Tuesday, October 27, 2015

Felix, Sion a deddfau cyffuriau

Mi glywais i rhyw fymryd o raglen radio Vaughan Roderick y diwrnod o'r blaen.  Ymysg eitemau eraill cafwyd trafodaeth ar gyfreithloni canabis. Vaughan, Felix Aubel, Sion Jones a rhywun arall nad ydw i'n cofio ei henw oedd yn cymryd rhan.   Fel llawer o raglenni mae Felix yn cymryd rhan ynddi roedd yna rhyw gymysgedd rhyfedd o'r boncyrs a'r di niwed o'i chwmpas.  Roedd y pedwar ohonyn nhw yn mynd trwy'i pethau fel petai yna fewath o dystiolaeth bod erlid defnyddwyr canabis wedi lleihau'r defnydd a wneir o'r cyffur.  Roedd Felix yn ein sicrhau bod 'ei brofiad fel gweinidog yr Efengyl' wedi dangos iddo bod defnyddio'r cyffur meddal hwn gwneud i bobl ymosod ar eu partneriaid, treisio eu plant ac achosi anhrefn ar y strydoedd.  Mae'n amlwg nad yw 'ei brofiad fel gweinidog yr Efengyl' wedi arwain ato'n cael ei hun mewn sefyllfa lle mae ganddo sbliff yn ei geg.  Roedd Sion yntau'n poeni am y sefyllfa, ac am i 'r awdurdodau fynd ar ol defnyddwyr cyffuriau a'u cosbi 'n llymach o lawer.  Roedd Felix wrth gwrs yn cytuno.

Rwan mae defnyddio cyffuriau yn beth eithaf stiwpid i'w wneud - ond dydi o ddim mor stiwpid ag ydi cred Sion a Felix mai 'r ffordd ymlaen ydi gwneud defnydd hyd yn oed yn fwy llym o'r gyfundrefn droseddol.

Y broblem efo'r cyfreithiau cyffuriau sydd gennym ar hyn o bryd ydi nad ydyn nhw'n gweithio - a dydyn nhw erioed wedi gweithio.  Ers 1971 mae tua £1 triliwn wedi ei wario ar hyd a lled y Byd mewn ymdrech i atal pobl rhag defnyddio cyffuriau trwy wneud defnydd llawdrwm o'r system gyfreithiol. Ac eto mae'r farchnad yn cynyddu a chynyddu, a chynyddu a chynyddu gan greu elw rhyfeddol i ddrwg weithredwyr ar hyd a lled y Byd.   Rydym yn clustnodi amser ac adnoddau di ben draw i fynd i'r afael a'r broblem - yn taflu niferoedd enfawr o bobl i'r carchar - a'r canlyniad ydi bod mwy o gyffuriau ar y stryd a bod mwy o elw yn cael ei wneud gan ddrwg weithredwyr.

Mae yna resymau sy'n ymwneud a grymoedd economaidd sylfaenol yn gyrru hyn oll.  Fel mae'r awdurdodau yn mynd yn fwyfwy llawdrwm ar y drwgweithredwyr sy'n cyflenwi cyffuriau, mae'r sawl sy 'n fodlon cymryd y risg i gyflenwi yn gofyn am fwy o arian - wedyn mae pris cyffuriau yn cynyddu ac wedyn mae'r sawl sy'n ei ddefnyddio yn cael eu hunain yn gorfod torri cyfreithiau eraill er mwyn fforddio talu am gyffuriau.  Mae'r drefn sydd ohoni yn gwthio prisiau cyffuriau i fyny, a'r bobl sydd yn elwa o hynny ydi gangiau o ddrwg weithredwyr sy'n gweithredu ar hyd a lled y Byd - o Gaernarfon i Fogota.  Mae yna gysylltiad uniongyrchol rhwng natur cyfreithiau gwrth gyffuriau a'r anhrefn mae cyffuriau yn eu hachosi ar hyd a lled y Byd.  Mae'r fasnach Fyd eang werth tua $300bn.

Mae effaith hyn ar hyd a lled y Byd yn syfrdanol.  Mae'n debyg i tua 100,000 o bobl farw ym Mecsico rhwng 2006 a 2015 oherwydd yr anhrefn mae'r diwydiant cyffuriau ac ymdrechion yr awdurdodau i 'w atal wedi ei greu. Ychydig mwy na 3,000 fu farw yng Ngogledd Iwerddon trwy'r rhyfel hir yno. Ceir carchardai llawn at yr ymylon mewn llawer o wledydd (defnyddwyr cyffuriau ydi mwyafrif carcharorion America - tua 500,000 o bobl). 

Ac eto dydi 'r holl ymdrechion ddim wedi cael unrhyw effaith o gwbl.  Yn ol rhai amcangyfrifon mae traean o oedolion y DU wedi defnyddio cyffuriau anghyfreithlon ar rhyw bwynt neu'i gilydd yn eu bywydau.  Mae un plentyn mewn chwech rhwng 11ac 15 oed yn defnyddio cyffuriau, mae yna tua 2,000 o bobl yn marw y flwyddyn o ganlyniad i gyffuriau ac mae 'r defnydd o gyffuriau cyfreithlon - legal highs - yn rhemp.

Ac eto (yn y DU) mae tua 500,000 o bobl yn cael eu stopio a'u harchwilio am gyffuriau yn flynyddol yn y DU, ac mae 70,000 o bobl yn cael eu bywydau wedi eu difetha trwy gael record troseddol am ddefnyddio cyffuriau.

Er gwaethaf hyn oll 'dydi'r broblem ddim yn gwella o gwbl.  Yn wir mae ymchwil y Swyddfa Gartref yn dangos yn weddol glir nad oes perthynas rhwng llymder cyfreithiau cyffuriau a faint o bobl sy'n defnyddio cyffuriau.

Mae yna ffyrdd o leihau'r defnydd o gyffuriau - ond nid trwy erlid pobl sy 'n gwneud drwg i neb ag eithrio eu hunain a bwydo cyfrifon banc drwgweithredwyr ar hyd a lled y Byd efo biliynau o bunnoedd mae gwneud hynny.

No comments: