Wednesday, October 21, 2015

Beth sydd gan Janet Finch Saunders mewn golwg ynglyn a Golwg

Mae'r sgwrs fach yma ar gyfryngau cymdeithasol rhwng Aelod Cynulliad Aberconwy, Janet Finch Saunders ac ymgeisydd Plaid Cymru yn yr etholaeth, Trystan Lewis.  Cyfeirio mae Trystan at erthygl a ymddangosodd yn Golwg yn ddiweddar oedd yn honni nad oedd gan Janet fawr o glem am beth y byddai hi'n hoffi ei weld yn digwydd i gynghorau lleol Cymru.  Er mai hi ydi llefarydd swyddogol y Toriaid ar lywodraeth leol, ni ddylai fod fawr o syndod i neb sydd wedi dilyn ei gyrfa nad oes ganddi lawer o glem ynglyn a manylion ei phortffolio ei hun - dydi eglurder na llygad am fanylder ddim yn nodweddion sydd ymysg ei chryfderau.



Serch hynny mae ei hymateb yn ddiddorol - nad ydi Golwg yn gynrychioladol o'r wasg ehangach ac nad ydi newyddiadurwyr Cymraeg yn gynrychioladol o newyddiadurwyr yn gyffredinol.  Rwan mae hi'n bosibl bod Janet yn darllen Cymraeg yn ddigon da i ddarllen Golwg, a'i bod wedi dod i'r casgliad bod ymdriniaeth yr wythnosolyn cyfrwng Cymraeg  o faterion y dydd yn sylfaenol wahanol i ymdriniaeth gweddill y wasg.  Dydi hi erioed wedi dangos gallu o unrhyw fath i gyfathrebu yn y Gymraeg hyd y gwn i.

Ar y llaw arall efallai mai'r unig beth mae yn ei wybod am Golwg ydi ei gyfrwng a'i bod yn cymryd bod yna rhywbeth yn sylfaenol wahanol am rhywbeth sydd wedi ei ysgrifennu yn y Gymraeg.  Rhagfarn yn hytrach na barn fyddai hynny wrth gwrs.

No comments: