Monday, October 26, 2015

Ymgeisydd Llafur yn is etholiad Cydweli

Mae nifer wedi eu synnu at ddewis Llafur o ymgeisydd ar gyfer yr is etholiad yma sydd i'w chynnal ar Dachwedd 19 yn dilyn marwolaeth Keith Davies (Llafur).


Ryan Thomas, cyn is faer Cydweli ydi'r ymgeisydd.  Daeth Ryan i sylw cyhoeddus yn gynharach eleni pan benderfynodd Gwasanaeth Erlyn y Goron ollwng  achos llys yn ei erbyn ar y bore pan oedd yr achos i fod i fynd rhagddo, wedi iddo ymddiheuro i ddynas ifanc iawn am gyffwrdd a'i bronnau mewn digwyddiad meddw yn ystod seremoni codi maer newydd i Gydweli yn ol ym mis Mai 2014.  Er nad ydi hi'n bosibl enwi'r ddynas o dan sylw am resymau cyfreithiol, mae hi a'i theulu yn adnabyddus iawn yn yr ardal.

Ta waeth, canlyniad byr dymor hyn i gyd oedd i Ryan gael ei esgymuno o'r Blaid Lafur dros dro, ac ymddiswyddodd oddi ar y Cyngor Tref.  Ond mae'n ymddangos mai'r canlyniad yn y tymor ychydig yn llai byr ydi iddo gael ei dderbyn yn ol i freichiau'r Blaid Lafur a'i gyflwyno ger bron etholwyr Cydweli fel ymgeisydd is etholiad Cyngor Sir.  

Rwan dwi'n gwybod bod Ryan yn ifanc, dwi'n gwybod bod ambell i seremoni codi maer yn gallu bod yn bethau rhyfeddol o feddw, dwi'n gwybod bod stwff yn digwydd pan mae pobl o dan effaith y ddiod gadarn, a dwi 'n gwybod am natur y diwylliant Llafuraidd yng Nghymru.  

Efallai y byddai'n briodol i Lafur ganiatau i Ryan ail afael yn ei yrfa wleidyddol ar ol cyfnod rhesymol ar y cyrion - ond does yna ddim cyfnod rhesymol wedi mynd rhagddo.  Ychydig fisoedd yn unig sydd ers ei ymddiheuriad.  

Mae'r 'maddeuant' hynod frysiog yma yn anfon negeseuon cwbl anaddas ynglyn a difrifoldeb ymddygiad rhywiol amhriodol gan ddynion tuag at ferched - ac mae'n awgrymu bod Llafur Cymru -  er gwaetha'r gwaharddiad byrhoedlog - yn cymryd y mater yn weddol ysgafn yn y bon.  

Cofiwch, efallai bod mwy iddi na hynny hefyd - mae yna straeon ar led bod Llafur wedi bod yn e bostio aelodau  newydd oedd wedi ymuno a'r blaid yn sgil ymgeisyddiaeth Corbyn yn yr etholiad arweinyddol a cheisio eu perswadio i sefyll - gan gynnwys rhai sy'n byw ymhell o Gydweli.  Efallai nad oedd fawr neb arall yn fodlon sefyll iddynt - sefyllfa sydd yn gyfarwydd iawn yma yng Ngwynedd.  Os felly, byddai peidio a chynnig ymgeisydd wedi bod yn ddewis callach 
a mwy cyfrifol yn yr amgylchiadau hyn.

Gellir gweld mwy o fanylion yma.  

No comments: