Sunday, October 04, 2015

Llafur a phres y non doms

Dydi Blogmenai ddim yn dyfynu'r Daily Mail yn aml iawn - am resymau amlwg - ond mae'r stori yma yn un digon diddorol.  Ymddengys bod Tom Watson - dirprwy arweinydd y Blaid Lafur - wedi derbyn £40,000 tuag at ei ymgyrch gan Max Mosley.  Byddwch yn cofio nad ydi Max yn arbennig o hoff o'r papurau newydd yn sgil hacio ffonau a chyhoeddusrwydd i sut mae'n treulio ei amser - ahem - hamdden.

Rwan mae'r swm yma'n un enfawr i'r math yma o etholiad, ac mae'n esiampl arall o sut mae pobl gyfoethog yn gwario eu harian i geisio dylanwadu ar y broses ddemocrataidd yn y DU.  Fel yr Arglwydd Ashcroft - oedd yn ol pob tebyg yn disgwyl i'w gyfraniadau enfawr i'r Toriaid brynu'r weinidogaeth amddiffyn iddo - dydi Max Mosley ddim yn byw yn y DU i bwrpas talu cyn lleied o dreth a phosibl.  

Mae'r ddwy blaid fawr unoliaethol a'u gwleidyddion yn derbyn swmiau sylweddol o bres gan bobl sydd ddim eisiau talu cyfraniad teg yn eu trethi.  Dweud y cyfan am natur y pleidiau hynny mewn gwirionedd. 

2 comments:

Anonymous said...

Diom yn gyfreithlon i bleidiau gwleidyddol dderbyn cyfraniadau o dramor. Pam fod o'n dderbyniol iddyn nhw dderbyn cyfraniadau gan bobl sy'n honni eu bod yn byw dramor?

Anonymous said...

Neis gweld stori am ddyn sy'n byw ar lan y Fenai!!

"May I suggest jet setting around the waters of Angelsey ‘James Bond style’ with the RIB RIDE team and learning quite a bit of valuable stuff about the history of the area and the people who live there…

Intrigued? You should be, you also get a close up view of Max Mosley’s North Walian hideaway (wonder what happens in there then??"

http://izzygrey.me/2013/04/07/that-was-one-hell-of-a-ride/