Thursday, June 18, 2015

Dosbarthiad boncyrs Cyrsiau Ymwybyddiaeth Cyflymder cyfrwng Cymraeg

Dydi gor yrru ddim yn rhywbeth i fod yn arbennig o falch ohono, ond mi ges i fy nal yn gwneud hynny wrth yrru i Lanaelhaearn fis diwethaf - roeddwn yn gwneud 40mya mewn parth 30mya.  

Er syndod i mi cefais ddewis i fynd ar gwrs ymwybyddiaeth gyrru yn hytrach na chael dirwy a 3 phwynt ar fy nhrwydded.  Yn fy nineweitrwydd cymrais yn ganiataol y byddai cwrs cyfrwng Cymraeg ar gael - ac ymddengys bod cyrsiau felly yn wir i'w cael - ond ddim i drigolion Gogledd Cymru.  Yn ol gwefan TTC Cymru does yna ond cyrsiau i'w cael yn 'Ne a Chanolbarth Cymru'.  Felly dyma chwilio am gyrsiau Cymraeg yn y De a'r Canolbarth - o chwilio yn ofalus dwi wedi dod o hyd i bedwar - un yng Nghastell Nedd, un yng Nghasnewydd, un yn Abertawe a'r llall yng Nghaerdydd.  Yn ddi amau mae pob un o'r lleoedd yna yn y De - dim un yn y Canolbarth.  Am reswm cwbl amhosibl i'w ddeall mae'r cyrsiau yn cael eu cynnal cyn belled a phosibl o'r ardaloedd hynny lle mae niferoedd sylweddol o siaradwyr Cymraeg yn y Gogledd.  Mae bron pob cymuned lle mae mwy na 70% o'r boblogaeth yn agos at arfordir y Gogledd, tra bod pob cwrs yn agos at arfordir y De.

Oherwydd fy mod yn gweithio yr unig gwrs cyfrwng Cymraeg sy'n addas i mi ydi un yng Nghaerdydd sydd yn gorffen am 6 o'r gloch ar ddydd Sul.  Gobeithio na chaf fy nal yn gor yrru wrth geisio ei gwneud hi adref mewn pryd i fynd i fy ngwely ar amser call er mwyn medru codi i fynd i 'r gwaith yn y bore.  

Oes yna unrhyw le arall oni bai am Gymru lle lleolir gwasanaethau cyn belled a phosibl oddi wrth ddefnyddwyr?


*Diweddariad 19/6 - y Mrs wedi dod o hyd i gwrs i mi ym Mangor trwy wneud cais trwy ffonio y TTC - y ddynas yr ochr arall i'r ffon yn dweud bod cyrsiau  yn cael eu cynnig yn y Gogledd ers fis Ionawr - ond nad oedd y Wefan wedi ei diweddaru ers hynny.

5 comments:

Anonymous said...

Dwi'n byw yn ardal Conwy a dwi'n ymwybodol am o leiaf 3 chydnabod sydd wedi cael eu dal yn gor-yrru a phob un wedi cael yr opsiwn o ddilyn y cwrs. Ymhob achos roedd y tri am wneud y cwrs yn Gymraeg ac ymhob achos cafwyd trafferth wrth geisio hynny. Fel arfer oherwydd y diffyg dewis o ran dyddiad i'r cyrsiau Cymraeg - mewn sawl achos roedd dyddiadau'r cyrsiau Cymraeg ar ôl y dyddiad cau ar gyfer cwblhau'r hyfforddiant! Ta beth, ymhob achos daliwyd ati (gan gynwys dadlau'n chwyrn efo gweinyddwyr y cyrsiau) ac ymhob achos llwyddwyd yn y diwedd i ddilyn cwrs Cymraeg. Er fy mod i'n nabod y tri pherson dan sylw, dydyn nhw ddim yn nabod ei gilydd ac roedd y tebygrwydd rhwng eu hanesion yn syfrdanol. Gyda llaw cynhaliwyd y cyrsiau'n weddol leol - Abergele dwi'n meddwl ond dwi ddim yn hollol saff am hynny.

Felly, mae cyrsiau Cymraeg ar gael ond rhaid bod yn benderfynol er mwyn cael y fraint o'u mynychu. Mae o bron fel petai ymdrech i leihau'r galw am y cyrsiau Cymraeg tydi?! Sgersli bilîf!

Anonymous said...

Dwi'n cymryd g byddi yn gadael i'r Comisiynydd wybod? Un yr iaith hynny yw nid yr heddlu!!

Anonymous said...

Trwy AA Drivetech y gwnes i'r cwrs, a hynny yn y Gymraeg ym Mangor. Dewisiadau eraill yn y gogledd ar gael hefyd os cofiai'n iawn. Dim problem ffeindio na bwcio cwrs Cymraeg - hyn nôl yn yr hydref llynedd.

Anonymous said...

Gweler :

https://courses.aadrivetech.com/DriverAware/BookOnline/Default.aspx

a'r ddolen at y gwefan yn Gymraeg.

Gwynfor Owen said...

Y ffordd gall o ddarparu cyrsiau yn Gwynedd o leiaf buasai eu gwneud trwy gyfrwng y Gymraeg gyda Cyfieithydd ar y Pryd ar gyfer y rhai di - Gymraeg