Sunday, September 20, 2015

Problem fach Carwyn Jones

Felly - yn dilyn cyfweliad yr 'Arglwydd' Falconer y bore 'ma ymddengys bod cabinet cysgodol newydd Llafur yn rhanedig ar o leiaf 11 mater:

  • Ewrop
  • Nato
  • Trident
  • Annibyniaeth Banc Lloegr
  • Academiau addysgol
  • Cap ar fudd daliadau
  • Gwladoli'r Grid Cenedlaethol
  • Gwladoli'r banciau
  • Irac
  • Syria
  • Gogledd Iwerddon

Mae hon yn gryn restr - ac mae'r un gyflawn yn debygol o fod yn llawer, llawer hirach.  Dim ond y materion a gododd y bore 'ma sydd wedi eu rhestru uchod.  Mae'n amheus gen i bod unrhyw gabinet neu gabinet cysgodol wedi bod mor rhanedig ers hanner cyntaf y ganrif ddiwethaf.  Yn sicr does yna'r un arweinyddiaeth wedi bod mor barod i siarad am ei rhaniadau o'r blaen.




Mae hyn oll yn gadael y Blaid Lafur 'Gymreig' mewn cyfyng gyngor.  Mae'n anhepgor y bydd y rhaniadau'n troi'n ffraeo cyhoeddus - a bydd hynny'n cael effaith negyddol ar ymgyrch y Cynulliad.  Bydd felly'n demtasiwn i Carwyn Jones geisio ymbellau oddi wrth llywodraeth Corbyn - ond bydd hynny 'n achosi problemau ynddo'i hun.  Mae yna fwy - llawer mwy - o aelodau'r Blaid Lafur 'Gymreig' wedi pleidleisio i Corbyn na wnaeth i Carwyn Jones.  Mae gan Corbyn felly fwy o hygrededd ymysg aelodau Llafur Cymru na sydd gan Carwyn Jones.  Ond yn bwysicach na hynny 
hyd yn oed bydd rhaid i lywodraeth Bae Caedydd ymladd etholiad ar ei record ei hun os ydi hi'n symud oddi wrth Corbyn - ac mae'r record honno yn un enbyd o ddiffyg uchelgais, methiant treuenus i ddarparu gwasanaethau sylfaenol, a diffyg effeithiolrwydd cyffredinol.

Bydd yn ddiddorol gweld os y bydd yn well gan Carwyn Jones gysylltu ei hun efo cecru di ddiwedd yn Llundain 'ta efo ei record alaethus ei hun o fethiant di dor.  Mae'n dda gen i mai ei broblem o ydi hi.

No comments: