Wednesday, April 08, 2015

Ynglyn a phapurau lleol yn ceisio dylanwadu ar ganlyniad etholiad

Mi fydd llawer o ddarllenwyr Blogmenai yn ymwybodol o'r stori sydd wedi ymddangos yn y Cambrian News ynglyn a sylwadau a wnaed gan ymgeisydd Plaid Cymru yng Ngheredigion yn ol yn 2001.  Amgaeaf lun o dudalen flaen y Cambrian News a'r rhan o'r erthygl (o'r cylchgrawn Planet) maent wedi eu defnyddio i greu eu stori.


Rwan 'dwi'n derbyn bod ieithwedd yr erthygl wreiddiol yn hynod anffodus ac o bosibl yn anghysact hefyd -  mae o'n fath o iaith na fyddwn i yn ei ddefnyddio, ac mae'n fath o iaith na fyddai llawer o Gymru cynhenid yn ei ddefnyddio.  Roedd Mr Parker ei hun yn fewnfudwr nad oedd wedi integreiddio i'r gymuned leol ar y pryd  - ac mae'n bosibl mai dim ond rhywun yn y sefyllfa yna fyddai'n defnyddio'r fath ieithwedd.

Ond mae erthygl y Cambrian News yn gamarweiniol, ac yn fwriadol gamarweiniol - ac yn arbennig felly y pennawd bras.  Dydi'r term Nazi ddim yn cael ei ddefnyddio yn y darn, ac er bod y pennawd yn awgrymu bod Mike Parker yn cyfeirio at fewnfudwyr yn gyffredinol mae'n glir o ddarllen ei erthygl ei bod yn ymdrin a sefyllfa benodol - Nick Griffin yn ymfudo i Lanerfyl ym Maldwyn - er nad at Griffin yn unig mae'r sylwadau wedi eu cyfeirio.


Mae'n werth codi un pwynt arall - roedd yr iaith a ddefnyddid yn y ddisgwrs wleidyddol Gymreig yn hynod gwrs pan ysgrifenwyd yr erthygl - o safbwynt ochr unoliaethol pethau o leiaf.  Roedd y Welsh Mirror yn ei anterth, ac roedd yn disgrifio cenedlaetholwyr fel hilgwn a ffasgwyr fel mater o gwrs, ac roedd sefydliadau Cymreig cwbl ddi niwed yn cael eu pardduo.  Er enghraifft cyfeirwyd at y 'Steddfod Genedlaethol fel Festival of Hate yn y papur.  Gwnaed sylwadau Mike Parker mewn cyfnod lle'r oedd llawer iawn o faw yn cael ei daflu o gyfeiriad y wasg unoliaethol.

Ymateb Llafur i lwyddiant y Blaid yn etholiadau Cynulliad 1999 oed y Welsh Mirror wrth gwrs.  Mae'n debyg mai'r Lib Dems sydd wedi bod yn ymbalfalu yn ysgrifau cynnar Mike Parker i greu'r 
stori yma.  Mae'r Dib Lems yn hoff o wleidydda budr a phardduo, ac mae hynny yn arbennig o wir pan mae eu cefnau yn erbyn y mur diarhebol.  Ofn crasfa etholiadol oedd y tu ol i 'r ymdrech 
drychinebus i bardduo Nicol Sturgeon yr wythnos ddiwethaf, a dyna mae'n debyg sydd y tu ol i'r ymdrech yma i bardduo Mike Parker ar drothwy etholiad.  Wedi dweud hynny roedd ein cyfeillion bach Llafur wedi neidio ar wagen y Dib Lems ddoe efo'r un brwdfrydedd yn union ag a wnaethant yn dilyn y stori Sturgeon wythnos yn ol.  

Rwan beth sydd gennym yma mewn gwirionedd ydi papur lleol yn caniatau iddo'i hun gael ei ddefnyddio ar adeg gwleidyddol sensitif i i bwrpas ceisio amharu ar ganlyniad etholiad.  Mae'r papur yn gwerthu ym Meirion, Dwyfor, Ceredigion a rhannau o Ogledd Penfro a Gogledd Caerfyrddin.  O gymryd yr ardal yn ei chyfanrwydd mae yna lawer, llawer mwy o'i ddarllenwyr yn bleidleiswyr Plaid Cymru na sy'n bleidleiswyr Dib Lem.  Os ydi rhai o'r bobl hynny eisiau mynegi eu hanfodlonrwydd bod y papur yn cael ei ddefnyddio i bwrpas amharu ar ganlyniadau etholiadau mae yna ffordd hawdd o wneud hynny - gwrthod prynu'r papur a pheidio hysbysebu yn y papur.  


*Diolch i Simon Brooks am dyrchu am yr erthygl wreiddiol.

Gellir gweld mwy yma gan Ifan Morgan Jones.


No comments: