Wednesday, August 19, 2015

Pwt o Perpignan

Bu'n gryn gyfnod ers i mi fod yn Perpignan ddiwethaf.  Bydd rhai ohonoch yn ymwybodol bod y gornel fach chwilboeth yma o Ffrainc hefyd yng Nghatalonia - cartref y Catalan Dragons i'r sawl yn eich plith sy'n dilyn rygbi'r gynghrair.

Newid amlwg ers i mi fod yma ddiwethaf ydi bod y Gatalaneg yn llawer mwy gweladwy, er bod llywodraeth Ffrainc yn enwog o anoddefgar o ieithoedd ag eithrio'r Ffrangeg.  Wnewch chi ddim clywed llawer o'r Gatalaneg yn Perpignan ei hun - er ei bod yn weddol gyffredin ei chlywed ym mhentrefi'r Pyrennies gerllaw - ac wrth gwrs tros y ffin yn Sbaen.  

Un o'r prif resymau am weladwyedd newydd yr iaith yn Ffrainc ydi bod y weinyddiaeth leol Lagendoc Rossilion wedi rhoi statws swyddogol i'r iaith ar ei thiriogaeth.  Mae hynny yn ei dro yn ganlyniad i'r brwdfrydedd newydd tuag at yr iaith yr ochr arall i'r ffin rhyngwladol. Mae ynagysylltiad agos rhwng cenedlaetholdeb ieithyddol a chenedlaetholdeb cyfansoddiadol yn y rhan yma o'r Byd.  Yn yr ystyr yna mae Catalonia yn fwy tebyg i Gymru nag i'r Alban.











4 comments:

William Dolben said...

Hylo Cai, neis gweld yr arwyddion dwyiethog, wir ond prin iawn ydi'r plant sy'n siarad Catalaneg neu Ocsitaneg neu Lydaweg. Y patrwm ym mhob man bron ydi i'r rhai a anwyd cyn yr ail ryfel byd siarad yr iaith ond bron neb o'u plant. Mae'n hawdd rhoi statws i iaith pan fydd y siaradwyr brodorol olaf wedi mynd o'r fuchedd hon ymhen 30 mlynedd. Y peth trawiadol yn Ffrainc ydi'r modd y troth iaith y teulu ymhobman bron ar ôl yr ail ryfel byd. Mae fel tase pob teulu yng Nghaernarfon, Bala, Llanelli a Phontardawe wedi gollwng y Gymraeg ar yr un pryd. Teimlaf yn besimistaidd iawn achos mae yna agendor hefyd rhwng y siaradwyr newydd (ail-iaith a threfol ar y cyfan) a'r hen siaradwyr cefn gwlad sy'n cadw'r iaith leol dan yr hatsus ac yn canmol safon a chywirdeb iaith y dysgwyr (yn eu Ffrangeg gorau fel arfer). Dylem deimlo'n ffodus iawn yng Nghymru fod rhai ardaloedd wedi gwrthsefyll. Mae diboblogi'n broblem anferth hefyd mewn ardaloedd anghysbell fel y Pyrenées a'r Auvergne. Mae'r iaith yn dal yn iaith gymunedol mewn rhai llefydd amnad oes prin neb dan 65 yn byw yno heblaw yn yr haf. Glywsoch chi bobl ifainc yn siarad Catalaneg ym mhentrefi'r Pyrenées. Darllenais mai yn Béarn y parodd yr Ocistaneg neu'r Béarnais) hwyaf yn bennaf oherwydd ei fod o'r neilltu.

Mae gennyf gyfrol ddiddorol: "Parler Catalan à Perpignan" gan Dawn Marley (Gwasg Harmattan, 1995) . Gwnaeth dau arolwg ym 1988 a 1993 ond er bod agweddau'n cynhesu tuag at y Gatalaneg mae marwolaeth yr iaith yn ymddangos yn anochel, dyfynnaf gan gyfieithu: "Gwelant y Gatalaneg leol yn iaith israddol a'i cymharu â'r Ffrangeg A'R Gatalaneg dros y ffin. Dywed llawer o siaradwyr fod eu Catalaneg yn Rousillonais a "folklorique" a'u bod cael trafferth i ddeall y Gatalaneg "wir". Traddoddant y siaradwyr rhugl Ffraneg yn unig i'w plant...roedd y broses hon wedi'r dechrau hefo genhedlaeth y teidiau a neiniau sef a rhai a anwyd cyn yr ail ryfel byd adeg yr arolygon



Cai Larsen said...

Dwi jyst ar ochr arall y ffin ar hyn o bryd - ychydig iawn o Gastilian sydd i'w chlywed yma.

william Dolben said...

ie, gwahanol iawn yn Sbaen. Mae rhai Catalanwyr yn taeru y buasai Catalwnia wedi bod yn well alllan yn Ffrainc am fod Ffrainc yn fwy goleuedig na'r Castillians cul a hen ffasiwn. ond mi fuasent wedi bod ar eu colled yn ddiwyllliannol ac yn economaidd. Mae'r ffaith fod rhywun yn medru gwibio 300km o Madrid trwy Barcelona i'r ffin a wedyn o Montpellier i Paris yr un mor handi ond hefo darn o reilffordd o'r ganrif ddwytha yn y canol fatha'r Cambrian Line, ar draws Occitania yn deud cyfrolau am flaenoriaethau Ffrainc....

Mae Ffrainc wedi llwyddo i droi clytwaith o ieithoedd yn duvet gwyn Ikea yr un fath â Thwrci, Gwlad Groeg, Gwlad Pwyl ac hn y blaen. llwydodd Sbaen i gadw ei hamrywiaeth yn bennaf am fod yr ardaloedd "amrywiol" yn gyfoethog a llywodraeth Sbaen yn llai effeithiol o ran canoli.

joia dy wyliau, dim peryg o dy weld ym Madrid, nagie? mae croeso bob amser
W

william dolben said...

Portiwgeg Brasil ydi'r iaith yn y llun cyntaf !