Sunday, October 18, 2015

Cynhadledd Plaid Cymru 2015




Cofiwch am Gynhadledd Flynyddol y Blaid yn Aberystwyth ddydd Gwener a dydd Sadwrn.  Bydd y digwyddiad yn digwydd yn naw degfed blwyddyn y Blaid, ac mae'n ddigon posibl mai hon fydd y Gynhadledd fwyaf yn ei hanes o ran y nifer o bobl fydd yn mynychu.  Dewch os ydi hi o gwbl yn bosibl.

Fel y gwelwch o'r amserlen isod bydd Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon yn annerch y Gynhadledd ddydd Gwener - ond mae yna siaradwyr arbennig o dda eraill trwy gydol y Gynhadledd.  






Mi gaiff aelodau sy'n mynychu'r Gynhadledd gyfle anarferol i bleidleisio tros awdur Blogmenai os ydynt eisiau gwneud hynny ac os ydyn nhw'n aelodau yn y Gogledd.  Dwi'n sefyll i fod yn un o ddau gynrychiolydd y Gogledd ar Bwyllgor Gwaith Cenedlaethol y Blaid.  Rwyf wedi cyflawni'r rol honno am y ddwy flynedd diwethaf.  Y ddau ymgeisydd arall ydi Vaughan Williams, Caergybi a Carrie Harper, Wrecsam.

Mae yna nifer o etholiadau cystadleuol eraill yn cael eu cynnal, gan gynnwys:

Cyfarwyddydd Polisi ac Addysg Wleidyddol
Cynrychiolydd Rhanbarthol Canol De Cymru
Pwyllgor Llywio’r Gynhadledd

Bydd ymgeiswyr y Blaid am Gomisiynwyr yr Heddlu yn cael eu dewis yno hefyd.

Beth bynnag am etholiadau, prif arwyddocad y Gynhadledd fydd ei hamseriad - mae'n cael ei chynnal fel mae ymgyrchoedd Cynulliad ar hyd a lled Cymru yn cychwyn o ddifri.  Mae'n bwysig mai'r Blaid ac nid Llafur fydd yn arwain y llywodraeth nesaf ym Mae Caerdydd.  Mae'r blaid honno wedi methu a methu eto ers ennill grym yn y Cynulliad yn 1999.  Ymhellach mae Cymru wedi pleidleisio i Lafur ym mhob etholiad fwy neu lai ers 1918 - ac rydym yn cael ein gwobreuo efo lleoliad ar waelod bron i pob tabl economaidd am wneud hynny.  

Byddai cynhadledd lwyddiannus yn fan cychwyn da ar yr ymgyrch anodd ond posibl i ddod a'r hunllef hir o oruwchafiaeth Llafur yng Nghymru i ben.

No comments: