Wednesday, February 18, 2015

Llongyfarchiadau _ _

Llongyfarchiadau i Tony Blair am ennill gwobr am ei wasanaethau i heddwch yn y Dwyrain Canol - ynghyd a miliwn o ddoleri.  Go brin y gall neb anghytuno efo'r wobr honno - oni bai am Tony ni fyddai'r Dwyrain Canol y llyn heddychlon, tawel yw heddiw.

Llongyfarchiadau hefyd i'r Tywysog Andrew ar gael ei ddyrchafu'n is Adrimal (beth bynnag ydi hynny yn y Gymraeg) gan ei fam fel anrheg penblwydd yn 55 oed.  Mi fydd hyn yn siwr o fod o gymorth iddo anghofio'r gwahanol broblemau sydd ganddo yn llysoedd barn America.  Mae'r broses yma o ddewis uchel swyddogion yn amlwg yn un o'r rhesymau am effeithlionrwydd chwedlonol lluoedd 'diogelwch' y DU.

A llongyfarchiadau i'w dad, y Tywysog Philip ar gael ei urddo'n farchog gan lywodraeth Awstralia.  Mi fydd yr anrhydedd yn ychwanegiad gwych i weddill ei deitl swyddogol - His Royal Highness The Prince Philip, Duke of Edinburgh, Earl of Merioneth, Baron Greenwich, Royal Knight of the Most Noble Order of the Garter, Extra Knight of the Most Ancient and Most Noble Order of the Thistle, Member of the Order of Merit, Grand Master and First and Principal Knight Grand Cross of the Most Excellent Order of the British Empire, Knight of the Order of Australia, Additional Member of the Order of New Zealand, Extra Companion of the Queen's Service Order, Royal Chief of the Order of Logohu, Extraordinary Companion of the Order of Canada, Extraordinary Commander of the Order of Military Merit, Canadian Forces Decoration, Lord of Her Majesty's Most Honourable Privy Council, Privy Councillor of the Queen's Privy Council for Canada, Personal Aide-de-Camp to Her Majesty, Lord High Admiral of the United Kingdom.

Pwy ddywedodd bod anrhydeddau yn llwyth o lol di ystyr sy'n cael eu defnyddio i droi'r  gwirionedd a'i ben i lawr?  

1 comment:

BoiCymraeg said...

Is-lyngesydd.