Wednesday, August 26, 2015

Deiseb statws y Gymraeg yng Nghaerdydd

Os ydych eisiau arwyddo deiseb yn cefnogi statws y Gymraeg yn y brif ddinas yn dilyn sylwadau haerllyg arweinydd y cyngor, mae un wedi ei threfnu gan arweinydd Plaid Cymru ar y cyngor, Neil McEvoy.


Phil Bale


Neil Mcevoy


2 comments:

Anonymous said...

Tydwi ddim yn diystyrru 'r sylw nag agwedd afiach gan y blaid Lafur,ond onid oes angen i'r Blaid edrych yn fwy strategol ar faterion Ieithyddol?
Sylw dwi'n ei glywed yn aml yw fod y Blaid yn cael lot o sylw ar faterion ieithyddol,ond sydd yn cryfhau canfyddiad y di Gymraeg mai Plaid i'r siaradwyr a caredigion yr iaith ydan ni.

Mae yna lawer o gefnogwyr arfaethedig caiff eu darbwyllo drwy ddadl economaidd neu dros rym federal ,sydd ,ddim yn poeni llawer am yr iaith,a'r chydig adefgau mae'r Blaid yn cael sylw teilwng drwy Gymru ydi pan mae rhuwin yn bod yn wrth gymreig fatha rhanglen "does the welsh language annoy you" BBC Wales.

Mae ymgeisydd gwych fel Macavoy yn wir her I Lafur yn y brifddinas a canolbwyntio ar fethiannau Llafur ar bob lefel yn y brifddinas ddylai fod syn ganolbwynt ei ymgyrch ynghyd a dyfodol Caerdydd fel prifddinas ewropiaidd unigryw.

Anonymous said...

O Gaerdydd i Sir Fflint. Mae'r awdurdod lleol yn ystyried cau ysgol Gymraeg fechan - Ysgol Mornant - sydd wedi gwasanaethu ardal Ffynnongroyw ers 1953. Mae deiseb wedi'i hagor ac mi fuasai'r cefnogwyr lleol yn gwerthfawrogi unrhyw gefnogaeth.

http://www.ipetitions.com/petition/save-ysgol-mornant-achub-ysgol-mornant