Sunday, January 11, 2015

Guto Bebb a'r 'rheol' 40%

Mae'n ddiddorol i Mr Bebb - AS Aberconwy - ymddangos ar y Newyddion heno i amddiffyn cynlluniau'r Toriaid i beidio a gadael i weithwyr sector gyhoeddus streicio oni bai bod 40% o'r sawl sydd a hawl i bleidleisio yn pleidleisio tros streic.  

Dyma'r union amod y mynnodd Kinnock, Abse ac ati y dylid ei roi ar bleidlais o blaid datganoli yn ol yn 79 mewn ymdrech i danseilio'r broses ddemocrataidd.

Llai na 28% o'r sawl oedd a hawl i bleidleisio yn Aberconwy yn 2010 a bleidleisiodd tros Mr Bebb gyda llaw.


2 comments:

Anonymous said...

Be digwyddodd i'r erthygl :

http://oclmenai.blogspot.co.uk/2015/01/y-tywysog-andrew-jeffrey-epstein.html ?


Afiach darllen rhagor am hanes Epstein ac Andrew yn yr Observer heddiw:

http://www.theguardian.com/world/2015/jan/10/jeffrey-epstein-decade-scandal-prince-andrew

Cai Larsen said...

Dwi wedi ail gyhoeddi'r blogiad - mae nhw'n mynd yn ol i ffurf drafft yn ddi ofyn ambell waith.