Saturday, March 28, 2015

Chris Bryant yn y newyddion eto fyth

Mae'n hyfryd gweld bod rhai o'r gwerinwyr dewr o'r Blaid Lafur rydym yn eu hanfon i Lundain i edrych ar ol buddiannau Cymru mor aml yn y newyddion ac yn gwneud mor dda trostynt eu hunain.  Gwaetha'r modd dydi'r hogiau (a hogiau ydyn nhw yn bennaf) erioed wedi cael fawr o hwyl ar edrych ar ol buddiannau Cymru,  Yn wir methodd dwsinau - cannoedd o bosibl - o aelodau seneddol Llafur sylwi bod Cymru yn cael ei thangyllido i raddau grotesg o gymharu a'r Alban - heb son am fynd ati i wneud unrhyw beth am y sefyllfa.

Ta waeth lle maent yn methu ag edrych ar ol Cymru yn effeithiol, maent yn mwy na gwneud iawn am hynny trwy edrych ar ol eu hunain yn effeithiol.  Cymerer Chris Bryant er enghraifft - ymddengys ei fod wedi ymateb yn hynod gelfydd i'r  newidiadau yn y rheolau talu am ail gartrefi aelodau seneddol yn Llundain.  Pan gollwyd yr hawl i hawlio ad daliadau morgais ar draul y treth dalwr yn sgil sgandalau diwedd y ddegawd diwethaf aeth ati i symud allan, rhentu fflat arall ar gost y trethdalwr a chodi rhent ar bobl am gael aros yn ei fflat ei hun - fflat oedd wedi ei dalu amdano gyda chryn gymorth gan y trethdalwr.  Mae fflatiau tebyg yn yr un adeilad yn cael eu rhentu am tua £3,000 y mis.  

Rwan mae £3,000 y mis - ail incwm Mr Bryant - yn uwch nag incwm y rhan fwyaf o gartrefi yn y Rhondda.  Mae ei brif incwm fel aelod seneddol a gweinidog cysgodol tua tair gwaith cyflogau cyfartalog ei etholaeth.  

Does yna ddim awgrym bod yr hyn wnaeth Mr Bryant yn groes i reolau seneddol wrth gwrs - ond mae'r stori yn ddadlennol i'r graddau ei bod yn amlygu hen, hen batrwm.  Cymru'n anfon cenhedlaeth ar ol cenhedlaeth o aelodau seneddol Llafur i San Steffan ar y ddealltwriaeth bod yr aelodau hynny yn amddiffyn buddiannau Cymru.  Maent yn methu a gwneud hynny oherwydd bod eu teyrngarwch sylfaenol i'r Blaid Lafur Brydeinig - ond maent yn cael gwell lwc ar edrych ar ol eu buddiannau eu hunain.  Mae'n bryd i'r cylch yma o fethiant ddod i ben.

Gyda llaw dwi'n cynnwys llun o obaith mawr y ganrif, Llafur yn yr Alban oherwydd ei fod yntau yn chwarae union yr un gem a Mr Bryant.

No comments: