Friday, October 16, 2015

Araith Liz ar foddi Capel Celyn

Wele linc i araith Liz Saville Roberts yn Neuadd Westminster am un o ddigwyddiadau mwyaf arwyddocaol y ganrif ddiwethafyng Nghymru - boddi Capel Celyn hanner canrif yn ol.  Gwliwch hi - mae'n un o'r areithiau hynny oedd angen ei thraddodi


3 comments:

Anonymous said...

Araith wych.

Oes digwyddiad i gofio gyda araith gan yr aelod i Ddwyfor Meirionydd yn ein Senedd ni?

Anonymous said...

Liz a Leanne: Pwy sy'n traddodi neges yn gryfach?

william dolben said...

wel dene i ti gonsensws braf. pawb yn ymddiheuro, pawb yn ymffrostio. yn eu cenedligrwydd...dim sôn am yr FWA ac Owain Williams. dim ond sylwad slei Susan Elan Jones am brofiad Liz o gau ysgolion ym Mhenllyn..... Tybed ffasiwn beth fuasai'r ymateb hen hoelion wyth y Blaid Lafur gynt: Kinnock, Llew Smith ac yn y blaen i gynigiad o'r fath gan Blaid Cymru.......
Trueni mai dim ond 6 o aelodau seneddol Cymru a ddaeth i'r cyfarfod yma gyda 34 yn cadw draw. Tri o'r Blaid bach, Libdem nyrfus Ceredigion yn dangos ei wyneb ond a aeth o'ne cyn i Liz orffen ei haraith, dim ond Susan Elan Jones o'r Blaid Lafur a'r Tori a oedd yn gorfod bod yno am wn i. Er hynny yn y chwedegau roeddynt wedi codi digon o stêm i gael 35 o'r 36 aelod seneddol i fôtio yn erbyn boddi Tryweryn......