweddol.  Maen nhw am fod yn colli mwy i UKIP ond ddim yn cael eu digolledu llawer gan y Lib Dems mewn ardaloedd felly. Does yna ddim pwrpas edrych yn ol ar 2010 i chwilio am gefnogaeth UKIP - doedd hwnnw ddim wedi dechrau tyfu yn 2010 - ond gallwn edrych ar yr ardaloedd hynny lle wnaeth UKIP yn well na Llafur yn etholiadau Ewrop yn 2014.  
21.3% oedd lefel cefnogaeth y Lib Dems tros Gymru yn 2010.  Dyma'r ardaloedd lle'r oedd eu cefnogaeth yn is na 15%. 
Arfon 14.1%
Aberafon 10.1%
Caerffili 14.7%
Dwyrain Caerfyrddin / Dinefwr 12.1%
Gorllewin Caerfyrddon / De Penfro 12.1%
Cwm Cynon 13.8%
Dwyfor Meirion 12.2% 
Islwyn 10.4%
Llanelli 10.4%
Castell Nedd 14.9%
Preseli Penfro 14.5%
Rhondda 10.6%
Dyffryn Clwyd 12.6%
Ynys Mon 7.5%

Daeth Llafur ar ol UKIP yn y siroedd canlynol yn etholiadau Ewrop y llynedd:
Caerfyrddin
Ynys Mon
Ceredigion
Conwy
Dinbych
Fflint
Gwynedd
Mynwy
Penfro
Bro Morgannwg
Wrecsam
Mae'n rhesymol cymryd y bydd Llafur yn tan berfformio waethaf mewn ardaloedd lle roedd cefnogaeth UKIP yn gryf yn 2014, a lle'r oedd cefnogaeth y Lib Dems yn wan yn 2010.  Yr ardaloedd lle roedd y ddau beth yma yn digwydd  oedd Caerfyrddin, Penfro, Ynys Mon, Dyffryn Clwyd a Gwynedd.  Mae hyn yn awgrymu y gallai Llafur dan berfformio yn Llanelli, Dwyrain Caerfyrddin / Dinefwr, Gorllewin Caerfyrddin / De Penfro, Ynys Mon, Arfon, Preseli Penfro a Meirion Dwyfor.  Mae'n werth hefyd nodi i UKIP ddod o flaen Llafur ym Mro Morgannwg, a bod cefnogaeth y Lib Dems yn isel yno - ond heb cweit gyrraedd y trothwy 15%.
Canlyniad hyn oll ydi bod gan Plaid Cymru le i obeithio na fydd yna ogwydd yn eu herbyn yn Arfon, Meirion Dwyfor na Dwyrain Caerfyrddin / Dinefwr.  Gallant hefyd gymryd y bydd gogwydd o'u plaid yn Llanelli ac Ynys Mon.  Ychydig iawn o bleidleisiau Lib Dem sydd i Lafur yn Llanelli ac Ynys Mon. Gall y Toriaid fod yn obeithiol am ddal Gorllewin Caerfyrddin / De Penfro a Preseli / Penfro ac o bosibl Bro Morgannwg.   Mae lle i feddwl y bydd Llafur yn tan berfformio yn Nyffryn Clwyd hefyd, ond mae 'r gogwydd o 3% yn erbyn y Toriaid yn awgrymu na fyddant yn gallu ei hennill.  Mae'r un peth yn wir am Alyn a Glannau Dyfrdwy a Delyn.
Mae yna ochr arall i'r geiniog yma wrth gwrs - mae Llafur yn debygol o berfformio 'n well na mae ffigyrau noeth y polau yn ei awgrymu mewn ardaloedd lle'r oedd y Lib Dems yn gryfach ac UKIP yn wanach - Caerdydd, Pen y Bont neu Gwyr er enghraifft.
Dydi hyn ddim yn cwmpasu'r holl stori wrth gwrs - mae yna bethau eraill yn digwydd ar hyd a lled y wlad.  Er enghraifft mae'n debyg y bydd pleidlais y Toriaid yn syrthio yn Aberconwy oherwydd yr ogwydd gyffredinol a ffactorau lleol. Gallai yn hawdd fod tua 30% neu lai. Perfformiodd UKIP yn gryf yno y llynedd.  Gallwn gymryd y bydd UKIP yn gwneud yn well na'r 18% mae'r pol Cymru gyfan yn ei roi iddynt - rhywle yn yr ugeiniau.  Gallai Plaid Cymru hefyd fod yn yr ugeiniau, ac roedd Llafur yno'n barod yn 2010.  Bydd pleidlais y Lib Dems yn syrthio trwy'r llawr, ac ar 19.3% mae'n uchel.  Gallai Aberconwy yn hawdd fod yn sedd ymylol bedair ffordd, ac mewn amgylchiadau felly does yna ddim angen llawer iawn o bleidleisiau i ennill.  

Friday, January 02, 2015

Y Tywysog Andrew a Jeffrey Epstein

Er bod y Bib wedi bod yn hynod araf i ddechrau adrodd ar y stori sydd wedi torri ynglyn ag aelod o'r teulu brenhinol heddiw, mae wedi bod yn gelfydd iawn wrth agor yr adroddiad - Palace categorically denies allegations _ _ _ yn hytrach na Prince Andrew faces allecations of _ _  a thrwy hynny awgrymu bod y sawl sy'n gwneud yr honiadau - Virginia Roberts (isod) - yn gelwyddog.  Yn ol a ni i'r 70au am wn i.




Wnewch chi ddim clywed hyn ar y Bib wrth gwrs, ond mae'r unigolyn oedd yn gyfaill i Andrew a sydd yn destun yr achos cyfreithiol yma - Jeffrey Epstein - wedi wynebu honiadau tebyg gan 40 o ferched ond oherwydd ei gyfoeth mae wedi llwyddo i setlo'r mwyafrif llethol ohonynt heb orfod mynd i'r llys.  

Beth mae'r prisiau betio yn ei ddweud wrthym am ein cyfundrefn etholiadol?

Mi fydd y blog yma'n son am fetio'n weddol aml - heb gofio mai lleiafrif o bobl sy'n betio ac yn deall yr arfer.  Felly dyma bwt eglurhad - os ydych yn betio ar unrhyw bris uwch na 25/1 rydach chi'n rhoi pres i'r bwci, a dydi'r bwci ddim yn rhoi dim byd yn ol i chi.  Os ydych chi'n betio ar bris yn yr amrediad 1/33 i 1/100 mae'r bwci y eithaf siwr bod y canlyniad hwnnw am ddigwydd, ond mae'n ceisio gwneud yn siwr nad oes neb yn betio ar hynny trwy beidio a chynnig llawer o bres yn ol am ennill.

Mae yna 40 o etholaethau yng Nghymru ac mae Ladbrokes yn cynnig prisiau yn yr amrediad 1/33 - 1/100 mewn 26 ohonynt ar gyfer etholiad cyffredinol 2015.  Mewn geiriau eraill ym marn y bwci mae canlyniadau pob etholaeth yng Nghymru ond am 14 fwy neu lai yn anhepgor.  Neu i edrych ar bethau mewn ffordd ychydig yn wahanol dydi etholwyr 65% o etholaethau Cymru ddim am gael unrhyw ddylanwad o gwbl ar yr etholiad oherwydd bod y canlyniad yn eu hetholaeth eisoes yn anhepgor.  Waeth i bron i 2/3 pobl Cymru beidio a phleidleisio oherwydd na fyddan nhw'n cael unrhyw ddylanwad ar yr etholiad o gwbl.

Mi fyddai rhywun yn meddwl y byddai'r pleidiau gwleidyddol unoliaethol eisiau mynd i'r afael ag anhegwch anemocrataidd fel hyn - mae yna pob math o ddulliau o bleidleisio sy'n rhoi llais i bawb.   Gall Llafur gael 70% o seddi Cymru ar lai na 35% o 'r bleidlaid.  A bod yn deg a Miliband roedd o blaid newid y drefn (rhyw ychydig) i gyfundrefn AV yn ol yn 2011.  Byddai'r newid wedi bod yn fach ond yn gam i'r cyfeiriad cywir.  Roedd nifer o aelodau Llafur Cymru yn erbyn hyd yn oed y newid bach yma - gan gynnwys Nick Smith ac Ann Clwyd.

Roedd y Toriaid hefyd yn erbyn wrth gwrs.  Mae eu penderfyniad i ymgyrchu yn erbyn AV yn debygol o gostio etholiad cyffredinol 2015 iddynt.  Y tebygrwydd ydi y bydd UKIP yn cymryd llawer o bleidleisiau oddi ar y Toriaid yn Lloegr, ond yn methu ag ennill llawer o seddi.  O dan gyfundrefn AV byddai llawer o'r pleidleiswyr hyn wedi rhoi eu hail bleidlais i'r Toriaid gan wthio'r Toriaid heibio gwrthwynebwyr Llafur a Lib Dem.  Mae'n debyg hefyd y byddai llawer o ail bleidleisiau Lib Dem - ac i raddau llai Llafur - yn mynd i'r Toriaid i gadw UKIP allan.    

Mae'n bosibl i etholiad 2015 ei cholli i'r Toriaid yn 2011 pan benderfynodd Cameron ymgyrchu yn erbyn AV.

Thursday, January 01, 2015

Etholiad Cyffredinol 2015 - Gogledd Iwerddon

Reit - mi wnawn ni ddechrau'r flwyddyn efo blogiad fydd o fawr ddim diddordeb i fawr neb sy'n darllen y Gymraeg - ond mi wnawn ni fo beth bynnag.  Rhagolygon ar gyfer etholiadau Gogledd Iwerddon.  Mae tua hanner y seddi yn gwbl ddiogel - West Belfast, Mid Ulster, West Tyrone a Newry Armagh i Sinn Fein a North Antrim, Strangford, East Antrim, Lagan Valley ac East Londonderry i'r DUP.

Gair bach o eglurhad cyn cychwyn - mae yna ddwy brif blaid genedlaetholgar - yr SDLP a Sinn Fein.  Mae SF yn fwy 'gwyrdd' na'r SDLP.  Mae yna dair brif blaid unoliaethol y TUV, y DUP, yr UUP yn ogystal ag ambell i blaid fach arall.  Mae UKIP yn debygol o roi eu trwynau i mewn y tro hwn ond fyddan nhw ddim yn gwneud argraff fawr.  Y TUV ydi'r mwyaf 'glas' a'r UUP ydi'r mwyaf cymhedrol.  Y prif bleidiau heddiw ydi SF a'r DUP - ond mae hynny'n ddatblygiad cymharol ddiweddar.  Y pleidiau mwy cymhedrol oedd yn dominyddu tan gytundeb Dydd Gwener y Groglith.  Mae yna blaid arall - Alliance (APNI) sy'n cael cefnogaeth o'r ddwy gymuned.  Mae wedi ei lleoli yn y canol yn wleidyddol ac mae ei chefnogaeth yn ddosbarth canol iawn.  SF ydi'r unig blaid sy'n sefyll y ddwy ochr i 'r ffin ac mae wedi bod yn blaid cymharol fach yn y De hyd yn ddiweddar.  Mae serch hynny wedi ennill cryn dipyn o gefnogaeth yn y Weriniaeth tros y ddwy flynedd diwethaf a chafodd fwy o gefnogaeth tros yr ynys na 'r un blaid arall yn etholiadau Ewrop y llynedd.  Mae yna berthynas rhyfeddol o agos rhwng cefndir crefyddol pobl a'u patrymau pleidleisio.  Mae pobl o gefndir Pabyddol yn pleidleisio i'r SDLP neu SF tra bod Protestaniaid yn pleidleisio i'r pleidiau unoliaethol.

Gogledd Down (Annibynnol) Os ydi Sylvia Hermon yn sefyll fel unoliaethwraig annibynnol yn North Down bydd yn ennill.  Ond os bydd yn penderfynu peidio sefyll mae gan y DUP gyfle da - er bod yr etholaeth yma (sydd yn fwy unoliaethol na'r un arall) efo hen, hen hanes o dorri ei chwys ei hun.  Os nad ydi Sylvia Hermon yn sefyll, mae yna son y gallai gefnogi Judith Gallespie o blaid ganol y ffordd yr Alliance - mae wedi ffraeo ego'r UUP ac yn casau'r DUP.  Gallai hynny greu canlyniad cwbl anisgwyl - does yna neb yn y DU efo pleidlais bersonol uwch na Sylvia Hermon.  Mae'r etholaeth yn un gyfoethog, ac mae yna lawer o bobl sy 'n gysylltiedig a'r heddlu a'r lluoedd diogelwch yn byw yno.  Fyddan nhw ddim yn pleidleisio i'r Alliance, ac mae'r DUP wedi perfformio'n gryf yna mewn etholiadau lleol diweddar.

Mae etholaeth Foyle (SDLP) yn cwmpasu dinas Derry, ac mae wedi bod yn gadarnle i'r SDLP ers degawdau.  Collodd y blaid ei mwyafrif yn y ddinas yn etholiadau'r cyngor eleni - yn rhannol oherwydd i ddwy ward o Tyrone gael eu hychwanegu i'r ddinas - mae Tyrone yn rhan o berfedd dir gwledig Sinn Fein yn hanner gorllewinol y dalaith.  Dydi'r wardiau Tyrone ddim yn gynwysiedig yn Foyle, ond o graffu roedd perfformiad yr SDLP yn wan yn wardiau Foyle hefyd - yn arbennig yn y wardiau poblog cyfan gwbl Babyddol ar lannau gorllewinol Afon Foyle.  Ond mi ddylai'r SDLP gadw'r sedd beth bynnag.  Er bod y nifer o unoliaethwyr yn yr etholaeth yma'n syrthio'n gyflym, mae yna tua 7,000 ar ol ar y gofrestr etholiadau - y cwbl bron ar lannau dwyreiniol y Foyle.  Mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw yn debygol o bleidleisio'n dactegol i'r SDLP os oes canfyddiad bod perygl i  SF yn ennill y sedd.  Gallai fod yn agos, ond dylai'r Stwps ddal eu gafael - y tro hwn o leiaf. 

Mae South Down (SDLP) yn debyg i Foyle o ran cydbwysedd etholiadol - er i'r SDLP wneud yn well yno yn etholiadau lleol eleni.  Mae'r bleidlais SF yn agos at yr un SDLP bellach mewn etholiadau cynulliad ac ati, ond mae yna 7,000 - 8,000 o ethollwyr unoliaethol ar gael i roi benthyg eu pleidlais i'r SDLP - ac maen nhw wedi gwneud hynny yn y gorffennol.  Byddwn yn disgwyl i'r SDLP oroesi yma am fwy o amser nag y byddant yn ei wneud yn Foyle.

Fermanagh South Tyrone oedd sedd fwyaf ymylol y DU yn 2010 gydag SF yn curo'r DUP o bedair pleidlais.  Mae yna fwyafrif cenedlaetholgar o hyd at 10% yn yr etholaeth, ond daeth  y pleidiau unoliaethol i gytundeb i redeg un ymgeisydd yn unig tra methodd y cenedlaetholwyr a gwneud hynny.  Dwi'n rhagweld y bydd SF yn dal y sedd hyd yn oed os oes yna ymgeisydd SDLP - mae'r bleidlais SDLP wedi chwalu mwy yma nag yn unrhyw ran arall o'r dalaith bron - ac mae'r broses yma yn debygol o barhau.   Os bydd yr unoliaethwyr yn ei hennill mi fydd y tro diwethaf i hynny ddigwydd.

Dwyrain Belfast (Alliance). Roedd hon yn sedd DUP yn ol yn y dyddiau pan mai North Antrim Ian Paisley oedd yr unig  sedd DUP arall, ond collodd Peter Robinson y sedd yn 2010 yn fuan wedi sgandal yn ymwneud a'i wraig - a nifer o sgandalau eraill.  Mae'r etholaeth yn un eiconig i'r DUP a byddant yn ei hennill yn ol ym mis Mai - a bydd defnydd di drugaredd yn cael ei wneud ynglyn a'r anghydfod Jac yr Undeb ar Neuadd y Ddinas i atal cefnogwyr UUP rhag pleidleisio yn dactegol i APNI. Roedd APNI o blaid cyfyngu ar y defnydd o'r faner.

Gogledd Belfast (DUP)  Mae'r boblogaeth Babyddol wedi tyfu'n gyflym yng Ngogledd Belfast -etholaeth oedd hyd yn gymharol ddiweddar yn un soled unoliaethol.  Roedd y bleidlais genedlaetholgar yn uwch yma na'r un unoliaethol yn yr etholiad Cynulliad diwethaf, er bod y bleidlais genedlaetholgar yn rhannu ychydig yn fwy cyfartal na'r un unoliaethol. Mae hyn yn rhoi mantais i'r DUP tros SF.  Os mai un ymgeisydd cenedlaetholgar ac un unoliaethol sy'n sefyll - ac mae hynny'n bosibl byddwn yn disgwyl i SF ei chrafu hi.  Os ydi'r ddau floc pleidleisiau wedi rhannu (fel yn 2010) byddwn yn disgwyl i'r DUP ddal y sedd o drwch blewyn - yn arbennig os mai Alban McGuiness sy'n sefyll i'r SDLP.  

De Belfast (SDLP). Fel yng Ngogledd Belfast mae'r cydbwysedd cenedlaetholwyr / unoliaethwyr yn agos iawn - ond efo'r gwahaniaethau bod yr etholaeth yn un dosbarth canol a bod Alliance yn ffactor.  Penderfynodd SF beidio sefyll yn erbyn yr SDLP yn 2010 ac awgrymu i'w cefnogwyr bleidleisio i'r blaid honno.  Roedd hynny a phleidleisio tactegol gan gefnogwyr Alliance yn ddigon i roi'r sedd yn hawdd i'r Stwps.  Os digwydd hynny eto, byddant yn cadw'r sedd.  Os na fydd yn digwydd bydd pethau'n agos iawn rhwng y DUP a'r SDLP - ac mae SF yn dweud y byddant yn sefyll y tro hwn.  Beth bynnag fyddwn i ddim yn synnu petai cytundeb rhwng y ddwy blaid genedlaetholgar na fydd y naill blaid yn sefyll yng ngogledd y ddinas tra na fydd y llall yn sefyll yn y De (er nad oes ganddynt record dda o ddod i gytundeb o unrhyw fath efo'i gilydd ).  Byddai hynny'n rhoi tair o bedair sedd Belfast yn nwylo cenedlaetholwyr.  

De Antrim (DUP) Roedd hin yn agos rhwng y DUP a'r UUP yn 2010, yn rhannol oherwydd ymgyrch gref gan arweinydd yr UUP Reg Empey a pherfformiad cymharol gryf gan y TUV - plaid sydd i'r 'Dde' o'r DUP.  Mewn etholiadau yn dilyn hynny mae'r DUP wedi ad ennill eu goruwchafiaeth, a byddant yn ennill yn hawdd ym mis Mai.

Yr unig sedd arall a allai newid dwylo mewn gwirionedd ydi Upper Bann (DUP).  Mae yna fwyafrif unoliaethol clir yn yr etholaeth yma, ond mae wedi ei rhannu mwy na'r bleidlais genedlaetholgar.  Mae pethau'n gymharol agos rhwng yr UUP a'r DUP tra bod goruwchafiaeth 2:1 i 3:1 gan SF tros yr SDLP.  Yn wir cafodd y SF ychydig mwy o bleidleisiau na'r DUP yn etholiadau'r cynulliad.  Mae'n bosibl y bydd TUV yn sefyll, ac mae UKIP yn bygwth gwneud hynny hefyd. Byddai hyn yn creu cryn hollt yn y bleidlais unoliaethol. Mae yna dri phosibilrwydd yma - SF, DUP neu'r UUP.  Y DUP ydi'r mwyaf tebygol, ond mae'r ddau ganlyniad arall yn bosibl.  Petai SF yn ennill mi fyddai'n ffliwc a byddai'r tro diwethaf am gryn gyfnod - byddai'r bleidlais unoliaethol yn ail drefnu ei hun yn yr etholiad canlynol. 

A dyna chi - yr unig ddadansoddiad o wleidyddiaeth etholiadol Gogledd Iwerddon rydych yn debygol o 'i weld yn y Gymraeg.  Peidiwch a dweud nad ydych yn cael gwerth eich pres.