Saturday, August 01, 2015

Pam bod 'atebion' David Davies i argyfwng Calais yn sylfaenol anymunol

Felly ateb David Davies - Aelod Seneddol Mynwy - i'r argyfwng mewnfudwyr yng Nghalais ydi anfon byddin Prydain i Ogledd Ffrainc a gorfodi'r mewnfudwyr arfaethiedig i fynd i fyw mewn gwersylloedd yn Affrica neu'r Dwyrain Canol  a lleihau budd daliadau yn y DU er mwyn rhoi llai o anogaeth i fewnfudwyr ddod i 'r DU.  Mae David yn foi digon dymunol, ond mae o hefyd yn byw mewn bydysawd cyfochrog i'r un mae pawb arall yn byw ynddo.

Mae Gogledd Affrica a'r Dwyrain Canol bellach yn llawn dop o wersylloedd i ffoaduriaid - ac hynny yn ganlyniad uniongyrchol neu anuniongyrchol yn aml i'r rhyfeloedd a'r ymgyrchoedd bomio mae plaid David wedi bod mor frwdfrydig i'w cefnogi.


Mae llawer o'r gwledydd mae David eisiau dympio ei broblem pobl sy'n chwilio am loches arnynt eisoes yn dlawd, ac eisoes wedi cymryd nifer fawr o bobl o'r tu allan i'w ffiniau -Iran 857,400, Yemen 241,300, Ethiopia 433,990, De Sudan 229,600, Uganda 220,600, Kenya 534,000.  Twrci sydd efo'r mwyaf o bobl - 1.6m.  Ar ddiwedd 2014 roedd 0.24% o boblogaeth y DU yn bobl oedd yn chwilio am loches - 117,161 o bobl sydd wedi derbyn caniatad i aros 36,383 oedd yn disgwyl i'w hachosion gael eu clywed a 16 person nad oedd ganddynt wladwriaeth.  Mae 86% o bobl sy 'n chwilio am loches wedi eu lleoli mewn gwledydd sy 'n datblygu yn economaidd - hy gwledydd sydd yn llawer tlotach a felly llai abl i ddelio efo'r broblem na'r DU.




Mae nifer o wledydd Gorllewinol yn delio efo llawer mwy o geisiadau am loches na'r DU - yr UDA, yr Almaen, Sweden, yr Eidal er enghraifft.  Dydi Ffrainc ddim yn derbyn cymaint o geisiadau na'r DU - a'r prif reswm am hynny ydi nad ydi'r wlad honno yn cartrefu ymgeiswyr lloches am dri mis, mae Prydain yn darparu cartrefi cyn gynted a phosibl.  Gallai Prydain wrth gwrs wneud yr un peth - ond byddai David, y Mail, yr Express ac ati wedyn yn cwyno bod dinasoedd De Lloegr yn edrych fel Calais efo pobl yn cysgu ar ochr y strydoedd.

Mae David hefyd eisiau gostwng budd daliadau.  Dwi ddim yn siwr os mai son am fudd daliadau i ymgeiswyr lloches mae o yn hytrach na budd daliadau i bawb - ond mae'r budd dal mae ymgeiswyr lloches yn ei gael yn dod i £36.95 y person, yr wythnos - mae hyn yn £5.28 ar gyfer bwyd, dillad a hylendid personol y dydd.  Mae David yn ennill £67,060 y flwyddyn fel aelod seneddol.  Mae David hefyd yn mynd o gwmpas y wlad yn traddodi darlithiau - mae'n codi £150 yr awr am rheiny.  Roedd ei dreuliau am lety a theithio tros £18,000 yn 2013-2014.  A bod yn deg dydi'r ffioedd darlithio na'r treuliau ddim yn arbennig o uchel, ond mae'n rhaid eu bod yn edrych fel ffortiwn i rhywun sy'n ceisio cynnal ei hun ar £5 y diwrnod.

Ac mae yna fater arall hefyd.  Dydi o ddim yn glir os mae eisiau i ymgeiswyr lloches gael llai na £5.28 y diwrnod mae David, ynteu a ydi o eisiau i bawb gael llai o fudd daliadau er mwyn gwneud y DU yn llai atyniadol i fewnfudwyr - gyda mae mewnfudwyr wedi derbyn hawl i loches mae ganddynt hawl i fudd daliadau pellach wrth gwrs.  Rwan mae'r Toriaid wrthi'n brysur yn torri budd daliadau pobl ieuengach - fel y trafodwyd yn y blogiad diwethaf, ac efallai mai cyflymu'r broses  sydd gan David mewn golwg.  Yn sicr mae'r wasg Adain Dde yn awyddus iawn i gysylltu mewnlifiad efo budd daliadau.

Mae yna tua 7 miliwn o bobl wedi mewnfudo i Awstralia ers diwedd yr Ail Ryfel Byd - y rhan fwyaf  o Ewrop a'r rhan fwyaf o ddigon er mwyn gwella eu hunain - dwi ddim yn meddwl bod neb yn cwestiynu hynny.  Mae'r gred bod pobl efo greddf naturiol i geisio gwella eu cyflwr materol yn elfen greiddiol o'r ffordd mae'r wasg Adain Dde a phobl fel David yn gweld y Byd, a'r hyn sy'n gwneud i gymdeithasau dynol weithio.  Ond mae'n ymddangos bod y Mail, y Telegraph a'r Express yn priodoli greddfau felly i Ewropiaid gwyn.  Mewnfudo i chwilio am waith mae'r boi o Newcastle, ond chwilio am fudd daliadau mae'r sawl sy'n dweud ei fod yn dianc rhag erledigaeth yn Eritrea.  Mae'r boi o Newcastle yn weithgar, tra bod yr un o Eritrea yn ddiog.  Mae yna rhywbeth hyll iawn yn y ffordd yna o edrych ar y Byd.

No comments: