Saturday, October 03, 2015

Y Blaid a'r cwestiwn annibyniaeth

Dydw i ddim yn llwyr gytuno efo blogiad Jason ynglyn a Question Time y diwrnod o'r blaen - doedd y rhaglen ddim mor wael a hynny - ac roedd yr amrediad o safbwyntiau oedd yn cael eu cyflwyno yn ehangach o lawer nag oedd yn wir am y rhan fwyaf o'r rhaglenni cyn etholiad cyffredinol mis Mai.



Serch hynny mae ganddo bwynt ynglyn ag ymdriniaeth y Blaid o gwestiwn annibyniaeth.  Yn ol Jason yr hyn ddylai Leanne fod wedi ei ddweud wrth ymateb i gwestiwn ar annibyniaeth oedd y canlynol (yn hytrach na dweud bodi economi'r wlad yn rhy wan ar hyn o bryd):

Yr hyn y dylid ei ddweud ydi hyn: ydi, mae economi Cymru’n wynebu heriau economaidd difrifol, a hynny ers degawdau. Ond dydi’r ffactorau hynny ddim yn cau’r drws ar annibyniaeth, ond yn hytrach maen nhw’n cyfleu yn y ffordd gliriaf posibl pa mor ddiawledig o wael y mae Cymru wedi’i gadael i lawr gan y wladwriaeth Brydeinig.

Cyn mynd ymlaen, efallai y dyliwn ychwanegu i Leanne ddweud yn glir ar y cychwyn bod annibyniaeth yn rhywbeth mae'r Blaid ei eisiau - doedd llefarwyr y Blaid ddim yn dweud hynny'n aml cyn iddi ennill yr arweinyddiaeth.

Serch hynny mae llawer o'r hyn mae Jason yn ei ddweud yn gywir - ond byddwn i'n mynd gam ymhellach na Jason - mae angen gwneud mwy na thynnu sylw at y ffaith bod tlodi Cymru yn ganlyniad uniongyrchol i'w dibyniaeth llwyr ar wlad arall i'w rheoli a cham reoli treuenus y Blaid Lafur Gymreig ers 1999.  

Dylid mynd ati i ddweud bod gwella'r economi yn rhywbeth y byddai'r Blaid mewn llywodraeth yn rhoi calon ac enaid i'w wireddu - yn rhannol oherwydd ei bod yn credu bod pobl Cymru yn haeddu gwell na'r arlwy treuenus sydd yn cael ei chyflwyno ger eu bron ar hyn o bryd, ac yn rhannol oherwydd ei chred y dylai Cymru reoli ei hun - yn union fel y rhan fwyaf o wledydd normal eraill.

Nid gwrthwynebiad athronyddol  ydi'r prif faen tramgwydd i annibyniaeth - sylweddoliad nad oes gan Cymru'r gallu i godi'r trethiant digonol i gynnal ei gwasanaethau cyhoeddus presenol ydi'r broblem.  Dylid cydnabod mai'r unig ffordd i fynd i'r afael a thlodi Cymru ydi cael gwared o'r  llywodraeth drychinebus, di glem sydd ganddom am hyn o bryd.  

Byddai mynd ati i wneud hyn yn niwtraleiddio'r honiad Llafur arferol bod gan y Blaid obsesiwn efo annibyniaeth a materion cyfansoddiadol yn hytrach na rhai economaidd.  Gellid dadlau wedyn mai'r gred mewn annibyniaeth sy'n rhoi'r ffocws i'r Blaid i wella'r economi.  Dim ond trwy wella un y gellir cyflawni'r llall.  Mae cyfoethogi Cymru yn angenrheidiol i'r Blaid os yw am sicrhau annibyniaeth i Gymru.  Mae cadw Cymru'n dlawd yn angenrheidiol i 'r Blaid Lafur os yw am wireddu ei obsesiwn cyfansoddiadol hithau - cadw Cymru'n rhan fach a di ddylanwad o endid cyfansoddiadol llawer mwy.  





2 comments:

Anonymous said...

Ymateb rhesymol iawn i'r blogiad gwreiddiol. Yr unig peth sy'n fy mhoeni o flaen y gynhadledd mis yma ydi hyn : A yw Leanne Wood yn barod i bledio annibyniaeth os ydi hynny'n golygu aros yn wlad dlawd, neu'n dlotach ? Annibyniaeth ydi annibyniaeth di-amod. Nid nod o annibyniaeth sy'n arwain at gyfoeth (fel pleidiau Gogledd yr Eidal), ond fel y Gwyddelod, i fod yn gyfoethocach weithiau, a thlotach ar adegau eraill.
Yn bersonol, yr wyf yn hapus i fyw mewn gwlad lle buasai'r cymoedd yn aros yr un mor dlawd - ni wn i am unrhyw ddatrysiad cyflym na syml i'r cyflwr truenus y maent ynddynt. Oherwydd ei chefndir, credaf fod Leanne Wood yn poeni mwy am gyfiawnder cymdeithasol nac y mae am gyfiawnder cenedlaethol, a bod hyn yn lliwio a llywio ei blaenoriaethau.

Anonymous said...

Tydwi ddim wedi rhoi sylw ar unrhyw flog erioed o'r blaen ond mae'r pwnc yma yn fy mhoeni yn fawr yng ngyswllt cyfeiriad y blaid yn gyffredinol. Yn bersonol dwi'n falch fod Leanne yn nodi yn glir mai annibyniaeth yw nod y blaid ond mae'r manylion o sut y byddai'r blaid yn ein llywio ir diwrnod hir ddisgwyliedig hynny yn brin iawn a thro ar ol tro mae cyfleoedd yn cael eu colli i gyfleu y neges honno.Mae'r pwyntiau isod yn nodi rhai o broblemau y blaid fel yr ydywf i yn eu gweld nhw ar y funud;

1. Diffyg ymroddiad neu ddisgyblaeth Cynghorwyr Plaid Cymru i gefnogi polisiau y blaid ar lefel lleol. Mae hyn yn cael ei amlygu gyda penderfyniadau mewn cyfarfdydd cynllunio ceisiadau am dyrbinau gwynt, pwerdai niwcliar.Yn lle mae'r blaid yn sefyll ar y materion hyn bellach? Does gan yr SNP ddim y problemau yma ac mae gell disgyblaeth.

2. Diffyg gweledigaeth ar sut y byddai Cymru yn cynhyrchu incwm o'i adnoddau naturiol gan gynnwys dwr.(Byddai hanner ceiniog ar bob litr o ddwr o dreth yn deg mi dybiwn i). Mae gan y blaid bolisi cyfredol ar hyn ond prin iawn yw'r son amadano. Mi fyddwn i'n dadlau nad ydym yn wlad dlawd ar ran adnoddau ond mae'r agwedd fel ag y gwelwyd ar question time yn rhy barod i nodi ein gwendidau yn hytrach na chynnig atebion.

3. Mae beirniadu polisiau Llafur yn dacteg gall ond mae methiant i gyfleu neges ein hunain er bod gennym bolisiau cystal neu well.Os nad yw'r wasg genedlaethol yn dangos diddordeb yna mae angen perthnasu ein polisiau ar lefel lleol ac adrodd hynny yn y wasg lleol.

4. Mae'n bryderus fod ateb Charlotte Church yn gliriach nag ateb Leanne ir cwestiwn.