Sunday, October 11, 2015

Llafur Arfon - gwirio ffeithiau rhan 1

Bydd darllenwyr cyson Blogmenai yn cofio i gryn dipyn o amser gael ei dreulio yn ystod yr ymgyrchEtholiad  Cyffredinol ddiwethaf yn cywiro gwahanol ymgeisiadau gan Blaid Lafur Arfon i gam arwain etholwyr Arfon.  

Bu'n rhaid dechrau'n gynnar ar gyfer ethol Etholiadau'r Cynulliad y flwyddyn nesaf.  Rydym eisoes wedi dod ar draws nifer o ymgeisiadau i gamarwain yr etholwyr gan gynnwys celwydd noeth a di addurn bod Cyngor Gwynedd newydd roi 10% o godiad cyflog i Brif Weithredwr y cyngor.  Felly waeth i ni gychwyn cyfres o flogiadau i gywiro'r celwydd fel mae'n cael ei gyflwyno.

Wele ymgais arall i gam arwain yr etholwyr heddiw.  Ymddengys bod gan Plaid Cymru gynllun i atal myfyrwyr Cymreig rhag astudio y tu allan i Gymru.


Mae'n anodd gwybod yn iawn beth sydd y tu ol i'r ymgais yma i gamarwain yr etholwyr.  Mae myfyrwyr o pob rhan o'r Byd yn astudio yn Lloegr.  Hyd yn oed petai Cymru'n wlad annibynnol sy'n cael ei rheoli gan Blaid Cymru, ni fyddai'n bosibl atal pobl rhag astudio yng ngwledydd eraill yr Undeb Ewropiaidd - byddai hynny'n gwbl groes i gyfraith Ewrop.  

Mae'n wir bod gan y Blaid gynlluniau i leihau neu ddiddymu ffioedd myfyrwyr i fyfyrwyr sy'n astudio yng Nghymru mewn rhai pynciau fel meddyguniaeth.  Y rheswm am hynny ydi bod prinder meddygon yng Nghymru ac mae yna cryn dipyn o dystiolaeth bod myfyrwyr yn tueddu i aros yn yr ardal maent wedi mynd i goleg ynddo ar ol gadael coleg.  Mewn geiriau eraill mae'n ymgais i gynnig anogaeth i fyryfwyr mewn pynciau dethol i aros yng Nghymru er mwyn delio efo prinderau yn y gweithlu yng Nghymru.

Rwan mae cynnig anogaeth ariannol yn fater hollol wahanol i orfodi pobl i wneud pethau.  Mae'n weddol gyffredin i lywodraethau gynnig anogaeth ariannol i bobl ymddwyn mewn ffordd arbennig.  Un esiampl ymysg llawer ydi'r camau mae llywodraeth y DU a Chymru yn eu cymryd i ddwyn perswad ar unigolion a chwmniau ynni i ymddwyn mewn ffordd amgylcheddol gyfrifol.  Does yna neb yn ei Iawn bwyll hyd y gwn i yn honni bod y camau hyn yn ymgais gan lywodraethau i orfodi pawb i roi paneli solar ar ben ei dy, neu i brynu car efo injan fach, neu i roi melin wynt yn sownd yn eu simdde, neu i beidio a defnyddio bagiau plastig.  Does yna neb yn ei lawn bwyll chwaith yn dehongli'r ffaith nad oes rhaid talu treth ar gyfraniadau elysennol fel ymgais i orfodi pawb i gyfrannu i elusen.  

Ond fel hyn mae'r ddisgwrs wleidyddol yn Arfon mae gen i ofn.  Roedd ymgyrch Alun Pugh yn gymysgedd rhyfedd o geisiadau i gamarwain etholwyr,  drama a hysteria - ond wnaeth hynny ddim ennill unrhyw bleidleisiau iddo. Un o'r rhesymau am hynny ydi bod y rhan helyw o bobl yn deall pan mae gwleidyddion yn ceisio eu cam arwain, ac yn cymryd hynny fel tystiolaeth o ddiffyg parch llwyr gan y gwleidyddion hynny tuag atynt.  'Dydi pobl ddim yn ceisio cam arwain y sawl maent yn eu parchu. 

Mae'n ymddangos nad ydi'r Blaid Lafur yn Arfon wedi dysgu unrhyw wersi o'u methiant llwyr ym mis Mai.  

1 comment:

WelshnotBritish said...

Wales should not be subsidising English universities when there are perfectly good courses available for Welsh students to take in Wales.