Thursday, October 08, 2015

Dim cynhadledd i UKIP

O diar - dydi UKIP 'Cymru' ddim yn cynnal eu cynhadledd yn Abertawe.  Y rheswm hynod anarferol ydi bod yna gynhadledd Wanwyn, felly does yna ddim angen cynhadledd yn ystod yr hydref. 



Mi fedrwch chi gredu'r stori honno os mynnwch chi.  

Eglurhad arall ydi bod y rhagolygon yn awgrymu y byddai yna erwau o seddi gwag yn y neuadd, ac y byddai'r digwyddiad yn edrych fel rhywbeth wedi ei drefnu gan y Dib Lems.  Roedd e bost yn egluro pam bod y digwyddiad wedi ei ganslo gan y cwmni dosbarthu - Ticketsource - yn dweud yn glir mai diffyg gwerthiant oedd y rheswm.

Dewiswch chi pa un ydi'r eglurhad mwyaf tebygol.   


1 comment:

Anonymous said...

"UKIP has cancelled its Welsh autumn conference in Swansea in a fortnight.

The party said the event was not needed following a decision to hold the main UK conference in Llandudno next spring." Gwefan y BBC. Felly..

1. Plaid eilradd, israddol ydi UKIP Cymru felly.. medd UKIP Cymru.
2. Does dim angen llais, polisiau, ymgeiswyr Cymreig - fe fydd UKIP UK yn sortio hynny allan yn y gynhadledd Wanwyn.
3. Pam felly aethpwyd ati i drefnu cynhadledd 'Gymreig' ym mis Hydref ?
4. Beth am etholiadau'r cynulliad ? Pwy fydd yn dewis a dethol y polisiau i'w rhoi gerbron ? O ia Mark Reckless, un a wrthodwyd gan ei bobl ei hun ym mis Mai.
5. Yn olaf, pam felly ar wyneb y ddaear mae gan UKIP Cymru arweinydd ?

O ia, fe gafodd Nathan Gill y job gan Farage, mewn rhyw araith, rhyw dro, yn rhywle neu'i gilydd. Dim enwebiadau, dim etholiad arweinyddol. Jyst cyhoeddiad.

Shambyls o blaid os bu un erioed.

Dim polisiau, dim democratiaeth, dim clem!

Jyst colbio Johnnie Fforinar. Mae hynny'n ddigon o negas.