Saturday, January 10, 2015

Defnydd gwych o arian cyhoeddus yn nhre'r sosban

Llongyfarchiadau i aelod seneddol Llanelli, Nia Griffith ar ddefnydd hynod effeithiol o arian cyhoeddus mewn oes lle mae arian cyhoeddus yn brin iawn.  Ymddengys ei bod yn defnyddio'r Post Brenhinol i bwrpas gwahodd ei hetholwyr i noson goffi. 

Duw a wyr beth ydi'r gymhareb llythyrau sy'n cael eu hanfon i'r nifer o bobl sydd yn mynd i'r noson goffi - ond mae yna rhywbeth yn dweud wrthyf bod y cyhoedd yn talu'n ddrud iawn am pob unigolyn sy'n mynd i dreulio ei nos Wener yn slyrpian coffi yng nghwmni Nia.  Joban Deddf Rhyddid Gwybodaeth i rhywun sydd a diddordeb yn y math yna o beth o bosibl.

Beth bynnag - awgrym bach i Nia - mi fyddai mynd o gwmpas strydoedd Llanelli yn gwthio'r llythyrau trwy dyllau llythyrau yn arbed cryn dipyn o bres i'r cyhoedd, a byddai'r cerdded yn llesol i iechyd Nia a'i chyd Lafurwyr yn nhre'r sosban.


5 comments:

Cneifiwr said...

Mi allwn ni ond gobeithio na fydd pawb yn troi lan i hawlio dished o goffi. Aeth 10,000 o lythyrau mas, mae'n debyg. 53c yw pris stamp ail ddosbarth, heb son am bris coffi, llaeth a siwgr.

Unknown said...

Yn hytrach na disgwyl i'r bobl ataf i, mae'n well gyda fi fynd at y bobl.

Cai Larsen said...

Hmm, ydan ni'n gwybod faint aeth draw am goffi - mi fyddai'n bechod petai neb wedi mynd ar ol buddsoddiad o £5,000+

Cneifiwr said...

Anghofiais i'r hobnobs organig.

Cai Larsen said...

Pe byddwn yn gwybod am yr hobnobs organig mi gyddwn wedi teithio i Lanelli er mwyn cael mynychu