Saturday, March 14, 2015

Ynglyn a chael fy mlocio rhag gweld cyfri trydar Alun Pugh

Ymddengys fy mod wedi cael fy mlocio rhag darllen cyfri trydar ymgeisydd Llafur Arfon, Alun Pugh - er ei fod wedi bod wrthi'n brolio gwta chwech wythnos yn ol na fyddai'n blocio etholwyr rhag darllen ei gyfri petai'n cael ei ethol yn aelod seneddol.

Mae yna rhywbeth braidd yn fyfiol am gwyno am y fashiwn bethau, a dydw i ddim yn cwyno mewn gwirionedd.  Mae gan pawb sy'n trydar pob hawl i ddethol pwy sy'n cael darllen eu cynnyrch a 'dydi cael fy mlocio gan Mr Pugh ddim yn fy mhoeni llawer.  Yn wir mae gen i fy hun un cyfaill sy'n ymddangos i fod yn dioddef o syndrom Tourette wedi ei flocio.  Ond yr hyn sy'n fwy diddorol o bosibl ydi pa sylw yn union sydd wedi ypsetio Mr Pugh?  Yr isod ydi'r unig gysylltiadau trydar dwi wedi eu cael ar trydar efo Mr Pugh yn ddiweddar.



Mae'r sylw uchaf yn ateb i sylw gan y Cynghorydd Sion Jones bod Arfon angen gwaed ifanc.  Mae Mr Pugh yn ddyn canol oed sydd wedi dod yn syth allan o fold gwleidyddion Llafur yng nghymoedd y De.  Efallai fy mod wedi tramgwyddo ar ei falchder personol.

Mae'r sylwadau yn y canol yn ymwneud a thrydariad bisar braidd gan Mr Pugh oedd yn awgrymu na fyddai Leanne Wood yn gwneud yn dda yn y dadleuon teledu trwy bostio dolen at stori ynglyn a chyfweliad trychinebus ar y radio gan arweinydd y Blaid Werdd, Natalie Bennett.  Roeddwn i'n tueddu i fod yn garedig braidd a phriodoli'r trydariad i ddiffyg gwybodaeth gan Mr Pugh ynglyn a bywyd cyhoeddus yng Nghymru, tra bod cyfeillion eraill yn priodoli'r trydariad i hen agweddau patriarchaidd y Blaid Lafur Gymreig - yr hen gred bod merched i gyd yr un peth ac yn ddigon di glem ynglyn a phob dim ag eithrio gwau, coginio a newid clytiau.

Mae'r sylw ar y gwaelod yn cyfeirio at arfer Mr Pugh o anwybyddu cwestiynau gan ddarpar etholwyr. 

Felly ymddengys bod y blocio naill ai oherwydd i mi awgrymu nad ydi Mr Pugh ddim bellach ym mlodau ei ieuenctid hardd, neu oherwydd i mi gymryd rhan mewn dadl ynglyn a'r cwestiwn os mai sexist ta anwybodus ydi Mr Pugh neu am dynnu sylw at y ffaith nad ydyw'n ateb cwestiynau.  


No comments: