Friday, September 18, 2015

Pam bod UKIP yn gwneud yn dda yn rhai o Gymoedd y De?

Mae'r rheswm yn syml yn ol y blog etholiadol election data.  Mae yna bump grwp o bobl sy'n tueddu i droi oddi wrth Llafur tuag at UKIP, ac mae'r pump wedi eu gor gynrychioli yn rhai o Gymoedd y De:

1). Teuluoedd sy'n ei chael yn anodd yn economaidd.
2). Grwpiau 'coler glas'
3). Pobl mewn oed sy'n byw ar stadau cyngor.
4). Pobl mewn oed sydd ar fudd daliadau sy'n byw mewn fflatiau cyngor neu stadau tai cymunedol.
5). Pobl ifanc iawn sydd ar incwm isel.


Am fanylion llawn - a llond trol o fapiau - gweler yma.

1 comment:

Tanybryn said...

Dim yr ardal mwyaf seisnig.o ran.cyfran genedigaethau cymreig chwaith..