Sunday, March 22, 2015

Pam mai Llafur Cymru a'r Alban fydd yn colli fwyaf o'r dadleuon teledu

Mae'r trefniadau wedi eu cyhoeddi a'u cytuno o'r diwedd.  Byddant fel a ganlyn:

  • Mawrth 26: Rhaglen holi ac ateb efo David Cameron and Ed Miliband ar C4.
  • Ebrill 2: Dadl ar ITV efo'r canlynol:  David Cameron, Nick Clegg, Ed Miliband, Nigel Farage, Natalie Bennett, Nicola Sturgeon a Leanne Wood on ITV.  
  • Ebrill 16: Dadl ar y Bib efo'r canlynol:   Ed Miliband, Nigel Farage, Natalie Bennett, Nicola Sturgeon a Leanne Wood.
  • Ebrill 30:  Question Time ar y Bib efo  David Cameron, Ed Miliband a Nick Clegg.  
Mae ymgyrch Llafur yng Nghymru a'r Alban wedi ei seilio ar nifer o gelwyddau - sydd yn nodweddiadol o Lafur.  

Celwydd 1:  Llywodraeth Doriaidd neu Lafur fydd yna ar ol Mai 7.  Mae hynny'n bosibl, ond yn anhebygol.  Gweler isod y ffordd mae'r marchnadoedd betio yn ei gweld hi.  Ar 14/1 mae'n anhebygol iawn y bydd yna lywodraeth fwyafrifol Llafur.  Mae llywodraeth Doriaidd yn fwy tebygol ar 9/2 tra bod llywodraethau lleiafrifol Llafur neu Doriaidd yn cael eu hystyried yn llawer mwy tebygol.  


Mae yna fyd o wahaniaeth rhwng llywodraeth leiafrifol Llafur neu Doriaidd ac un fwyafrifol.  Os oes yna lywodraeth leiafrifol bydd rhaid iddi ddod i gytundeb gyda phleidiau lleiafrifol eraill.  Beth bynnag mae pobl fel Jim Murphy yn ei ddweud, dyna ydi 'r realiti.  Dydi hi ddim yn bosibl i lywodraeth leiafrifol reoli  heb fargeinio.  Gallai hynny'n hawdd arwain at ddylanwad sylweddol gan Blaid Cymru a'r SNP.  Mi fydd yna bris am hynny - ac mi fydd y pris hwnnw o fudd materol i bobl Cymru a'r Alban.  Dydi Llafur Cymru na'r  Alban ddim am fod mewn sefyllfa i wneud hynny - ufuddhau i chwipiaid Llafur yn Llundain ydi eu prif flaenoriaeth nhw, ac felly mae wedi bod erioed.  Caiff hyn ei amlygu mewn dadleuon cyhoeddus sy'n cynnwys Nicola Sturgeon a Leanne.

Celwydd 2:  Mae Llafur yn sylfaenol wahanol i'r Toriaid.  Mi  fydd agosatrwydd  Llafur a'r Toriaid o ran polisiau economaidd yn cael ei amlygu.  Dwy blaid sydd yn cynllunio i dorri mwy ar wariant cyhoeddus, dwy blaid sydd ym mhocedi bancwyr.  Mae gwleidyddiaeth y DU yn un rhyfedd ar hyn o bryd - mae'r prif bleidiau unoliaethol yn agos iawn at ei gilydd yn wleidyddol, tra'n gwneud llwyth o swn yn tantro a myllio ar ei gilydd ynglyn a'r man wahaniaethau sydd rhyngddynt.  Mi fydd presenoldeb yr arweinwyr o'r gwledydd Celtaidd yn dangos yn glir nad oes yna fawr o wahaniaeth rhwng Miliband a Cameron - ac yn wir mae yna bosibilrwydd y byddant ymddangos i fod yn canu o'r un llyfr emynau yn ystod y dadleuon.  O safbwynt etholiadol bydd hyn yn wenwynig yn etholiadol i Lafur yng Nghymru a'r Alban. 





No comments: