Sunday, August 30, 2015

Mwy o idiotrwydd o Gaerdydd

Mae'n debyg bod ymgeisydd UKIP yng Ngorllewin Caerdydd yn etholiadau'r Cynulliad i'w ganmol am gael ei bamffled agoriadol allan yn weddol gynnar.  Neu o leiaf dwi'n rhyw gymryd mai gohebiaeth ar gyfer etholiadau'r Cynulliad ydi'r pamffled gan mai dyna'r etholiadau nesaf - does yna ddim son o unrhyw fath o etholiadau o gwbl yn y darn. 

Serch hynny mae Brian yn addo pob math o bethau os ydi ei blaid yn cael ei ethol - rheoli 'ein' ffiniau (dwi'n cymryd mai ffiniau'r DU sydd gan Brian mewn golwg yn hytrach na rhai Cymru), cael gwared o daliadau Ewrop er mwyn ariannu'r Gwasanaeth Iechyd, cael gwared o dreth incwm ar bobl sydd ar incwm isel, cael gwared o'r dreth llofftydd, cael gwared o dreth etifeddiaeth, cael gwared o gymorth tramor ac ati.

Yn anffodus dydi hi ddim yn ymddangos bod neb wedi trafferthu egluro i Brian na fydd mewn sefyllfa i weithredu ar unrhyw un o'i addewidion  os caiff ei ethol.  Materion sydd yng ngofal llywodraeth San Steffan ydi pob un o addewidion Brian.  Mae'n ymladd ei ymgyrch ar agenda na fydd mewn unrhyw sefyllfa o gwbl i'w gweithredu os caiff ei ethol.

Mae am fod yn hwyl dilyn yr ymgyrch idiotaidd yma tros y misoedd nesaf.



5 comments:

WelshnotBritish said...

The sort of person that this is aimed at doesn't know that these things are not devolved and probably wouldn't care even if they were told.

Anonymous said...

Idiotrwydd??? Dwi'm yn siwr. Falle y tro hyn mae Brian Morris yn gweld yn bellach na Blog Menai. Mae'n gwybod yn iawn y bydd ei neges yn taro tant gyda'i ddarpar etholwyr, yn fwy felly na unrhyw neges am fwy o bwerau, hawl i drethu ag ati ag ati. Peidied neb a difyru ymdrechion UKIP. Nhw fydd a rhywbeth i'w ddathlu ddydd ar ol yr etholiad - gwaetha'r modd.

Cai Larsen said...

Sori gyfeillion - dwi eto i fy argyhoeddi bod addo gwneud pethau nad yw'n bosibl i'w gwneud yn ffordd effeithiol o wleidydda. Idiotrwydd llwyr.

Anonymous said...

Sori Cai, mae hwn yn daflen effeithiol. Syml, dim rhy geiriol, neges glir. A bydd yn denu lot o sylw a fôts.

Wn i ddim pam bod ni'n rhoi arian dramor, mae Schengen (er nad yw'r UK yn rhan ohono) yn achosi problemau fel mae Merkel nawr yn dweud a bydd digon o bobl tlawd yn Trelai ddim am weld rhagor o bobl yn symud fewn i Gaerdydd.

Mae hwn yn her wirioneddol i Blaid Cymru a phob plaid arall. Yn anffodus mae llywodraeth wan, ddigyffro Carwyn Jones (yn wahanol i'r SNP) wedi creu'r gwagle deallusol yma i UKIP symud fewn iddi.

Mae'r Blaid wedi colli'r cwch dwi'n meddwl. Gwastraffwyd 1999 - 2011 gydag 'arweinyddiaeth' IWJ a gwrthodiad y Blaid i hyrwyddo cenedlaetholdeb h.y. doedd dim ymgyrch dorfol yn o blaid tim Cymru yn yr Olympics (rhywbeth byddai wedi bod yn amhoblogaidd gan rai ond wedi dod â sylw i'r Blaid a rhoi usp i ni). Y gwir yw, rydym yn cynhychu tomen o bolisiau ond does neb yn eu darllen - cer i wefan y LDs mae llwyth o bolisiau yno, rhai digon da, ond pwy ddiawl sy'n darllen y small print.

O'm rhan i, dwi'n meddwl mai clymblaid gyda Llafur yn 2016 a bod hynny ar y ddealltwriaeth fod y Blaid yn pwshio a herio llywodraeth Doriaidd yn llafar a ddim bod yn 'bartner bach da' i Lafur yw'r unig ateb i achub datganoli. Os bydd clymbaldi efo Llafur mae'n rhaid i Carwyn JOnes ddeall hefyd bod wir angen iddo godi ei gem neu mae ar ben i Lafur hefyd. Gall Cymru'n hawdd fotio Tori-UKIP yn 2021 os nad yn 2016.

M.

Anonymous said...

Mae Cai eisioes wedi dannod Flynn http://golwg360.cymru/newyddion/cymru/198230-as-yn-galw-am-newid-y-drefn-o-ddosbarthu-ffoaduriaid

ac mae Cai'n iawn, nid yw'r Cynulliad yn rheoli'r ffiniau rhag newydd-ddyfodiaid..
OND oes 'na fodd i wleidyddiaeth "iard gefn" NIMBYUKIP(AFLYNN ymddengys) achylsurol godi yn y Cynulliad ar batrwm "Gwariant i reiny; llai o wariant ar ol i hyn a llall.."? Er enghraifft, mi fyddai rhaid wrth addysg i unrhyw griw o ddarpar-ffoaduriaid. Pwy biau addysg? Wel y cynulliad i raddau 'te...Darpariaeth ieithoedd, lleoedd ysgol ayb..

Er cydymdeilad Cai a Leanne Wood, ac er bod Plaid Cymru yn arddel rhagor o rym ac ychwaneg o wariant, dwi'n amau gwelwn "Darperwch ragor o loches, a thai yn Nghymru ar gyfer ffoaduriaid" ar y brig o ran posteri ymgyrch Plaid Cymru etholiad nesa' 'chwaith.. Pob hwyl efo arwyddair gwleidyddol felly...